Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nadolig yn Gaza?

gan Us (formerly USPG)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio sut mae’r Nadolig yn wahanol iawn mewn ardaloedd sydd wedi profi gwrthdaro.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am wybodaeth ynghylch y dinistr ychydig cyn y cadoediad yn Gaza, ar wefan y BBC ar: www.bbc.co.uk/news/world-middle-east-28850510 ac ynghylch y sefyllfa yn Gaza yn fuan ar ôl y cadoediad oddi ar wefan gan y Cenhedloedd Unedig United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs (OCHA) ar: www.ochaopt.org/content/gaza-strip-humanitarian-dashboard-november-2014
  • Cewch wybodaeth ddiweddar am y sefyllfa yn Gaza oddi ar wefan gan y Cenhedloedd Unedig United Nations Relief and Works Agency (UNRWA) Emergency Reports ar y dudalen: www.unrwa.org/newsroom/emergency-reports
  • Hefyd ceir diweddariad ynghylch sut mae Us yn cefnogi’r ysbyty, Al Ahli Hospital – a manylion sut i gyfrannu tuag at y gwaith yno o ddydd i ddydd, a’r gwaith ailadeiladu sy’n digwydd yno – ar y wefan: www.uspg.org.uk/worldwide/palestine/ USPG yn cefnogi’r ysbyty hwn, Al Ahli Anglican Hospital yn Gaza, diolch i gyfraniadau hael i’n cronfa Rapid Response Fund.
  • Efallai yr hoffech chi drefnu bod map o’r byd ar gael gennych chi er mwyn dangos i’ch cynulleidfa yn ystod y gwasanaeth ble mae Gaza, a dangos pa mor fach yw’r ardal, yn ogystal â rhai delweddau o Gaza ar ôl y gwrthdaro, sy’n nodi maint y dinistr yno.

Gwasanaeth

  1. Caewch eich llygaid a threuliwch ychydig funudau yn dychmygu beth fyddai eich Nadolig perffaith.

    Ymhle rydych chi? Gyda phwy ydych chi? Beth ydych chi’n ei weld? Beth ydych yn ei glywed? Beth ydych chi’n gallu ei arogli? Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato ac yn teimlo’n gyffrous yn ei gylch?

    Gadewch amser i'r myfyrwyr ddelweddu hyn o ddifrif yn eu meddyliau. Yna, derbyniwch rai atebion ganddyn nhw am yr hyn y maen nhw wedi ei ddychmygu.

  2. Yn awr, a fedrech chi ddychmygu beth fyddai'n wahanol heb ddwr glân rhedegog, a dwr sy’n ddiogel i’w yfed?

    Derbyniwch atebion, a all gynnwys eich bod yn methu coginio'r cyfan o'r bwyd, na chael dwr glân i’w yfed, methu defnyddio'r ystafell ymolchi, na hyd yn oed i ddyfrio'r planhigion!

  3. A fedrech chi ddychmygu beth fyddai'r gwahaniaeth heb drydan?                                                                                                                                             

    Derbyniwch atebion, a allai gynnwys eich bod yn methu coginio’n hwylus, fyddai gennych chi ddim golau (yn cynnwys dim golau ar y goeden Nadolig), dim cerddoriaeth, dim teledu, ffilmiau, gemau fideo na chyfrifiaduron, dim mynediad i'r Rhyngrwyd na modd i wefru ffonau symudol.

  4. Yn awr, sut beth fyddai'r sefyllfa pe byddai eich cartref wedi cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio?

    Derbyniwch atebion ac anogwch y myfyrwyr i ymhelaethu ar yr oblygiadau o beidio gallu bod yn eu cartrefi eu hunain.

  5. Rhowch i'r myfyrwyr ychydig o gefndir y gwrthdaro a ddigwyddodd yn Israel a Gaza dros 50 diwrnod yn yr haf, gan ganolbwyntio'n benodol ar ei effaith ddifrodus ar isadeiledd y wlad a thiriogaeth dlodaidd a phoblog dwys Gaza. Fe allech chi hefyd, efallai, grybwyll lleoedd eraill lle mae gwrthdrawiadau sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar.

    Erbyn y daeth y cadoediad i fod ar 26 Awst:
    - roedd 450,000 o bobl heb gyflenwad o ddwr glân
    - roedd 18,000 o gartrefi wedi cael eu dinistrio neu eu difrodi'n ddifrifol
    - roedd 110,000 o bobl mewn llochesau argyfwng neu'n lletya gyda theuluoedd eraill
    - roedd yr unig waith pwer yn Gaza wedi ei ddifrodi cymaint fel nad oedd yn gallu gweithredu, ac o ganlyniad y mwyaf o drydan y gallai'r bobl ei dderbyn oedd rhyw ddwy awr y dydd ...

    Ar gyfer myfyrwyr hyn, gallech archwilio hefyd faterion yn ymwneud â dibyniaeth y bobl ar fwyd a cholli busnesau a bywoliaethau.

  6. Fel mae'r Nadolig yn nesáu, byddwn yn cofio am enedigaeth Iesu mewn stabl. Y dyddiau hyn rydym yn disgwyl i fabanod gael eu geni mewn ysbytai, ond beth allai gwraig oedd ar fin esgor wneud os oedd yr ysbyty lleol wedi ei ddifrodi?                                                                                                                                               

    Siaradwch am y difrod a wnaed i Ysbyty Al Ahli, sy'n cael ei redeg gan Esgobaeth Jerwsalem, a pha mor bwysig yw ei fod yn cael ei ail-adeiladu a'r cyfleusterau meddygol yn cael eu hatgyweirio.

    Mae pobl o bedwar ban y byd yn anfon arian i helpu atgyweirio'r ysbyty a sicrhau y gall helpu pobl sy'n wael, wedi eu niweidio - neu wragedd sydd ar fin rhoi genedigaeth - y Nadolig hwn.

    Os yn briodol, soniwch fod modd anfon anrhegion i helpu'r gwaith o ail-adeiladu'r ysbyty.

  7. Un o'r teitlau a roddwyd i Iesu yw Tywysog Tangnefedd. I bobl yn Gaza – ac mewn ardaloedd eraill lle bydd gwrthdrawiadau yn cael effaith ar bobl y Nadolig hwn – gall heddwch fod yr anrheg fwyaf a'r orau oll y gallen nhw obeithio ei derbyn y Nadolig hwn.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ymdawelu am foment i feddwl am yr holl bobloedd hynny o gwmpas y byd na fydd eu Nadolig mor llawen oherwydd eu bod yn byw mewn ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan ryfel a gwrthdaro.

Meddyliwch am bobl heb ddwr na thrydan.

Meddyliwch am bobl sydd â'u cartrefi wedi eu difrodi'n ddrwg neu wedi eu dinistrio.

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar ein bod yn byw mewn lle heddychlon a'n bod yn rhydd i ddathlu'r Nadolig gyda'r cyfan yr ydym ei angen. Gadewch i ni geisio cofio pa mor lwcus ydyn ni'r Nadolig hwn, a rhannu ein hanrhegion gyda'r rhai hynny sy'n llai ffodus na ni.

Mae'r weddi yr wyf ar fin ei darllen wedi ei sylfaenu ar weddi sy'n perthyn i Gyngor Sefydliadau Crefyddol yn y Wlad Sanctaidd.

Gweddi
Ysbryd Duw,
sy'n ymsymud yn ein plith a'n galw i garu a gwneud pethau'n newydd, gweddïwn y bydd heddwch yn y mannau hynny lle cafodd Iesu ei eni, ac y bu'n addysgu ac yn iacháu ynddyn nhw.

Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Let there be peace on earth, and let it begin with me’, a gyfansoddwyd gan Jill Jackson a Sy Miller

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon