Rhyddid
Ystyried y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl eu bod yn rhydd.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl eu bod yn rhydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe gynhaliodd y BBC dymor ‘Freedom 2014’ gan ofyn i lawer o bobl ledled y byd beth oedd ystyr rhydid iddyn nhw. Os bydd hynny’n bosib, dangoswch y clip fideo, oherwydd ei fod yn ardderchog (ar gael ar: www.bbc.co.uk/news/magazine-26614481).
- Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân ‘Free’ gan George Michael, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Tybed beth mae’r gair ‘rhyddid’ yn ei olygu i chi?
Yn ein cymdeithas Orllewinol, mae gennym yn aml fwy o gonsyrn am yr hyn nad oes gennym na'r hyn sydd gennym. Rydym yn ‘rhydd’ ac mae gennym y ‘rhyddid’ i wneud fel y mynnwn, o fewn rheswm, ac oddi mewn i ffiniau'r gyfraith. - Rwyf eisiau edrych heddiw ar yr hyn y mae rhyddid yn ei olygu i wahanol bobl o gwmpas y byd. Y peth cyntaf yr hoffwn i ni ei wneud, fodd bynnag, yw ystyried beth yw lliw rhyddid. Pa liw all hwnnw fod?
Derbyniwch atebion gan aelodau o’ch cynulleidfa, ac o bosib eu rhesymau dros ddewis y lliwiau maen nhw’n eu hawgrymu. Fe allech chi gael awgrymiadau bod rhyddid yn wyn neu hyd yn oed yn lliwiau’r enfys.
- Darlledodd y BBC dymor o ‘Freedom 2014’. Gofynnwyd i lawer o bobl ledled y byd beth oedd rhyddid yn ei olygu iddyn nhw. Rydym yn mynd i edrych ar fideo sy'n cynnwys rhai o'u hatebion ac, ar y diwedd, rwyf am i chi geisio dewis un person yn unig sy'n amlwg i chi.
Dangoswch y clip fideo, yna derbyniwch atebion.
Tybed pa ddarlun y byddech yn ei gymryd neu eiriau y byddech yn eu dweud pe byddech chi’n cael y cwestiwn. Ym mha ffordd y byddech chi’n dangos sut beth yw rhyddid? - Yn aml, pan fyddwn eisiau cosbi rhywun am rywbeth, byddwn yn cyfyngu ar ei ryddid. Felly, os buoch chi ar unrhyw adeg yn ddrygionus neu'n anufudd i'ch rhieni, mae'n hollol bosib i chi gael eich gwahardd rhag gadael y ty. Fe fydden nhw wedi atal eich rhyddid a'ch gallu i fynd a dod fel y mynnech chi, neu efallai y bydden nhw wedi gosod rhai amodau arnoch chi.
Fe fydden nhw wedi gwneud hyn oherwydd eu bod wedi colli elfen o ymddiriedaeth ynoch a byddech wedi gorfod ymdrechu'n galed i'w adennill a'i adfer.
Fel cymdeithas, byddwn yn atal rhyddid pobl os ydyn nhw wedi torri'r gyfraith neu niweidio rhywun. Mae cyfyngu ar eu gallu i fynd a dod fel y mynnont, cyfyngu ar eu rhyddid, yn rhywbeth nerthol iawn. Mae'n gyfystyr â dweud os na allwch barchu eraill, fe ddylai eich gallu i fwynhau rhyddid gael ei gwtogi mewn rhyw ffordd. - Mae cyfyngu ar ryddid yn rhoi grym i rywun dros rywun arall. Bydd rhieni yn gosod gwaharddiad ar eu plant er mwyn gosod ac ail-sefydlu ffiniau, ond fe ddylid defnyddio'r grym hwn yn ofalus ac â chryn feddwl. Dyna paham y mae pobl yn mynd trwy achosion llys yn y wlad hon cyn y maen nhw'n cael eu hanfon i garchar.
- Fel bodau dynol, mae gennym 'ewyllys rydd'. Gallwn wneud dewisiadau clir ynglyn â'n bywydau, ein safiad moesol a'r hyn a wnawn. Gyda'r rhyddid hwnnw, fodd bynnag, daw cyfrifoldeb. Ydym, rydym yn rhydd i wneud dewisiadau, ond a ydym hefyd yn rhydd i wneud yr hyn a ffynnwn ni pe byddai'r dewisiadau hynny'n niweidiol i rywun arall?
Mae'n werth ystyried, bob amser, a fydd y dewisiadau a wnewch yn cael effaith neu'n niweidio rhywun arall ai peidio. Mae'r un peth yn wir am y rhyddid i ddweud yr hyn a fynnwn, Ydi, mae'n bwysig i bobl gael dweud yr hyn sydd ar eu meddyliau a gosod her i awdurdod os oes raid, i anghytuno â llywodraethau a phleidiau gwleidyddol a'r hierarchaeth os dymunant. Ond, os yw eich rhyddid i ddweud eich dweud yn niweidio teimladau rhywun a dinistrio'u hunan-barch a chymryd nemor ddim sylw o'r rhai fydd yn ei glywed, yna nid ydych wedi ystyried eich geiriau'n ddoeth. Felly, mewn ffordd, rydych chi wedi bod yn annoeth yn y defnydd o ryddid a roddwyd i chi. Dydych chi ddim wedi defnyddio eich rhyddid yn gyfrifol. - Mae rhyddid yn rhan hanfodol o'r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol - gan hynny caiff ei gynnwys ym mhob cyfansoddiad, cyfreithiau a statudau - a phan gymerir ef ymaith, gall yr effeithiau fod yn wanychol a niweidiol.
- Felly, byddwch yn wyliadwrus o ba mor rhydd yr ydych mewn gwirionedd. Ystyriwch bwysigrwydd eich rhyddid a meddyliwch am y rhai hynny sydd ddim yn gallu siarad yn rhydd neu sy'n byw mewn perygl o golli eu rhyddid heb unrhyw reswm dilys. Cymerwch gyda chi eich lliw a'ch delwedd o ryddid i mewn i weddill eich diwrnod.
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio ychydig funudau yn meddwl am enghreifftiau yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar ar y cyfryngau o bobl sydd â'u rhyddid wedi ei gyfyngu neu wedi ei golli, o bosib oherwydd eu bod wedi torri'r gyfraith neu o ganlyniad i aflonyddwch neu afiechyd yn yr ardal lle maen nhw'n byw.
Sut byddech chi'n gallu cefnogi mudiadau dros ryddid a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar y bobl hynny?
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Free’ gan George Michael
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.