Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diogelwch y ffyrdd

Byddwch yn amlwg, a gadewch i eraill fod yn ymwybodol ohonoch chi

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Addysgu’r myfyrwyr am bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Pwy all godi eu llaw a dweud wrthyf beth yw peryglon y ffordd fawr?

  2. Ym Mhrydain, mae 1,500 o blant yn cael eu hanafu mewn damweiniau ceir bob blwyddyn a, naw gwaith allan o ddeg, bydd hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw ymwybyddiaeth dda o ddiogelwch y ffordd.

    Gall y ffordd fawr fod yn lle peryglus i unrhyw un, waeth beth yw eu hoed. Gall plant a phobl ifanc fod â diffyg gwybodaeth am ddiogelwch y ffordd, gall pobl hyn fod yn cael trafferth i groesi'r ffordd fawr mewn pryd, ac fe all oedolion fod yn methu â chanolbwyntio'n ddigonol ar ôl diwrnod caled yn y gwaith, efallai.

    Mae diogelwch ar y ffordd yn golygu gwaith tîm - rhaid i bawb ohonom gyd-weithio er mwyn cadw ein ffyrdd yn fannau diogel.

  3. Felly, pam fod y damweiniau hyn yn digwydd?

  4. Mae llawer o bethau mewn cymdeithas y dyddiau hyn sy’n gallu tynnu ein sylw, fel siarad â'n ffrindiau, gwrando ar gerddoriaeth neu edrych ar ein ffonau symudol. Ein gwaith ni yw anwybyddu'r pethau hyn a gofalu am ein diogelwch yn gyntaf.

    Meddyliwch o ddifrif, gall un cip sydyn ar eich ffôn symudol wrth i chi groesi'r ffordd fawr fod yn ddigon i beri i chi golli eich bywyd.  Mae'n bwysig hefyd sicrhau nad ydym ni'n tynnu sylw pobl sy'n ein gyrru ni. Os ydych chi a'ch brodyr neu'ch chwiorydd yn cwffio neu chwarae o gwmpas yn y sedd gefn, gall fod yn anodd i'r gyrrwr ganolbwyntio ar y ffordd.

  5. Flynyddoedd lawer yn ôl, nid oedd yn rhaid i yrwyr a theithwyr wisgo gwregysau diogelwch oherwydd nid oedd pobl yn gwerthfawrogi pa mor bwysig ydyn nhw.

    Yn y flwyddyn 1983, daeth yn rheol i wisgo gwregys, yn ôl y gyfraith, a thrwy orfodi'r ddeddf hon, mae llawer o fywydau wedi cael eu harbed. Nid opsiwn yw'r gwregys diogelwch, ac ni ddylai'r rheol gael ei hanwybyddu. Oeddech chi'n gwybod, pe byddech yn cael eich dal heb fod yn gwisgo'ch gwregys, y gallech dderbyn dirwy hyd at £500? Byddai hynny'n dipyn o fraw i'ch mamau a'ch tadau!

  6. Cafodd y 'Green Cross Code' ei greu i helpu lleihau damweiniau dianghenraid.  Cofiwch, hefyd, os oes gennych frodyr a chwiorydd iau, byddwch yn gosod esiampl, felly peidiwch â chymryd y camau'n ganiataol. Dyma eich atgoffa nawr o'r hyn ydyn nhw, a pham y maen nhw'n bod.

    Chwiliwch am le diogel i groesi

    Mae llawer o bobl yn croesi'r ffordd mewn lleoedd sydd heb fod yn ddiogel. Mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa o risg ar unwaith. Er enghraifft, bydd croesi rhwng dau gar sydd wedi eu parcio neu groesi ar gornel yn lleihau'r olygfa sydd gennych chi a'r gyrrwr, ac felly’n cynyddu'r posibilrwydd o ddiweddu mewn damwain. Chwiliwch am bwyntiau croesi fel croesfan sebra, croesfan pelican neu groesfan pâl.

Stopiwch cyn cyrraedd ymyl y palmant

Y camgymeriad a wna rhai pobl yw stepio i'r ffordd yn rhy frysiog. Mae rhai cerbydau llydan ar y ffordd fawr, ac nid yw rhai gyrwyr yn talu digon o sylw i ochr y ffordd, felly gwnewch ymdrech i gadw’n ddigon pell o’r ochr ac allan o'r traffig.

Edrychwch a gwrandewch am swn traffig

Pan fyddwch yn croesi'r ffordd, mae'n gwneud synnwyr i wrando yn ogystal ag edrych, cyn i chi groesi. Er enghraifft, efallai y byddwch yn clywed swn y traffig yn nesu at gornel, ond yn methu â'i weld. Bydd hyn yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa i benderfynu a rhoi mwy o amser i chi baratoi. Os ydych yn amheus, peidiwch â chroesi.

Bydd gwrando ar gerddoriaeth neu edrych ar eich ffôn symudol, neu’n siarad arni, yn eich rhwystro rhag canolbwyntio, ac felly maen nhw'n bethau peryglus iawn i’w defnyddio pan fyddwch chi’n croesi’r ffordd.

Os yw traffig yn nesáu, gadewch iddo fynd heibio

Os gwelwch chi geir yn nesáu, pa un a ydych chi ar frys, ai peidio, peidiwch â cheisio croesi'r ffordd fawr yn sydyn. Mae'r risg yn enfawr. Yn lle hynny, byddwch yn amyneddgar a chroeswch pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny.

Pan fydd hi'n ddiogel, croeswch y ffordd, daliwch i edrych o'ch cwmpas a pheidiwch â rhuthro

Wrth i chi groesi'r ffordd, gall amgylchoedd newid yn gyflym iawn, dyna pam y mae hi'n bwysig i ddal ati i edrych o'ch cwmpas. Er enghraifft, gall beic-modur oddiweddyd cerbyd sy'n teithio'n araf heb sylweddoli ei fod yn teithio'n araf oherwydd bod croesfan i gerddwyr gerllaw. Pe byddech yn rhedeg, fe fyddai hynny’n lleihau eich amser i chi feddwl. Os ydych yn cerdded a bod eich amgylchoedd yn newid, byddwch yn gallu cymhwyso'r sefyllfa mewn da bryd ac yn llawer rhwyddach na phe byddech yn rhedeg.

Chwaraewch fideo diogelwch ar y ffyrdd 1, 2 neu 3.

7. Codwch eich llaw, unrhyw un sy’n gallu gweld yn glir yn y tywyllwch?

Yn anffodus, fydd bwyta llawer o foron ddim yn ein helpu i weld yn y tywyllwch!

Pan fyddwch chi’n gyrru, ac mae'n dywyll, mae'n anodd iawn gweld i ba le yr ydych yn mynd.  Mae'r un peth yn wir yn achos cerddwyr.

Byddwn yn rhoi'r golau ymlaen gartref er mwyn gweld yn y tywyllwch, felly pam na ddylai hi fod yn wahanol pan ydym ar y ffordd? Mae dulliau o sicrhau y byddwn yn gallu cael ein gweld.

Un ffordd o fod yn amlwg yw trwy wisgo siaced uwch-weledol adlewyrchol. Mae goleuadau sy'n fflachio hefyd yn ddangosydd gwych o'ch presenoldeb ar y ffordd. Bydd golau coch sy'n fflachio yn ymdebygu i oleuadau sydd ar gefn car sy'n brecio neu'n rhybuddio fod problem, a bydd hynny’n peri i geir arafu.

Amser i feddwl

Gadewch i bob un ohonom gau ein llygaid.

Meddyliwch am y ffyrdd rydych chi’n eu croesi bob dydd – fyddwch chi bob amser yn ofalus?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein hamddiffyn, am wylio trosom ac am ein harwain.
Boed i ti barhau i’n harwain a’n caru fel y  gallwn ni ddilyn yn ôl dy droed di.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon