Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn barod am y prif ddigwyddiad

Beth mae’r Garawys yn ei olygu i Gristnogion (Dydd Mawrth Ynyd)

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth o’r tymor Cristnogol, y Garawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘We can fly’ gan Cafe del Mar a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Rwy'n gobeithio bod eich padell ffrio wrth law ar gyfer heno - a'r blawd, yr wyau a’r llefrith, gyda phinsiad bach o halen. Pam? Oherwydd heddiw yw Dydd Mawrth Crempog, neu Ddydd Mawrth Ynyd.

Yn y calendr Cristnogol mae'r diwrnod hwn yn cael ei nodi fel y diwrnod cyn dechrau cyfnod y Garawys, ond beth mae'r Garawys yn ei olygu? Ac a yw'n berthnasol i ni heddiw? Gadewch i ni ystyried rhai sefyllfaoedd sy'n debyg.

Darllenydd 1  Mae fy nghefnder/fy nghyfnither yn priodi ymhen ychydig wythnosau ac mae popeth yn wyllt-wallgo. Mae cymaint o bethau i'w cynllunio a’u paratoi. Mae'n rhaid gwneud y trefniadau, anfon y gwahoddiadau, mae dillad arbennig i'w prynu, rhestrau i'w hysgrifennu, ond mae'r cyfan yn angenrheidiol fel bod y ‘Diwrnod Mawr’ ei hun yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.

Darllenydd 2  Bydd Roy Hodgson yn hoffi cael y criw o bêl-droedwyr sy'n chwarae i Loegr ynghyd ychydig o weithiau yn y flwyddyn er mwyn cynnal cwlwm agosrwydd y tîm a pharatoi ar gyfer y gemau sydd i'w chwarae yn y dyfodol. Fe fydd yn trafod y tactegau ac yn gwirio ffitrwydd y chwaraewyr fel, pan fydd y chwiban yn cael ei chwythu, bydd y tîm yn perfformio ar ei orau.

Darllenydd 3  Yn ystod yr wythnosau cyn noson agoriadol sioe gerdd yn y 'West End' yn Llundain, bydd y cyfarwyddwr yn treulio oriau ac oriau i ymarfer gydag aelodau'r cast. Bydd pob gair, pob nodyn o gerddoriaeth, pob symudiad yn cael ei ymarfer drosodd a throsodd nes eu bod yn berffaith. Does dim lle i gamgymeriadau pan fydd y llen y llwyfan yn agor.

Arweinydd Mae neilltuo cyfnod o baratoi cyn digwyddiad mawr yn gwneud llawer o synnwyr. Ni fydd y briodas, y gêm bêl-droed na'r sioe gerdd yn llwyddiant oni bai bod y rhai sy'n ymwneud â nhw wedi paratoi a’r trefniadau wedi cael eu gwneud.

Fe wnaeth Iesu ei hun rhywbeth tebyg. Cyn iddo ddechrau ei gyfnod tair blynedd o bregethu, addysgu a chyflawni gwyrthiau - cyfnod pwysicaf ei fywyd - aeth allan i le anial distaw ac unig ym Mhalestina am 40 diwrnod, i fyfyrio a gweddïo. Roedd yn ymbaratoi, er mwyn sicrhau ei fod yn deall yn iawn yr hyn yr oedd Duw am iddo'i wneud. Roedd eisiau bod yn gyfan gwbl barod.

I Gristnogion, mae'r Garawys yn gyfnod tebyg o baratoad. Mae hefyd yn gyfnod o 40 diwrnod, sydd yn dod i ben ar Sul y Pasg.

Y Pasg yw'r adeg bwysicaf yn y flwyddyn i Gristnogion. Mae’r digwyddiadau o gwmpas marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn ganolog i'r neges ei fod wedi gorchfygu grym drygioni a thywyllwch yn ein byd, ac yn cynnig i bobl fel ni, y posibilrwydd o gael dechreuad newydd yn ein bywydau.

Er mwyn atgoffa eu hunain o bwysigrwydd yr hyn yr oedd Iesu wedi ei gyflawni, bydd Cristnogion yn treulio amser yn ystod y Garawys yn darllen, yn gweddïo ac yn meddwl am y gwahaniaeth y gall Iesu ei wneud. Weithiau maen nhw hefyd yn gwneud aberthau personol, trwy wrthod rhywbeth y maen nhw'n hoff ohono am y cyfnod o 40 diwrnod. Dyna ble dechreuodd y traddodiad o ymwrthod â siocled, neu alcohol, neu ddewis peidio gwylio hoff raglenni teledu neu wrthod gwneud hoff bethau eraill - traddodiad y bydd pobl sydd â dim cred grefyddol yn ymuno ag ef hefyd.

Amser i feddwl

Ydych chi, ryw dro, wedi profi digwyddiadau mawr yn eich bywyd? Ar wahân i'r enghreifftiau yr ydym wedi eu hystyried yn gynharach, efallai eich bod wedi cael rhan mewn perfformiad cyhoeddus, ras neu gêm, efallai rownd gymhwyso neu hyd yn oed rownd derfynol.  Yn naturiol, fe fyddech yn disgwyl i mi grybwyll arholiadau ac asesiadau, hefyd! Dyma yw anterth eich astudiaethau, ac yn aml bydd eich gradd derfynol yn dibynnu ar berfformiad da ynddyn nhw. Efallai bod gennych gyfweliad, am swydd, cyfweliad i fynd i'r coleg neu ar leoliad. Yn olaf, mae'r digwyddiadau cymdeithasol hynny sydd mor bwysig i ni, yn amrywio’n fawr - o'r ‘dêt’ cyntaf (pan fydd hi’n hanfodol ein bod yn gwneud argraff dda), i fynd i ddawns y ‘proms’ neu ddawns y rhai sy'n ymadael, sef y digwyddiad cymdeithasol diwethaf y byddwch yn ei rannu gyda llawer o'ch ffrindiau ysgol.

Mae'r Garawys yn rhoi model defnyddiol i ni o sut i fynd ati i baratoi tuag at y dyddiau neu'r wythnosau cyn unrhyw ddigwyddiad mawr o'r fath. 

Yn gyntaf, yn ystod y Garawys, mae Cristnogion yn cael eu hannog i encilio oddi wrth bethau sy'n tynnu ein sylw, er mwyn gallu canolbwyntio ar Iesu, canolbwynt eu ffydd. Felly, mewn ffordd gyffelyb, gallwn dorri lawr ar rai o'r pethau sy'n tynnu ein sylw ni, a fyddai'n debygol o ddargyfeirio ein sylw oddi wrth y mater canolog, boed hynny'n adolygu, yn ymarfer rhywbeth neu’n ddysgu. Mae egwyddorion y Garawys yn ein helpu i ganolbwyntio ein meddyliau.

Yn ail, bydd Cristnogion yn atgoffa eu hunain paham y maen nhw'n credu'r hyn a gredant. Maen nhw'n clirio'u meddyliau ac yn creu ffrâm o feddwl cadarnhaol. Yn yr un modd, efallai yr hoffem gofio pam mae'n bwysig i ni ein bod yn llwyddo yn ein digwyddiad mawr er mwyn ysgogi ein hunain i wneud yr hyn sydd ei angen er mwyn gwneud iddo ddigwydd.

Yn drydydd, mae llawer o Gristnogion yn caniatáu iddyn nhw eu hunain ddioddef ychydig, er mwyn profi sut mae'n teimlo i wrthod rhai o'r danteithion hyn sydd ganddyn nhw. Maen nhw'n dweud ei fod yn eu helpu i werthfawrogi'n llawnach y sefyllfa freintiedig y maen nhw'n byw ynddi.

Yn olaf, yn ystod y Garawys, fe fydd rhai Cristnogion yn ceisio arafu prysurdeb eu bywyd, i fyw yn fwy syml, trwy, er enghraifft, leihau’r amser y byddan nhw’n  ymgolli mewn gweithgareddau cyfryngol - ffilmiau teledu, gemau cyfrifiadur, ffonau symudol a cherddoriaeth.  Unwaith yn rhagor, maen nhw'n gwneud hyn er mwyn cael canolbwyntio ar Iesu, canolbwynt eu ffydd.

Yn y pen draw, mae'r Garawys yn ymwneud ag ail-asesu ein blaenoriaethau ac addasu ein bywydau yn unol â hynny.

Oes gennych chi ddigwyddiad mawr ar y gorwel, mewn rhai dyddiau, rhai wythnosau, rhai misoedd?  Rwy'n gobeithio fod yr egwyddorion sydd ynghlwm wrth Wyl (cyfnod) Gristnogol y Garawys o gymorth i chi gyda'ch paratoadau. Wrth gwrs, efallai y byddwch yn dewis treulio'r Garawys fel miliynau o bobl o gwmpas y byd, yn darllen hanes bywyd Iesu. Fe fyddai Efengyl Marc yn lle da i ddechrau – cofnod sydd heb fod yn rhy hir.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am dymor y Garawys a’r ffordd y mae’n ein hannog i ail ganolbwyntio, i baratoi.
Atgoffa ni am y digwyddiadau hynny yn ein bywyd a allai fod yn ddigwyddiadau mawr ac a ddylai gael blaenoriaeth.
Boed i ni ddefnyddio’r amser sydd gennym ni’n ddoeth, tra mae’n dal dan ein rheolaeth.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

We can fly’ gan Cafe del Mar

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon