Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydyn ni'n rhydd, mewn gwirionedd, byth?

Ystyried a yw’r hyn a wnawn yn rhydd o ganlyniadau ai peidio, byth.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried a yw’r hyn a wnawn yn rhydd o ganlyniadau ai peidio, byth.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Freewill’ gan Rush, neu gân briodol arall, a’r modd o’i chwarae ar ddechrau ac ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Tybed faint o benderfyniadau rydych chi wedi eu gwneud eisoes heddiw?

    Wnaethoch chi benderfynu sut roeddech chi’n mynd i gyrraedd yr ysgol, pa esgus oeddech chi'n mynd i’w roi am beidio â gwneud eich gwaith cartref?

    Wnaethoch chi, er hynny, ystyried sut roeddech chi’n mynd i siarad â phobl fore heddiw neu sut roeddech chi’n mynd i ymateb pan fyddai eich rhieni chi’n galw arnoch chi i godi o'ch gwely, neu sut roeddech yn mynd i ymddwyn pan fyddech chi’n cyrraedd eich gwers?
                                                                                                                                                                                             
  2. Y gwir yw, er ein bod yn fodau dynol ‘rhydd’ gyda'r gallu i ddewis gwneud pethau yr ydym yn dymuno eu gwneud neu ddim eisiau eu gwneud, mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud, neu ddim yn ei wneud, yn cael effaith ar bobl eraill yn y pen draw.

    Gall y ffordd y gwnaethoch chi ymateb i'ch rhieni bore heddiw olygu eu bod yn mynd i gael diwrnod da neu ddim mor dda, y cyfan oherwydd y ffordd y gwnaethoch chi ymateb iddyn nhw.

    Efallai eich bod yn flin gyda chi eich hun oherwydd eich bod yn gwybod ei bod hi'n ofynnol i chi wneud eich gwaith cartref, ond yn awr rydych chi’n disgwyl dim llai na thrwbl. Na? Ardderchog!

  3. Mae ein penderfyniadau, ein meddyliau a'n gweithredoedd i gyd yn cael rhywfaint o effaith nid yn unig arnom ni, ond hefyd ar y bobl sydd o'n cwmpas. Mae hyn yn digwydd i’r cyfeiriad arall hefyd.

    Fe wnaeth penderfyniad C i beidio â'ch gwahodd i'w barti, neu i’w pharti, beri i chi deimlo'n drist, a theimlo nad oedd pobl eraill yn eich yn hoffi. Efallai nad oes gan C ddewis ond i gyfyngu'r nifer o ffrindiau sy’n cael dod i’r parti oherwydd nad yw ei rieni (neu ei rhieni) yn gallu fforddio gwahodd y holl fyfyrwyr y flwyddyn gyfan.

    Gall y ffordd yr ydych yn siarad gyda'ch cymheiriaid, eich rhieni neu eich brodyr a'ch chwiorydd, effeithio ar y math o ddiwrnod y byddan nhw'n ei gael, a’r math o ddiwrnod a gewch chi. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed o wers i wers.

    Gall y ffordd yr ydych yn teimlo am un athro'n neilltuol olygu eich bod yn gweithio neu ddim yn gweithio, iddo ef neu iddi hi. Efallai eich bod yn hoffi'r pwnc, felly rydych chi’n gweithio'n galed yn y gwersi ac ar eich gwaith cartref. Gall hyn olygu fod mwynhad yn gwneud y gwahaniaeth i sut y byddwch yn ymddwyn a faint o ymdrech y byddwch yn ei roi i'r pwnc yn gyfan gwbl. Gall hefyd ddylanwadu ar yr hyn y byddwch yn dewis ei wneud ymhellach ymlaen gyda'ch bywyd. Pa lwybr gyrfa y byddwch yn ei ddilyn, pa bynciau y byddwch yn eu dewis ar gyfer Lefel 'A', a pha brifysgol y byddwch yn dewis mynd iddi.

  4. Rwyf hefyd yn tybio a yw ein dewisiadau, ac a ydyn ni'n rhydd ai peidio i'w gwneud, yn deillio o'r profiadau yr ydym wedi eu cael trwy gydol ein bywyd. Efallai eich bod yn hoffi arddull neilltuol o gerddoriaeth yn fawr oherwydd bod eich rhieni wedi bod yn ei chwarae gartref, yn y car ac yn y blaen. Ar y llaw arall, fe allech chi fod yn ei gasáu am yr union resymau hynny. Efallai eich bod o ddifrif yn mwynhau'r un math o weithgareddau ag y mae eich rhieni yn ymwneud â nhw yn eu hamser sbâr, neu efallai eich bod yn penderfynu bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud ddim ar eich cyfer chi. Y naill ffordd neu'r llall, mae'r hyn yr ydych wedi cael profiad ohono yn caniatáu i chi wneud naill ai ddewis gwybodus neu un byrbwyll.

  5. Mae hyn oll yn swnio'n debyg i ddamcaniaeth athronyddol o'r enw ‘penderfyniaeth’ - hynny yw, y gred bod pob digwyddiad yn cael eu hachosi gan bethau sy'n digwydd yn flaenorol, ac nad oes gan bobl mewn gwirionedd y gallu i wneud dewisiadau neu reoli'r hyn sy'n digwydd. Felly, o anghenraid, bydd yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn flaenorol, rhyw dro, yn cael effaith uniongyrchol ar yr hyn fydd yn dilyn, ac na ellir osgoi hynny.

    Mae hyn yn gwneud i ni ofyn y cwestiwn a ydym ni, fodau dynol, o ddifrif  yn meddu ar ewyllys rhydd – hynny’n golygu a ydym yn wirioneddol rydd i wneud dewisiadau ein hunain - neu a ydym yn syml wedi cael ein rhag-benderfynu, yn seiliedig ar bethau fel ein magwraeth, ein cymdeithas a ffactorau seicolegol. Gall hyn arwain rhai ohonoch i ddweud, ‘Roeddwn yn mynd i fod yn gas ofnadwy gyda'm chwaer heddiw cyn i mi ddeffro, roedd hynny wedi ei rag-benderfynu, doedd gen i ddim dewis o gwbl yn y mater!’

Amser i feddwl

Fel gyda'r pethau hyn i gyd, mae gennym ddewis o ddifrif a gwirioneddol. Gallech fod wedi penderfynu bod yn garedig wrth eich chwaer fore heddiw, oherwydd, mewn gwirionedd, rydych yn gas ofnadwy gyda hi bob bore, oherwydd mae hi'n boen neu oherwydd fe wnaeth fenthyca eich dillad chi wythnos ddiwethaf heb ofyn . . .  Er gwaethaf y pethau hyn, gallwch ddewis torri'r mowld.

Gallwch ddewis peidio ag ymddwyn yn yr un ffordd, peidio â dweud rhywbeth a all beri niwed i eraill, peidio â dilyn y lli â rhywbeth dim ond er mwyn cael bywyd esmwyth pan fyddai hynny'n anghywir.

Mae ymateb i bob gweithred, pa un ai a ydyn ni'n dymuno hynny ai peidio. Felly, fe ddylem ymarfer ein rhyddid i ddewis, a'n gallu i dorri'r mowld, gan dorri ein cwys ein hunain efallai, yn achlysurol. Ond rhaid i ni gofio hefyd y gall ein gweithredoedd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl eraill, felly, fe ddylem ymarfer ein rhyddid yn ddoeth.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Freewill’ gan Rush

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon