Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Momentau Datguddiad

Yr Ystwyll, 6 January

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried sylweddoliad y Doethion mai Iesu oedd Mab Duw.

Paratoad a Deunyddiau

Chwiliwch am rai delweddau o ‘fomentau bwlb golau’ (‘light bulb moments’) neu fomentau datguddiad, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (fe allech chi chwilio ar Google images neu www.pinterest.com/clarinette07/epiphany-moments ond cofiwch wirio’r hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch ddelwedd o ‘foment bwlb golau’.

    Caiff ‘momentau bwlb golau’ yn aml ei alw yn foment ‘Aha!’. Mae'n foment pan fyddwn, yn sydyn, yn dechrau gweld a deall rhywbeth sydd, tan hynny, heb wneud llawer o synnwyr i ni neu heb fod o unrhyw arwyddocâd i ni. Gall hyn fod yn foment pan fyddwch yn dirnad y broblem fathemategol ddyrys honno neu’n deall goblygiadau'r prawf gwyddonol hwnnw.

    Fel arfer bu llawer o feddwl a myfyrdod ymlaen llaw ar y mater, ond, hyd y foment honno, ddim cam yn nes o ran dealltwriaeth.

  2. Cafodd Archimedes, ysgolhaig Groegaidd, foment ‘bwlb golau’.  Dringodd i mewn i'r bath a sylweddoli fod lefel y dwr yn codi. Sylweddolodd fod cyfaint y dwr oedd yn cael ei ddisodli yn hafal i gyfaint ei gorff suddedig. Nid gweiddi 'Aha!' wnaeth Archimedes, ond ‘Eureka!’  Roedd yn golygu'r un peth - ‘Rydw i wedi ei ganfod!’

  3. Pan fydd momentau prin o fewnwelediad a dealltwriaeth fel y rhain yn dod â sylweddoliad moesol neu ysbrydol, cânt yn aml eu galw'n fomentau 'datguddiad'. Mae'r darganfyddiad fel pe byddai'n ymddangos yn sydyn o rywle tu allan i ni ein hunain.

  4. Mae'r Eglwys yn y Gorllewin yn dathlu'r Ystwyll ar 6 Ionawr. Dathliad yw'r Ystwyll a gwyl i gofio am ymweliad y Sêr Ddewiniaid neu'r Doethion â Bethlehem.

  5. Atgoffwch y plant fod y Doethion hyn yn ddynion eithriadol o ddysgedig. Roedden nhw wedi gweld seren newydd ac anarferol o ddisglair yn y ffurfafen ac roedden nhw wedi dilyn ei llwybr, gan gredu ei bod yn cyhoeddi genedigaeth brenin pwysig iawn. Yn naturiol, fe aethon nhw'n gyntaf i ymweld â Herod, y brenin oedd yn rheoli'r tiroedd lle'r ymddangosodd y seren. Wedi'r cyfan, ymhle y byddai brenin yn debygol o gael ei eni ond mewn palas? Roedden nhw, fel y gwyddom, yn anghywir. Nid oedd Herod yn gwybod unrhyw beth am y brenin newydd hwn, ac fe fyddai wedi gwneud yn siwr nad oedd yr un baban bach oedd newydd gael ei eni dod yn frenin yn ei le. Fe barhaodd y Doethion i ddilyn y seren nes yr arhosodd hi uwchben stabl mewn tref fechan o'r enw Bethlehem.

  6. Felly, beth oedd ‘moment o ddatguddiad’ y Doethion?'

    Y lle oedd stabl fudr mewn tref fechan yn Jwdea.

    Y cymeriadau oedd cwpl tlawd ac ifanc iawn, oedd yn synnu gweld ymwelwyr o'r fath.

    Baban bach oedd y brenin, baban digon cyffredin, yn gorwedd mewn preseb, baban o Iddew.

    Eto, fe sylweddolodd y Doethion mai Crist oedd y baban hwn, Mab Duw, a oedd wedi cael ei anfon nid yn unig at yr Iddewon ond atyn nhw hefyd, er mai estroniaid oedden nhw.

    Gymaint oedd y mewnwelediad hwn fel na wnaethon nhw betruso offrymu eu hanrhegion drudfawr o aur, thus a myrr i'r baban bach hwn yn y stabl.

    Mae datguddiad y Doethion yn parhau i lefaru wrthym hyd heddiw.

Amser i feddwl

Myfyriwch ar unrhyw fomentau bwlb golau neu fomentau datguddiad rydych chi, efallai, wedi cael profiad ohonyn nhw.

Meddyliwch am y datguddiad neu’r sylweddoliad a brofodd y Doethion. Pa wahaniaeth y byddai sylweddoliad fel hwnnw’n ei wneud i’ch bywyd chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am enedigaeth dy fab, Iesu Grist.
Diolch i ti am dy neges o gariad a gobaith a pherthynas y daeth Iesu gydag ef i’r byd.
Boed i fwlb golau o ddealltwriaeth a diolchgarwch oleuo yn ein meddyliau a’n calonnau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon