Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byw ar y Breindaliadau

Yr anrheg Nadolig sy’n para am byth

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o le canolog genedigaeth Iesu yn y gred Gristnogol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Chwiliwch am y poster yn hysbysebu’r ffilm About a Boy, a threfnwch fodd o ddangos y ddelwedd hon yn ystod y gwasanaeth.
  • Dewiswch eich hoff gerddoriaeth Nadoligaidd a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth honno ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Beth yw eich hoff gân Nadoligaidd?

Darllenydd 1  Rydw i’n hoffi’r hen ganeuon fel ‘White Christmas’ a ‘Have yourself a merry little Christmas’. Mae’r rhain yn dod â’r teulu cyfan, pob cenhedlaeth, at ei gilydd.

Darllenydd 2  Mae’n well gen i’r carolau y mae pawb yn eu cyd-ganu - ‘Dawel nos’, ‘O deuwch ffyddloniaid’, neu ‘O dawel ddinas Bethlehem’. Does dim byd tebyg i wasanaeth yng ngolau canhwyllau o gwmpas golygfa’r preseb, er bod rhai sy’n well ganddyn nhw ganu’r carolau i lawr yn y ty tafarn lleol.

Darllenydd 3  Rhowch i mi’r canu poblogaidd bob amser -caneuon fel, ‘Merry Christmas everybody’, ‘Santa Claus is coming to town’, ‘Rocking around the Christmas tree’ - dyma’r math o ganeuon sy’n ein rhoi ni yn ysbryd y Nadolig yn ein ty ni.

Arweinydd  Mae rhywbeth ynghylch y caneuon Nadoligaidd hyn sy’n parhau am hir. Rywsut, mae ganddyn nhw werth sy’n dal ymlaen o flwyddyn i flwyddyn. Efallai bod hynny’n digwydd am nad ydyn ni’n eu clywed ar hyd gweddill y flwyddyn rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd, ac felly maen nhw’n swnio’n ffres bob tro.

Dangoswch y ddelwedd o’r poster sy’n sôn am y ffilm ‘About a Boy’.

Mae’n debyg eich bod wedi gweld y ffilm hon - About a Boy  - ryw Nadolig. Ers iddi gael ei rhyddhau yn y flwyddyn 2002, mae wedi bod yn cael ei dangos bob blwyddyn ar y teledu tua’r adeg hon o’r flwyddyn.

Mae stori’r ffilm yn ymwneud â chymeriad sy’n cael ei chwarae gan yr actor Hugh Grant, sydd ddim yn gorfod chwilio am waith i gael arian. Mae ei incwm yn dod o’r breindaliadau sy’n cael eu talu iddo am gân Nadoligaidd a oedd wedi ei chyfansoddi flynyddoedd ynghynt gan ei dad sydd, erbyn hyn, wedi marw. I’r rhai hynny ohonoch sydd ddim yn siwr beth yw ‘breindal’ - bob tro yr oedd cân ei dad yn cael ei chwarae ar y radio neu ar y teledu, ei chwarae mewn hysbyseb neu mewn siop, neu’n cael ei llwytho i lawr, mae swm o arian yn cael ei roi yng nghyfrif banc y cymeriad y mae Hugh Grant yn ei chwarae. Yr enw ar y swm hwn o arian yw breindal, ac mae’n ffi sy’n cael ei thalu am gael defnyddio’r gân. Yn ein byd go iawn hefyd, mae’r un peth yn union yn digwydd gyda llawer o’r caneuon y byddwn ni’n eu clywed.

Darllenydd 1  Bob tro y bydd y gân ‘Happy Christmas (war is over)’ yn cael ei chwarae, fe fydd ystâd John Lennon yn derbyn tâl, er bod John Lennon ei hun wedi marw.

Darllenydd 2  Bob tro y bydd y gân ‘Merry Christmas everybody’ yn cael ei chwarae, fe fydd Noddy Holder ychydig yn gyfoethocach.

Darllenydd 3  Mae’r gân ‘Fairytale of New York’ yn ennill ffortiwn i Jem Finer a Shane MacGowan bob blwyddyn.

Arweinydd  Un agwedd gadarnhaol ar hyn yw’r ffaith bob tro y bydd y gân ‘Do they know it's Christmas?’ yn cael ei chwarae mae arian yn mynd i’r elusen Band Aid, ac mae’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i helpu atal tlodi ledled y byd. Dyna sut mae breindaliadau’n gweithio. Mae un gân sy’n cael ei hysgrifennu un Nadolig yn ennill arian flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dathliad un digwyddiad yw’r Nadolig - genedigaeth Iesu yn nhref Bethlehem, sydd yn y wlad rydyn ni heddiw’n ei galw’n Palestina, ond a oedd bryd hynny’n lle pellennig yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Eto, mae Cristnogion yn credu bod yr un digwyddiad hwn wedi cael effaith sy’n parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn union fel breindaliadau’r caneuon. Mae Cristnogion yn credu bod rhodd Duw i ddynoliaeth, sef y baban bach a oedd yn fab iddo, yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.

Amser i feddwl

Arweinydd  Sut mae Iesu’n effeithio ar y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw?

Darllenydd 1  Mae Cristnogion yn credu bod y Nadolig yn ymwneud â Duw’n camu i mewn i’ch byd chi a minnau, gan gymryd arno ffurf ddynol a rhannu profiadau ein bywyd. Mae’n gwybod sut beth yw chwerthin a sut beth yw crio, sut beth yw bod yn rhwystredig a sut i fwynhau. Felly, mae siarad â Duw, a gwrando arno, yr un fath â gwrando ar ffrind, a siarad â ffrind agos, yn hytrach nag â bodolaeth bell.

Darllenydd 2  Mae Cristnogion yn credu bod y Nadolig, nid dim ond yn ymwneud â chofio rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol. Mae’n ymwneud hefyd â dwyn i’r presennol bopeth yr oedd Iesu’n ei gynrychioli yn ei fywyd, ei storïau, ei arweiniad a’i esiampl. Mae’r hyn a ddywedodd am arian yn berthnasol heddiw. Mae’r hyn a ddywedodd am berthnasoedd yn berthnasol heddiw hefyd. Ac mae’r hyn a ddywedodd am faddeuant yn berthnasol iawn heddiw.

Darllenydd 3  Mae Cristnogion yn credu bod y byd yn wir wedi newid oherwydd y Nadolig cyntaf hwnnw. Fe arweiniodd genedigaeth Iesu at fywyd, ac yn y pen draw at farwolaeth ac atgyfodiad 33 mlynedd yn ddiweddarach.

Arweinydd  Mae Cristnogion yn credu bod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn rhoi persbectif hollol newydd i ni ar fywyd a marwolaeth, ar yr hyn sy’n iawn a’r hyn sydd ddim yn iawn, ac ar euogrwydd a chyfiawnder. Fel mae cân yn ennill breindal flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae ystyr y Nadolig yn gallu treiddio i mewn i’n bywydau ninnau o ddiwrnod i ddiwrnod, o fis i fis, ac o flwyddyn i flwyddyn, os gwnawn ni ddewis dilyn Iesu. Dyma rodd sy’n parhau i roi..

Wn i ddim pa un yw eich hoff gân Nadoligaidd chi, ond ar ddiwedd y gwasanaeth rwy’n mynd i chwarae un o’m hoff ganeuon i.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti fod y Nadolig yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn dod â’i gyffro a’i fwynhad a’i gyfle i rannu.
Atgoffa ni bod Iesu’n ganolog i’r Wyl.
Boed i ni gofio pwrpas ei enedigaeth a dilyn ei ffordd o ddydd i ddydd yn ein bywyd.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Chwaraewch eich hoff gerddoriaeth Nadoligaidd

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon