Rydw i'n gwybod fy mod i'n iawn
Thor Heyerdahl, Kon-Tiki, Ra a’r Ra II
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio synnwyr y myfyrwyr o hunangred a dyfalbarhad.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd, ac fe allech chi ddewis un neu fwy o ddarllenwyr i ddarllen stori anturiaethau Thor Heyerdahl.
- Trefnwch fod gennych chi ddelweddau o Thor Heyerdahl, rafft y Kon-Tiki a’r cwch Ra II , a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
- Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Ain’t no mountain high enough’ gan Diana Ross, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
Gwasanaeth
- Dangoswch y ddelwedd o Thor Heyerdahl.
Roedd Thor Heyerdahl, a gafodd ei eni 100 mlynedd union yn ôl i’r mis hwn, yn ddyn a oedd yn argyhoeddedig bod yr hyn yr oedd yn ei gredu’n gywir.
Saib.
Y broblem oedd, roedd pawb arall yn meddwl ei fod yn anghywir.
Ydych chi wedi cael eich hunan mewn sefyllfa felly ryw dro? - Efallai, yn syml, eich bod yn gwybod yr ateb i gwestiwn mewn cwis a does neb arall o’ch tîm yn meddwl eich bod yn iawn. Neu, fe allai fod yn gwestiwn o gyfiawnder – eich bod yn sicr bod rhywun yn ddieuog pan fydd y person hwnnw’n cael ei gyhuddo o gamymddwyn. Fe allai fod yn rhywbeth sy’n ymwneud â’ch perthynas â rhywun – bod gennych chi amheuon o ddifrif ynghylch diffuantrwydd rhywun o fewn eich grwp o ffrindiau. Neu, efallai mai problem ymarferol ydyw – er enghraifft, yr ateb i broblem gyda chyfrifiadur. Yn y cyfan o’r achosion hyn, rydych chi’n cael eich hunan mewn lleiafrif bach iawn, ond er hynny rydych chi’n parhau i fod heb amheuaeth ynghylch y ffaith eich bod chi yn hollol gywir.
- Anturiaethwr oedd Thor Heyerdahl. Roedd wedi cael ei hyfforddi fel biolegydd morol a daearyddwr yn ei wlad enedigol, sef Norwy, ac fe benderfynodd roi ei wybodaeth ar waith ar Ynysoedd Môr y De, yn yr ardal sy’n cael ei galw’n Polynesia. Roedd Thor Heyerdahl yn credu bod yr ynysoedd hyn wedi cael eu poblogi gan bobl a oedd wedi hwylio yno o Dde America. Roedd y gymuned wyddonol, fodd bynnag, yn mynnu bod y boblogaeth wedi cyrraedd yno o’r cyfeiriad hollol groes, sef o Dde-ddwyrain Asia. Credai Heyerdahl bod y prifwyntoedd a’r cerrynt yn ategu ei ddamcaniaeth ef, felly fe benderfynodd brofi hyn.
Dangoswch y ddelwedd o rafft, y Kon-Tiki.
Ar 28 Ebrill 1947, fe gychwynnodd hwylio o arfordir Peru ar rafft wedi ei gwneud o blanciau o bren balsa - fe gredai ef mai’r un math o ddeunydd a fyddai wedi cael ei ddefnyddio filoedd o flynyddoedd ynghynt gan y mewnfudwyr cyntaf. Fe wynebodd Thor Heyerdahl a’i griw stormydd mawr ar y môr, ymosodiadau gan siarcod, a digwyddiad yn ymwneud â morfilod chwilfrydig, cyn glanio ar y traeth ger Tahiti 101 o ddyddiau’n ddiweddarach ar ôl taith o dros 4,000 o filltiroedd.
Saib.
Roedd wedi profi bod ei ddamcaniaeth yn gywir. - Ond, heb fod yn fodlon ag un daith arwrol, yn 1969, fe gychwynnodd Thor Heyerdahl unwaith eto o arfordir Gogledd Affrica mewn cwch wedi ei wneud o gorsennau papurfrwyn ar fordaith ar draws yr Iwerydd. Ei nod oedd profi bod morwyr Eifftaidd wedi croesi’r ffordd hon. Unwaith eto, roedd y ddamcaniaeth hon yn groes i safbwynt gwyddonol y mwyafrif. Yn anffodus, fe fethodd y daith hon iddo oherwydd i’r cwch ddechrau gollwng dwr, ond doedd Heyerdahl ddim am gael ei drechu.
Dangoswch y ddelwedd o’r RA II.
Y flwyddyn ganlynol, fodd bynnag fe lwyddodd i deithio’r 4,000 milltir ar draws y môr o Moroco i Barbados ar yr RA II. - Un peth yw bod yn argyhoeddedig eich bod yn iawn, peth hollol wahanol yw bod yn barod i roi eich holl amser ac ymdrech, a’ch enw da cyfan i brofi hynny.
Os oeddech chi’n iawn ynghylch yr ateb i’r cwestiwn yn y cwis, yna fe fyddai hynny’n dod yn amlwg yn fuan. Os oeddech chi eisiau profi bod rhywun yn ddieuog, yna fe fyddai hynny’n golygu mwy o ddyfalbarhad – fe fyddai’n angenrheidiol siarad â phobl sydd ag awdurdod a’u hargyhoeddi o’r achos.
Mae perthnasoedd yn fater mwy anodd. Fe fyddai’n rhaid i chi fod ag amynedd a doethineb, ac ymddwyn yn gyfrifol, er mwyn gofalu nad oes unrhyw un yn cael ei frifo yn y broses. Fe fyddai datrys problem fwy ymarferol, fel gyda chyfrifiadur, yn golygu dull gwahanol mwy ymarferol. - Fe ddysgodd Iesu ni pa mor bwysig yw dyfalbarhau. Fe ganmolodd y rhai hynny oedd yn barod i ddyfalbarhau i chwilio pan oedd rhywun neu rywbeth ar goll. Fe ganmolodd yr un oedd yn barod i ddyfalbarhau i weddïo pan oedd Duw’n ymddangos fel petai ddim yn ateb. Fe ganmolodd y rhai hynny oedd yn barod i wneud ymdrech i greu sylfaeni da ar gyfer eu bywyd.
Pwysleisiodd Iesu fod dyfalbarhau’n dangos bod y mater yn golygu rhywbeth o ddifrif i ni. Y demtasiwn i ni, yn hytrach na dyfalbarhau, yw chwilio am ddos sydyn, neu’r ateb hawdd, mynd gyda’r dyrfa, neu gymryd y ffordd hawddaf. Ac os nad yw hynny’n gweithio ar unwaith, i wneud dim ond rhoi’r gorau iddi heb fwy o ymdrech.
Amser i feddwl
Fe ddewisodd Thor Heyerdahl y llwybr anodd. Cafodd ei gyhuddo o fod yn drahaus, yn rebel, yn un a oedd yn mynd yn groes i’r hyn yr oedd pobl eraill yn ei feddwl oedd yn iawn. Ond roedd yn credu mewn peidio â chymryd pethau’n ganiataol, a chanfod beth yn wir oedd y gwirionedd.
Fe ddarllenodd ac ymchwilio’n eang, gan adeiladu achos ar gyfer ei syniadau. Roedd yn argyhoeddedig ynddo’i hun ei fod wedi deall pethau’n iawn a’i fod yn barod i fod â dewrder yn ei argyhoeddiadau hyd yn oed i’r graddau o roi ei fywyd mewn perygl.
Pan fyddwn ni’n dewis sefyll ar ben ein hunain, rydyn ni’n gosod ein hunain yn agored i rai cyhuddiadau – o fod yn drahaus, o fod yn rebel, ac o fod yn anwybodus. Mae bob amser yn syniad da bod wedi meddwl trwy bethau’n ofalus cyn gwneud safiad, ac yna fe ddaw’r adeg i fod â dewrder i roi’r amser a’r ymdrech er mwyn profi ein bod ni’n iawn.
Yn olaf, beth fyddwn ni’n ei wneud pan fyddwn yn gallu profi mai ni oedd yn iawn? Mae’n debyg y byddai gwenu’n dawel gyda’n llwyddiant yn well na gweiddi’n uchel, ‘Fe ddywedais i, ndo!’ Mae’r teimlad o fodlonrwydd a gawn ni y tu mewn i ni, a’r enw da newydd rydyn ni wedi ei ennill yn werth y dewrder a gymerwyd i ddyfalbarhau.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am achos i frwydro o’i blaid.
Boed i ni fod yn sicr ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei gredu, yn ddewr wrth i ni chwilio am y gwirionedd, ac yn rasol pan fyddwn ni’n canfod ein bod yn gywir . . . neu’n anghywir!
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol
‘Ain’t no mountain high enough’ gan Diana Ross