Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fe wnawn eu cofio

Ystyried arwyddocâd geiriau traddodiadol y Cofio.

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried arwyddocâd geiriau traddodiadol y Cofio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o gerdd Robert Laurence Binyon, For the Fallen (ar gael ar: www.greatwar.co.uk/poems/laurence-binyon-for-the-fallen.htm, sydd hefyd yn cynnwys llun o’r bardd). Mae’n bosib defnyddio dim ond penillion 1, 3, 4 a 5, yn dibynnu ar oed y plant, ond eglurwch eu bod yn rhan o gerdd hirach. Fe allech chi ddewis cerddi Cymraeg cyfatebol i’w cyflwyno yn ogystal, os dymunwch.
  • Efallai yr hoffech chi drefnu i rai o’r plant ddarllen y penillion.
  • Fe fyddai’n bosib i chi annog y myfyrwyr i gyfansoddi cerddi byr cyn y gwasanaeth yn mynegi eu hymateb i ryfel, i’w darllen yng Ngham 8.
  • Mae’n debyg yr hoffech chi ddefnyddio’r cyflwyniad PowerPoint sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwn, ac sy’n cynnwys y geiriau enwog o’r gerdd: ‘At the going down of the sun and in the morning We will remember them.’
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘We will remember them’ gan Artists Unite to Remember (2009), a recordiwyd i godi arian ar gyfer y Lleng Brydeinig (The Royal British Legion), a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth. Neu, fe allech chi ddangos y fideo o’r gân (ar gael ar: www.youtube.com/watch?v=9SQamBmpdDU).

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at y gweithgareddau sydd wedi eu cynnal i goffau dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

  2. Dangoswch y cyflwyniad PowerPoint, gyda’r geiriau, ‘At the going down of the sun and in the morning We will remember them’, os byddwch yn dymuno defnyddio hwn. Fel arall, fe allech chi eu darllen ac oedi’n ddefosiynol am foment.

    Eglurwch fod y geiriau ‘Ni â’u cofiwn hwy’ neu ‘We will remember them’ i’w gweld ar sawl cofeb rhyfel, ac fe fydd y geiriau’n cael eu defnyddio yn ystod y seremonïau neu’r gwasanaeth ar Sul y Cofio. Bryd hynny, fe fydd y bobl yn adleisio’r geiriau ‘Ni â’u cofiwn hwy’ neu ‘We will remember them’.

  3. Cyfeiriwch at ffynhonnell y geiriau. Nid geiriau o’r Beibl ydyn nhw, na geiriau o ysgrifau hynafol, ond geiriau o gerdd Saesneg gan y bardd Robert Laurence Binyon.

    Darllenwch rai penillion o’r gerdd ‘For the Fallen’, neu gwahoddwch rai o’r myfyrwyr i’w darllen, fel y gwnaethoch benderfynu yn ystod eich gwaith paratoi.

  4. Gwahoddwch bawb i ymateb i’r gerdd. Pa deimladau oedd hi’n eu hysgogi? Sut mae’n disgrifio dewrder y rhai fu’n brwydro, a disgrifio canlyniadau rhyfel?

    Sylwch fod y llinellau’n adlewyrchu emosiynau cyferbyniol o falchder a diolchgarwch, tristwch a galar.

  5. Pwysleisiwch y gallai pawb fod yn synnu wrth glywed nad ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yr ysgrifennwyd y gerdd. Yn wir, fe’i cyhoeddwyd ar 21 Medi 1914, dim ond saith wythnos ar ôl i’r brwydro ddechrau.

    Fe ysgrifennodd Robert Laurence Binyon y gerdd tra roedd yn eistedd ar glogwyn yng Nghernyw yn fuan ar ôl i’r catrodau cyntaf ymadael am Ffrainc. Roedd yr adeg honno’n cael ei nodi â sirioldeb a gobaith. Roedd pobl yn dweud, ‘Fe fydd y rhyfel drosodd erbyn y Nadolig’. Yn anffodus, doedd hynny ddim yn wir. Yn y pedair blynedd wedyn collwyd miloedd o fywydau.

    Ac yntau’n perthyn i’r Crynwyr, roedd Robert Laurence Binyon yn heddychwr. Roedd yn credu nad oedd yn iawn defnyddio trais i setlo anghydfod. Roedd yn rhagweld y byddai dioddefaint mawr a cholledion enfawr o ganlyniad i’r rhyfel. Roedd yn rhy hen i ymrestru ei hunan, ond yn ddiweddarach fe ymunodd â’r Groes Goch a bu’n gofalu am rai oedd wedi eu hanafu.

  6. Gwahoddwch eich cynulleidfa i ystyried eu hymateb eu hunain i'r rhyfeloedd a’r gwrthdrawiadau sydd yn y newyddion ar hyn o bryd.

    A oes digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi heddiw i effeithiau dinistriol gwrthdrawiadau milwrol? Pa deimladau o ofnau y byddai’r myfyrwyr eisiau eu mynegi, efallai?

  7. Cyflwynwch rai o’r myfyrwyr fydd yn dymuno darllen peth o’u gwaith, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

  8. I ddiweddu’r gwasanaeth, gwahoddwch bawb i fyfyrio ar y geiriau, ‘Ni â’u cofiwn hwy’/‘We will remember them’.

    Mae’n weddus i ni anrhydeddu’r rhai hynny fu’n gwasanaethu eu gwlad. Mae hefyd yn bwysig i beidio byth ag anghofio’r golled enfawr, colli bywydau, sy’n digwydd oherwydd rhyfel.

Amser i feddwl

Darllenwch y gerdd, (neu rannau ohoni) For the Fallen, y gwnaethoch ei defnyddio yng Ngham 3.

Os yw hynny’n briodol, diweddwch y gwasanaeth trwy ddefnyddio’r geiriau canlynol:

Pan elo’r haul i lawr
Ac ar wawr y bore,
Ni â’u cofiwn hwy,
Ni â’u cofiwn hwy.

PPT Document

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

We will remember them’ gan Artists Unite to Remember

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon