Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Guy Fawkes yn cwrdd ag Iesu

Math gwahanol o chwyldroadwr

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o chwyldro, gan ddefnyddio Guy Fawkes ac Iesu fel enghreifftiau o actifyddion cyferbyniol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo TrueTube Gunpowder, Treason & Plot a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.truetube.co.uk/film/gunpowder-treason-plot). Chwaraewch hwn hyd at y marc 2.20 munud, a stopio’r fideo ar y pwynt hwn cyn i’r arbenigwr gael ei gyflwyno.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Revolution’ gan y Beatles a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Yn y flwyddyn1605, cynlluniodd 13 o ddynion ifanc chwyldro. Roedden nhw'n gwrthwynebu'r hyn oedd yn ymddangos iddyn nhw fel erledigaeth grefyddol yn erbyn credinwyr Catholig Rhufeinig ledled Prydain. Dechrau'r chwyldro fyddai achosi ffrwydrad i ddinistrio adeilad y Senedd yn Llundain - canolbwynt y grym gwleidyddol. Cafodd cyfanswm o 36 baril o ffrwydron eu cuddio yn selerau'r adeilad. Pe byddai'n llwyddiannus, fe fyddai'r weithred dreisgar hon wedi lladd y brenin ac aelodau'r Senedd.

Dangoswch y fideo TrueTube: ‘Gunpowder, Treason & Plot’.



Fel y gwyddom, cafodd y cynlluniau i lofruddio'r brenin a'i Senedd eu hatal. Cafodd yr awdurdodau eu rhybuddio mewn pryd, ac fe aethant ar frys i lawr i'r selerau ar 5 Tachwedd a dal un o'r troseddwyr, Guy Fawkes, gyda barilau o ffrwydron. Cafodd ef a'i gyd-gynllunwyr eu harteithio a'u dienyddio.

Yr hyn sydd yn cael ei gofio am y chwyldro hwn yw'r traddodiad yr ydym yn ei fwynhau hyd heddiw, sef coelcerthi ac arddangosfeydd tân-gwyllt ar 5 Tachwedd, y diwrnod y cafodd y cynllwyn ei rwystro.

Felly, beth yn union yw ‘chwyldro’? Mae'r gair yn golygu'n llythrennol i rywbeth wneud tro cyflawn, fel tro ar olwyn. Yr ydym hefyd yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ‘tro cylch’ cyflawn gan lywodraeth y wlad, sy'n digwydd yn aml o ganlyniad i weithred gan luoedd arfog. Fe brofodd Ffrainc chwyldro treisgar enwog, fel hefyd y gwnaeth Rwsia. Bu rhai chwyldroadau llai treisgar, un hyd yn oed yn cael ei galw yn ‘Chwyldro Felfed’, trwy i rym y bobl yn eu niferoedd, ennill y dydd. 

Sut bynnag y caiff ei gyflawni, y nodwedd gyffredin o chwyldro yw bod un dull o lywodraeth yn cael ei ddisodli yn gyfan gwbl gan un arall. Er enghraifft, comiwnyddiaeth yn disodli cyfalafiaeth, gweriniaeth yn disodli brenhiniaeth neu ddemocratiaeth yn disodli un-benaethiaid. Gall, wrth gwrs, y gwrthwyneb ddigwydd!  Bu sawl chwyldro tebyg dros y blynyddoedd diwethaf ac ni fu canlyniad pob un ohonynt gyda'r gorau . . .

Roedd y chwyldro a gynllwyniodd Guy Fawkes a'i gyd-chwyldroadwyr wedi ei drefnu i ddod â newid fel hyn. Pe byddai'r brenin a'r Aelodau Seneddol wedi cael eu lladd, yna, roedden nhw'n gobeithio, byddai aelod arall o'r teulu brenhinol yn arwain y wlad, un fyddai â mwy o gydymdeimlad tuag at achos y Catholigion Rhufeinig.

Roedd hi'n wahanol ychydig yng nghyfnod Iesu.

Darllenydd 1 Roedd yr Iddewon yn byw mewn gwlad oedd wedi ei meddiannu. Roedden nhw dan reolaeth Ymerodraeth nerthol y Rhufeiniaid. Trefedigaeth wladychol fechan oedd Israel, gyda'i phoblogaeth yn cael eu gorfodi i dalu trethi a gweithlu i lywodraeth estron oedd â'i bencadlys mewn prifddinas ymhell i ffwrdd. Roedd peth fel hyn yn annerbyniol gan Iddewon balch. Roedden nhw wedi bod yn breuddwydio am genedlaethau lawer am ddyfodiad arweinydd chwyldroadol, y Meseia, a fyddai'n dymchwel y pwer/gelyn oedd wedi meddiannu eu gwlad a'u rhyddhau. Pan ymddangosodd Iesu, yr oedd llawer yn gobeithio mai ef fyddai'r un i arwain y chwyldro hwn.

Arweinydd  Fel y gwyddom, fodd bynnag, dyma rôl a wrthododd Iesu. Pan ofynnodd ei ddisgyblion y cwestiwn hwnnw'n blaen iddo, fe fynegodd yn eglur nad ei genhadaeth oedd bod yn arweinydd gwleidyddol. A yw hynny'n golygu, felly, nad oedd yn chwyldroadwr?

Darllenydd 2 Gwnaeth Iesu ddefnydd cyson o air chwyldroadol: y gair hwnnw oedd ‘edifarhewch’. Mae edifarhau yn golygu gwneud tro hanner cylch (180 gradd) a symud i'r cyfeiriad cyferbyniol. Gall rhai pobl gael eu temtio i ddweud nad yw hynny chwyldro llawn - hanner ffordd yn unig y mae'n mynd! Fe hoffwn i gynnig i chi fod edifeirwch yn fwy o chwyldro na gwneud tro cylch cyfan. Mewn termau corfforol mae'n amlwg, onid yw? Mae chwyldro llawn mewn gwirionedd yn eich cadw i fynd i'r un cyfeiriad. Mae edifeirwch yn eich troi o gwmpas fel eich bod yn symud i gyfeiriad newydd yn gyfan gwbl. Ni all ddim bod yr un peth mwyach.

Arweinydd  Mae'r ‘chwyldro edifeiriol’ hefyd yn chwyldro sy'n dechrau nid â systemau gwleidyddol na grwpiau cymdeithasol, ond yn hytrach gan unigolion fel chi a fi. Mae'n ymwneud â chydnabod bod ein meddyliau, ein geiriau, a'n gweithredoedd nad ydynt bob amser yn bethau yr ydym yn falch ohonynt. Fel mater o ffaith, weithiau, i fod yn onest, rydym yn gallu bod â chywilydd ohonynt. Byddai'n well o'r hanner ein bod yn symud mewn cyfeiriad gwell, fel bo troi trwy 180 gradd, fod yn syniad da. Dyma'r math o chwyldro sydd yn gallu mynd yn wirioneddol at ganol pethau.

Yr hyn sy'n gwneud y dull edifeiriol o chwyldro yn ddiddorol yw, os bydd unigolion yn troi i ffwrdd oddi wrth ymddygiad nad ydynt yn hapus yn ei gylch, fel arfer mae'n golygu eu bod yn troi i gyfeiriad y geiriau cadarnhaol/positif, feddyliau a gweithredoedd, y rhai sy'n dod â thrugaredd, cyfiawnder, gwirionedd a heddwch. Yn ddiddorol, mae'r canlyniad ar y diwedd yw bod newid gwleidyddol a newid cymdeithasol hefyd yn dod, ond heb rym milwrol - caiff y tlodion gymorth, y newynog eu bwydo, y digartref yn cael rhywle i fyw ynddo, y rhai sy'n dioddef rhagfarn yn cael eu derbyn, a phethau anghywir yn cael eu cywiro.

Amser i feddwl

Mae noson Tân Gwyllt, 5 Tachwedd, yn cynrychioli chwyldro aflwyddiannus. Gall, fodd bynnag, ein hannog i ystyried chwyldro arall a all, efallai, weithio drosom a thros y gymdeithas yr ydym yn byw ynddi - chwyldro edifeiriol Iesu.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y posibilrwydd y gallwn wneud newidiadau er gwell i’n bywydau a’n cymunedau.
Rho i ni’r cymhelliad i weithio tuag at gyflawni’r newidiadau hynny.
Boed i hynny ddigwydd ynom ein hunain i ddechrau.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Revolution’ gan y Beatles

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon