Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Taith yw bywyd

Ystyried ble rydyn ni’n mynd, ble mae pobl eraill yn mynd o bosib, a sut mae cyfeiriad ein bywyd yn gallu newid.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ble rydyn ni’n mynd, ble mae pobl eraill yn mynd o bosib, a sut mae cyfeiriad ein bywyd yn gallu newid.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi o flaen llaw, ond os oes gennych chi feic, fe allech chi ei reidio i mewn i’r gwasanaeth a chwarae’r gerddoriaeth gan Queen, ‘Bicycle race’ wrth i chi wneud hynny.

Gwasanaeth

  1. Sut y gwnaethoch chi gyrraedd yr ysgol heddiw? Mi wnes i reidio beic/ cerdded/ gyrru yma mewn car.

    Ar eich ffordd yma, boed hynny ar droed neu ag unrhyw fath arall o gludiant, beth oeddech chi  yn ei wneud? Mae posibilrwydd eich bod ar y ffôn, ond efallai eich bod yn ymarfer eich geirfa Ffrangeg, neu’n gwrando ar y radio, neu dim ond yn syllu trwy'r ffenestr.

    Os oeddech chi'n teithio ar feic, rwy'n gobeithio eich bod, y rhan fwyaf o'r amser, yn sylwi ar y traffig ac ar yr hyn oedd yn digwydd ar y ffordd o'ch blaen chi, er weithiau mae'n debyg eich bod yn gadael i'ch meddwl grwydro, yn union fel y gwnaeth fy meddwl i ar y ffordd yma heddiw.

  2. Mi wnes i feddwl am y lle'r oedd pawb arall yn mynd, i ba gyfeiriad yr oedden nhw'n teithio ar eu siwrnai foreol. Sut oedden nhw'n teimlo, tybed? Oedden nhw wedi cael noson dda o gwsg, neu wedi bod yn effro yn pryderu am bethau? A oedden nhw'n meddwl am yr hyn yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud yn ystod y dydd o'u blaen, neu dim ond yn canolbwyntio ar gyrraedd eu gwaith?

  3. Pan fyddwch yn teithio ar feic, byddwch weithiau yn goddiweddyd cerbydau a fydd wedyn yn cyrraedd atoch chi. Mae'n bosib y byddwch yn dilyn beicwyr eraill yr holl ffordd i mewn i'r dref, neu efallai y byddan nhw'n troi i gyfeiriad arall wrth oleuadau traffig neu’n dilyn ffordd arall.

  4. Fe wnaeth hyn i mi feddwl bod bywyd ychydig yn debyg i daith i'r ysgol neu i'r gwaith, ar wahân i’r ffaith, y rhan fwyaf o'r amser, pan fyddwch ar eich teithiau i'r ysgol neu i'r gwaith, o leiaf fe fyddwch chi’n gwybod i ba le yr ydych yn mynd, gobeithio.

  5. Nid yw bywyd, fodd bynnag, ddim mor syml â hynny bob amser. Does yr un ohonom yn gwybod i ba le yr ydym yn mynd. Efallai ein bod yn cychwyn teithio ar hyd un ffordd a heb sylweddoli wrth gychwyn arni nad oeddem wedi gweld yr arwydd mai heol bengaead oedd hi. Felly, efallai y bydd rhaid i ni droi'n ôl a chael hyd i ffordd arall.

    Wrth feddwl am oleuadau traffig, hefyd, bydd pob car, a phob beiciwr, a cherddwr, yn aros wrth olau coch (neu o leiaf fe ddylen nhw wneud hynny). Bydd yr eiliadau hynny wrth aros yn rhoi cyfle i ni ymlonyddu a myfyrio, i feddwl am funud am yr hyn sydd o'n blaenau. Os na wnewch chi aros, a mynd yn eich blaen, fe allech chi daro rhywbeth, neu gael eich taro. Mae goleuadau coch yn bodoli er mwyn gwneud i ni aros, ac i ganiatáu i drafnidiaeth o gyfeiriad arall basio heibio.

  6. Fe wnes i hefyd ystyried y syniad o groesffyrdd a chyffyrdd. Yn ein bywydau, bydd adegau pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb â chroesffordd neu gyffordd. Mae gennym rai dewisiadau i'w gwneud a fydd yn penderfynu i ba gyfeiriad y bydd ein bywyd yn mynd o hynny ymlaen. Er enghraifft, bydd y rhai ohonoch sydd ym Mlwyddyn 9 yn dewis eich pynciau ac yn trafod pa opsiynau y gallwch eu hastudio ar gyfer TGAU. Yn yr un modd, bydd gan y rhai ohonoch sy'n wynebu arholiadau pwysig ddewis - i benderfynu astudio a gweithio'n galed i gael y graddau gorau neu dynnu eich troed oddi ar y sbardun a llwyddo’n weddol ond heb ennill y graddau gorau. Bydd y rhai ohonoch fydd yn dewis pa brifysgol i fynd iddi hefyd yn wynebu croesffordd all newid cwrs eich bywyd. Fe wnes i gyfarfod â'm gwr trwy ffrind yn y brifysgol, ond pe byddwn i wedi cael y canlyniadau Lefel A, yr oeddwn eu hangen i fynd i brifysgol arall, ni fyddai hynny byth wedi digwydd.

  7. Gall croesffyrdd mewn bywyd fod yn frawychus ac yn ddychryn. Bydd y person sy'n mynd i'w waith neu i'r ysgol, fodd bynnag, yn gwybod pa ffordd i droi a pha beth fydd diwedd y daith iddo ef neu hi. Beth os byddwch chi ar goll?  Gall y groesffordd eich dwyn yn ôl i'r man lle'r ydych yn dymuno bod, neu eich gyrru ymhellach ar goll. Dydych chi ddim yn gwybod, felly'r unig beth y gallwch chi ei wneud yw cymryd anadl ddofn a dilyn eich greddf.

    Rwy'n credu bod hyn yn debyg iawn i'r hyn yw bywyd. Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd ym mhen draw gwahanol droadau ar groesffordd, sydd ynddo'i hyn, o bosib, yn beth da. Oherwydd, pe bydden ni'n gwybod am ddigwyddiadau'r dyfodol a'r hyn sydd ganddo ar ein cyfer ni, fydden ni ddim yn wynebu unrhyw sialensiau ac o bosib fe fyddai'r cyfan, o ganlyniad, yn ddiflas. Mae newid a her yn gymorth i adeiladu cymeriad a bydd y profiadau hynny a gawn yn fodd i ni ddysgu llawer mwy amdanom ein hunain, ein gwytnwch a'n dewrder.

Amser i feddwl

Y tro nesaf y byddwch chi ar daith, meddyliwch am y bobl eraill sydd yn eu ceir, ar eu beiciau neu’n cerdded. I ble maen nhw’n mynd?

Os gallwch chi, meddyliwch am eich bywyd fel taith. Un diwrnod fe allai’r ffordd rydych chi’n ei dewis ar y groesffordd rydych chi arni newid cyfeiriad eich bywyd.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon