Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Carchardai Texas

Ystyried pa mor llwyddiannus y mae’r drefn wedi bod yng ngharchardai Texas, yn yr Unol Daleithiau.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor llwyddiannus y mae’r drefn wedi bod yng ngharchardai Texas, yn yr Unol Daleithiau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai delweddau nodweddiadol o garcharorion, mewn gwisgoedd lliw oren, a threfnwch fodd o arddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘You gotta be’ gan Des'ree, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Pe byddwn i'n gofyn i chi ddychmygu'r drefn gyfiawnder droseddol yn nhalaith Texas, byddai ychydig ddelweddau yn debygol o ddod i'r meddwl. Carchardai rhy lawn, llawn trais. Gangiau. Dienyddiadau.
    Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae Texas wedi bod yn ganolbwynt i ymdriniaeth newydd nodedig sy'n ymwneud â throsedd a chosb, un sydd wedi dangos nifer y carcharorion yn gostwng yn ddramatig a throseddwyr yn cael eu hail-integreiddio i'r gymdeithas ac yn cael cyfleoedd a gobeithion newydd.

  2. Mae'r agwedd cyfundrefn Texas tuag at drosedd a chosb yn syml: cefnogi pobl sy'n cadw at y gyfraith a chosbi'r rhai sydd ddim yn gwneud hynny. Yn dilyn cael eu rhyddhau o'r carchar, fodd bynnag, cânt eu derbyn yn ôl i'r gymdeithas, cyn belled â'u bod yn parchu'r gyfraith a'i gwerthoedd.

  3. Am flynyddoedd, fe lwyddodd yr ymdriniaeth hon i greu un peth – mwy o garchardai. Mae carchardai'n ddrud i'w cadw, fodd bynnag, ac mae Texas yn enwog am drethiant isel a llywodraeth gyfyngedig. Roedd rhaid i rywbeth ildio.

  4. Yn y flwyddyn 2007, cafodd aelod o'r gyngres daleithiol Weriniaethol, Jerry Madden, ei benodi i safle a oedd yn golygu ei fod yn cymryd rôl arweinyddol yn y system garchardai. Fe ddywedodd ei bennaeth wrtho am roi'r gorau i adeiladu mwy o garchardai. Roeddynt yn rhy ddrud.

  5. Mewn ymdrech i dorri'r nifer o garchardai tra'n roedd yn cadw'n agos at y gwerthoedd ceidwadol, sy'n gosod y bai yn bennaf ar yr unigolyn yn hytrach na chymdeithas, edrychodd Madden a'i dîm tuag at y syniadau Cristnogol o faddeuant a haelioni ac fe sefydlodd rhai mesurau. Mae Rhaglen Entrepreunyddiaeth y Carchar (The Prison Entrepreneurship Program), er enghraifft, yn helpu carcharorion i fod yn rhan o gwrs lefel MBA sy’n eu paru â mentoriaid o'r tu allan i'r carchar. Mae'r gyfundrefn yn edrych ar garcharorion, fel er enghraifft y rhai sy'n delio â chyffuriau a’r rhai sy’n aelodau o gangiau, fel rhai sydd â photensial i fod yn llwyddiannus mewn busnes ac yn cyfuno addysg a chefnogaeth mewn busnes gydag addysg foesol ac ysbrydol. Bydd graddedigion y rhaglen (PEP) yn aml yn mentora aelodau newydd ac, felly, mae'r system yn hunangynhaliol.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                             

    Yn yr un modd, mae'r cynlluniau ar gyfer defnyddwyr cyffuriau yn cyfuno cefnogaeth a charedigrwydd ag agwedd galed. Bydd y rhai sy'n methu â chadw at ofynion y cynllun yn cael eu cosbi, weithiau â chyfnod byr mewn carchar, ond fe fyddan nhw’n cael aros oddi mewn i gymuned gefnogol.

Amser i feddwl

Pan ymgymerodd Madden â'r swydd, roedd wedi disgwyl y byddai cynnydd o 17,000 o garcharorion. Cafodd y cynnydd hwn ei osgoi ac, fel mater o ffaith, mae Texas wedi gallu cau tri charchar. Mae hwn yn gyflawniad nodedig mewn talaith sy’n enwog am fod yn galed gydag achosion o drosedd. Llwyddodd cariad a thosturi, wedi ei gyfuno â disgwyliadau uchel, i arbed llawer o arian i bobl Texas a rhoi cyfleoedd newydd i fywyd pobl a fyddai fel arall wedi treulio’r rhan helaeth o'u bywyd yn y carchar.

Tybed y mha ffordd y byddai modd i ni ddefnyddio ymdriniaeth o’r fath yn yr ysgol heddiw? Efallai, pan fyddwch yn gofyn i rywun wneud rhywbeth, y byddwch yn gallu cyfleu eich bod yn disgwyl i’r gwaith gael ei wneud yn dda, ac i'r safon orau o fewn eu gallu, yn hytrach nag mewn modd rywsut-rywsut . . .

Efallai, yn yr un modd, pan fydd rhywun yn gofyn i chi wneud rhywbeth, fe allwch chi ymateb trwy ei wneud yn y ffordd orau bosib, yn hytrach na dim ond meddwl, ‘Fe wnaiff hyn y tro.’

Efallai y gallech chi ddisgwyl y gorau gan eich rhieni neu gan y bobl sy'n gofalu amdanoch yn hytrach na'r gwaethaf.

Efallai, heddiw, y gallech chi benderfynu fel grwp i wneud hynny? Tybed sut y byddai hynny yn debygol o newid amgylchfyd yr ysgol a'ch bywyd gartref?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

You gotta be’ gan Des’ree

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon