Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon

Dathlu un o’n ffurfiau hynaf o gelfyddyd.

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dathlu un o’n ffurfiau hynaf o gelfyddyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o’r llyfrau y bydd eich ysgol yn rhoi sylw iddyn nhw yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon, ynghyd â’u teitlau a darluniau perthnasol, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.                                                                   
  • Paratowch stori heb fod yn rhy hir, i’w darllen i’r myfyrwyr.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Wonderous stories’ gan Yes, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae storïau o’n cwmpas ym mhob man – mewn llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd, ar y rhyngrwyd, y radio a’r teledu. Ac fe allwn ni ddod o hyd iddyn nhw yn ein pen, hyd yn oed!

  2. Dangoswch y delweddau sydd gennych chi i’w dangos ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon.

    Dyma rai o’r llyfrau a’r storïau y byddwn ni’n eu mwynhau yn ystod Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon. Ond, credwch neu beidio, rydyn ni i gyd yn adroddwyr storïau naturiol, pa un a fyddai hynny’n trafod beth wnaethon ni dros y penwythnos, paentio darluniau gydag ystyron cudd, ysgrifennu cerddi dychmygus, neu greu storïau ar gyfer ein ffrindiau ac aelodau ein teulu.

  3. Dychmygwch pe na bai’r gallu gennym i gyfathrebu â’n gilydd gyda geiriau – fyddai gennym ni ddim chwedlau hanesyddol, dim canfyddiadau gwyddonol na llenyddiaeth i’w rhannu a’u dathlu. Dyna ddiflas fyddai hynny!

  4. Mae mwy i adrodd stori na dim ond darllen y geiriau sydd ar dudalen – mae’n gyfle i ddod â phobl ynghyd, i fynegi ein hemosiynau, ac i ddefnyddio ein dychymyg mewn ffordd hwyliog a chynhyrchiol.

  5. Mae sawl storïwr yn dechrau trwy ddarllen storïau gwerin, mythau a chwedlau. Fe fydd y storïau hyn wedi cael eu pasio o’r naill genhedlaeth i’r llall, wedi eu hadrodd yn hytrach na’u darllen, ac maen nhw’n dal i gael eu mwynhau hyd heddiw.

    Rwy’n mynd i roi rhai cliwiau bach i chi ynglyn â rhai o’n hoff chwedlau. Codwch eich dwylo os gallwch chi ddyfalu storïau am bwy neu beth sydd gen i dan sylw.

    – Roedd yn dwyn oddi ar y cyfoethog i fwydo’r tlawd.
    – Dywedir bod y creadur hwn yn byw mewn llyn yn yr Alban.
    – Mae ganddi wallt o nadroedd ac mae grym ganddi i’ch troi’n garreg.

  6. Wrth gwrs, nid yw dweud straeon yn gyfyngedig i adrodd chwedlau – mae’n bosib addysgu trwy adrodd storïau. Trwy gyfrwng stori, fe allwn ni amsugno gwybodaeth newydd a gwella ein geirfa a’n sgiliau llythrennedd. Meddyliwch, ar ôl gwrando ar ychydig mwy o storïau, fe allech chi fod mor glyfar ag Albert Einstein, Stephen Hawking neu William Shakespeare!
  7. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer adrodd straeon.

    - Yn gyntaf, nid y storïwr sy’n dewis y storïau, y storïau sy’n dewis y storïwr. Os byddwch chi’n dewis stori rydych chi’n wirioneddol hoff ohoni, fe fydd y ffordd rydych chi’n ei hadrodd yn llawer gwell na phe baech chi’n ceisio adrodd stori rydych chi’n meddwl ei bod braidd yn ddiflas a chithau heb fod wedi ei deall yn iawn eich hun.
    - Pan fyddwch chi’n dweud stori o flaen eich dosbarth, eich teulu neu ffrindiau, mae’n syniad da dysgu stori gyfarwydd, ond datblygwch eich fersiwn eich hunan ohoni, gan ofalu bod eich stori’n cwrdd ag anghenion eich cynulleidfa. Er enghraifft, os byddwch chi’n darllen stori i chwiorydd neu frodyr iau, gofalwch bod y geiriau’n hawdd eu deall a’r cynnwys ddim yn peri iddyn nhw gael eu brawychu.
    - Ymlaciwch a rhowch eich calon a’ch enaid yn y stori oherwydd, fel hynny, fe fydd yn ffres ac yn ddigymell.
    - Gwiriwch fod eich cynulleidfa’n barod i wrando. Edrychwch o gwmpas i sicrhau bod pob un wedi setlo cyn i chi ddechrau.
    - Dechreuwch yn glir. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio ymadrodd traddodiadol i ddechrau, fel ‘Un tro’ neu  ‘Amser maith yn ôl’. Dyma ddechreuadau sydd wedi eu defnyddio dros y cenedlaethau, ond mae sawl ymadrodd arall hefyd y byddai’n bosib eu defnyddio, felly dewiswch un fyddai’n cyd-fynd orau â’ch stori chi.
    - Ceisiwch sefydlu cyswllt llygad ag aelodau eich cynulleidfa, fe fyddan nhw’n gweithio’n agos â chi wedyn.
    - Amrywiwch rythm a thôn y llais - mae hyn yn dod â’r stori’n fyw ac yn ei gwneud yn fwy cyffrous.
    - Diweddwch y stori ar nodyn cryf. Mae sawl diweddglo traddodiadol hefyd i stori, fel, ‘...ac fe fuon nhw’n byw’n hapus o hynny ymlaen.’ Ond fe allech chi ddefnyddio ymadrodd gwahanol ar y diwedd, fe allech chi hyd yn oed fod yn greadigol a chreu eich geiriau diweddglo eich hunan!

Amser i feddwl

Gwahoddwch y myfyrwyr i feddwl am foment am eu hoff stori neu hoff lyfr – pa ddylanwad y mae wedi ei gael arnyn nhw fel pobl?

Nawr, dychmygwch fyd heb storïau – dychmygwch pa mor ddiflas fyddai hynny!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n dolch i ti am y byd rydyn ni’n byw ynddo, y bobl y byddwn ni’n eu cyfarfod, a’r anturiaethau a ddaw i’n rhan.
Arwain ni yn ein hanturiaethau a dysga ni sut i garu a gwerthfawrogi’r harddwch sydd o’n cwmpas.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Wonderous stories’ gan Yes

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon