Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y dewisiadau a wnawn

Iesu’n symud tuag at bwynt argyfyngus y Pasg – Yr Wythnos Fawr

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth goblygiadau dewisiadau unigolion o eiriau a gweithredoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Trefnwch eich bod yn gallu dangos y fideo TrueTubeThe Last Supper yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: truetube.co.uk/film/last-supper-2014?tab=film). Mae’n para 2.07 munud.
  • Hefyd trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Undecided’ gan Natalie Cole a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Bydd y Pasg yma chwap! Mae'r wyl hon yn ddathliad o'r digwyddiadau y mae Cristnogion yn credu a ddigwyddodd yn ninas Jerwsalem bron 2000 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd Iesu ei ddedfrydu ac yna cafodd ei ddienyddio, ond yna'n rhyfeddol, daeth yn ôl yn fyw. Dyma ddigwyddiad sy'n ganolbwynt ei fywyd ac sydd yng nghanol y credo Cristnogol, ond nid oedd yn ddigwyddiad anochel - o leiaf, nid yn nhermau dynol.

Beth pe byddai Iesu wedi aros heb fynd i'r ddinas?

Jerwsalem oedd canolfan grym ei elynion. Roedd y deml yno'n cynrychioli popeth yr oedd y sefydliad crefyddol Iddewig yn sefyll drosto.  Roedd gan yr awdurdodau Rhufeinig eu gwarchodlu wedi ei sefydlu yno, yn barod i fathru unrhyw arwydd o wrthryfel neu gyffro o blith ciwed o bobl.

Pe byddai Iesu wedi aros yn nhrefi a dinasoedd mwy anghysbell gwlad Palestina, fe allai fod wedi bod yn ddraenen yn ystlys y rhai oedd mewn grym, ond o bosib ni fyddai wedi ennyn yr ymateb a dderbyniodd. Iesu a gythruddodd ddigwyddiadau'r Pasg - fe wnaeth y dewis i fynd i mewn i Jerwsalem ac wynebu'r rhai oedd yn gwrthwynebu'r ddysgeidiaeth yr oedd ef yn credu a oedd yn deillio oddi wrth Dduw ei Dad.

Dangoswch y fideo TrueTube ‘The Last Supper’.

Wythnos yn union cyn Dydd y Pasg mae Sul y Palmwydd. Mae Sul y Palmwydd yn dwyn i gof fynediad gwirioneddol gyhoeddus Iesu i ddinas Jerwsalem. O'i amgylch roedd ei gefnogwyr, yn llafarganu fel tyrfa bêl-droed, yn datgan mai ef oedd Brenin y Brenhinoedd ac Arglwydd yr Arglwyddi.

Pan ofynnodd yr arweinwyr crefyddol i Iesu ddweud wrthyn nhw am dawelu a rhoi'r gorau i'w llafarganu sarhaus, ei ateb oedd, pe byddai hyd yn oed y bobl yn tawelu, byddai’r cerrig ar hyd y ffordd yn dechrau llafarganu yn eu lle. Roedd Iesu'n bod yn fwriadol bryfoclyd a chythruddol.

Yna fe aeth i'r deml ei hun. Tu mewn i gyrtiau'r deml roedd stondinau lle'r oedd gyfnewidfa arian, roedd gordoll i'w thalu ac roedd y cyfnewidwyr yn gwneud elw mawr. Roedd stondinau eraill yn gwerthu adar ac anifeiliaid i'w cynnig fel aberth dros faddeuant pechod. Eto i gyd, roedd yr ychwanegiad yn enfawr ac roedd y gwerthwyr hyn, hefyd, yn gwneud elw mawr.

Aeth Iesu i'r afael â'r mater hwn o lygredd heb oedi. Dymchwelodd y stondinau, gan gyhuddo'u perchnogion o fod yn lladron a oedd yn cynnal busnes anghyfreithlon yn nhy ei Dad. Efallai mai'r gosodiad olaf hwn oedd yr un mwyaf pryfoclyd. Os mai ty Duw oedd y deml, yna roedd yn datgan yn ddigon clir ei fod yn ystyried ei hun fel mab Duw.

Nid yw'n syndod bod Iesu yn y diwedd wedi cael ei arestio. Bu'n mor uniongyrchol a phryfoclyd fel bod yn ofynnol i'r awdurdodau crefyddol weithredu. Ni roddodd Iesu unrhyw ddewis amgen iddyn nhw.

Sut un ydych chi pa fyddwch chi’n dod wyneb yn wyneb â phroblem? Pa un o'r ymatebion ydych chi’n uniaethu â nhw?

Darllenydd 1  Rydw i'n hoffi cadw'r heddwch doed a ddelo. Byddai'n well gen i pe byddai rhywun yn cerdded drosof na fy mod i yn achosi gwrthdaro. Rydw i'n casáu dadleuon.

Saib.

Darllenydd 2 
Rydw i angen cael pethau'n glir ar unwaith. Alla' i ddim dioddef materion sydd heb gael eu datrys. Maen nhw'n fy nghadw i'n effro yn y nos. Rydw i'n credu y dylech chi osod eich cardiau i gyd ar y bwrdd a bod yn barod i ddelio â'r canlyniadau.

Saib.

Darllenydd 3
  Rydw i’n chwilio am y trydydd person, rhywun sy'n gallu bod yn ganolwr, gwrando ar y naill ochr a'r llall a cheisio ein helpu i ddod o hyd i gyfaddawd. Dydw i ddim ddigon mawr i ddelio â hyn ar ben fy hun.

Saib.

Arweinydd 
Does yna ddim atebion anghywir fan hyn. Gall fod adegau a lleoedd  amrywiol pan yw'r cyfan o'r rhain yn ymatebion priodol.  Beth fyddai'n anghywir, fodd bynnag, fyddai i ni ymateb bob amser yn yr un ffordd - osgoi gwrthdaro bob tro, pryfocio gwrthdrawiad, neu adael i rywun arall ei ddatrys bob tro.                                                                                                                                                                                                      

Fe wnaeth Iesu bryfocio'r gwrthdaro yn yr wythnos oedd yn arwain at y Pasg. Roedd yn ymateb priodol, rhan o gynllun mwy, ac roedd yn fodlon wynebu'r canlyniadau.

Yn y diwedd, gall meddwl trwy'r canlyniadau fod yr allwedd i ba ymateb y byddwn yn ei wneud i unrhyw un sefyllfa.

Darllenydd 1  Mae canlyniad i osgoi gwrthdaro. Efallai y byddwn yn cadw'r heddwch, ond ar gost ein rhyddid ein hunain. Dyna'r hyn y mae'r rhai sy'n bwlio yn dibynnu arno, er enghraifft.

Darllenydd 2  Mae canlyniad i bryfocio gwrthdaro. Gallwn glirio'r aer, ond allwn ni ddim tynnu’n ôl y pethau sydd wedi cael eu dweud a'u gwneud.

Darllenydd 3  Gall trydydd person gamddeall a chamfarnu. Fe allan nhw hyd yn oed wneud y sefyllfa'n waeth.

Amser i feddwl

Felly beth wnawn ni am y materion sydd heb eu datrys a wynebwn y funud hon? Fe allan nhw fod yn ymwneud â pherthynas, rhywbeth nad ydyn ni wedi ei wneud, neu anghyfiawnder y teimlwn sydd wedi cael ei wneud, neu gam sydd angen ei unioni. Fe allan nhw fod yn fawr, fe allan nhw fod yn fach.

Gadewch i ni beidio â neidio i weithredu ar ein hunion. Gadewch i ni aros, meddwl am ymateb amgen, ac yna gweithredu mewn gwir wybodaeth o'r hyn y gallai'r canlyniadau fod, ac anelu ar sut i wireddu'r rhai hynny.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y rhyddid sydd gan bob un ohonom i ddewis.
Atgoffa ni o bob dewis arall sydd gennym pan fydd penderfyniad anodd ei wneud.
Helpa ni i fod yn ddoeth, yn ddewr ac yn ostyngedig yn yr hyn y byddwn ni’n penderfynu ei wneud a’i ddweud.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Undecided’ gan Natalie Cole

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon