Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Pasg

Bywyd newydd a gobaith ar Ynysoedd y Pilipinas

gan Us (formerly USPG)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio’r trawsnewid o’r galar a’r anobaith i lawenydd a gobaith ar adeg y Pasg, a hefyd yn yr adferiad sydd wedi digwydd ar Ynysoedd y Pilipinas ar ôl trychineb Teiffwn Haiyan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori am Mair yn cMae’n bosib cael rhagor o ffeithiau am y teiffwn ar y wefan: www.bbc.co.uk/news/world-24901032 wrdd ag Iesu wedi iddo atgyfodi, sydd i’w chael yn Efengyl Ioan 20.11-1, a threfnwch fod gennych chi fersiwn y gallwch chi ei darllen i’ch cynulleidfa.
  • Casglwch rai delweddau o’r difrod mawr a ddigwyddodd oherwydd Teiffwn Haiyan, a delwedd hefyd o fap o’r byd er mwyn i chi allu dangos lle mae ynysoedd y Pilipinas, a threfnwch fod gennych chi fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (dewisol).
  • ac fe allwch chi ddod o hyd i wybod mwy am waith y mudiad Us yn y Pilipinas ar: www.uspg.org.uk/worldwide/philippines/
  • Ar gyfer myfyrwyr hyn, fe allech chi ychwanegu cam arall i’r Gwasanaeth ar ôl Cam 5, a siarad am sut mae cymunedau yng ngogledd y Pilipinas, a oedd wedi cael eu helpu’n flaenorol i ddatblygu cynaladwyedd bwyd gyda chefnogaeth    Us a’r Eglwys Esgobol, erbyn hyn wedi trawsnewid o fod yn bobl oedd yn derbyn help i fod yn rhai oedd yn gallu rhoi help a chefnogaeth. O’r bwyd oedd ganddyn nhw dros ben, maen nhw wedi gallu anfon cyflenwadau bwyd i’r cymunedau hynny a ddioddefodd waethaf yn ardaloedd canol y Pilipinas.

Gwasanaeth

1.Adroddwch neu darllenwch ran gyntaf stori Mair wrth fedd Iesu (Ioan 20.11–15).

2. Eglurwch fod Mair wedi gobeithio mai Iesu oedd y Meseia - y person yr oedd llawer o'r proffwydi wedi datgan y byddai Duw yn ei anfon i arbed yr Iddewon. Nawr ac yntau wedi cael ei groeshoelio a'i gladdu, roedd yn ymddangos bod y cyfan o'i gobeithion a'i breuddwydion wedi eu torri'n deilchion. Gofynnwch, ‘A fedrwch chi ddychmygu sut y byddai hynny wedi gwneud iddi deimlo?’

Yna gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw, ar unrhyw adeg, wedi teimlo fel bod y cyfan yr oedden nhw wedi gobeithio amdano neu gredu ynddo wedi cael ei ddinistrio.

3. Ewch ymlaen i ofyn i'r myfyrwyr ydyn nhw'n cofio'r teiffwn ofnadwy a darodd yn erbyn y Pilipinas ar ddiwedd 2013.

Atgoffwch nhw mai storm drofannol fawr yw teiffwn, gyda gwyntoedd cryfion anghredadwy ac ymchwyddiadau o ddwr sy'n golchi dros y tir, gan ddifrodi neu ddinistrio popeth yn ei lwybr.

Roedd Teiffwn Haiyan, fel y cafodd ei enwi, yn un o'r teiffwnau cryfaf erioed. Roedd mor fawr fel bod dros 11 miliwn o bobl wedi cael eu heffeithio ganddo. Cafodd dros 130,000 o gartrefi eu dinistrio, gan adel hanner miliwn o bobl heb unman i fyw ynddo, a 2.5 miliwn o bobl angen cymorth bwyd.

Fe ddinistriodd gartrefi pobl a’u busnesau, eu cychod pysgota (dyna’r modd y mae llawer o bobl yn yr ardal honno’n bwydo eu teuluoedd), a'u gobeithion a'u breuddwydion am y dyfodol.

Os ydych yn eu defnyddio, dangoswch y delweddau o'r dinistr a'r map.

4. Gan ddychwelyd at Mair yn yr ardd, ydych chi’n cofio beth ddigwyddodd iddi hi?

Adroddwch neu darllenwch weddill stori Mair wrth fedd Iesu (Ioan 20.16-18).

O'i galar, fe ymddangosodd bywyd newydd. Sut deimlad fyddai hwnnw? Teimlad rhyfeddol? Cynhyrfus? Yn rhyddhad? Er bod popeth yn ymddangos yn dywyll ac anobeithiol, roedd yno rodd anghredadwy ac annisgwyl o fywyd newydd.

5. Er bod y teiffwn wedi digwydd dros flwyddyn yn ôl, mae pobl yn parhau i ail-adeiladu, ac mae bywyd newydd a gobaith yn ymddangos o'r golygfeydd hynny o ddinistr. Mae pethau yn newid er gwell. Mae cartrefi a chychod newydd ar gyfer y cymunedau pysgota yn cael eu hadeiladu, ac mae pobl yn dechrau byw bywydau normal unwaith yn rhagor.

Ychwanegwch y cam hwn, os byddwch yn dymuno’i ddefnyddio gyda myfyrwyr hyn.

6. Mae'r cyfan o'r datblygiadau cadarnhaol yn arafach fyth na'r bywyd newydd a welwyd yn stori Mair. Mae llawer o deuluoedd yn dal i fod heb gartref, ond maen nhw'n gwybod bod gobaith a bywyd newydd ar ôl trychineb.

Mae ffordd y gallwn helpu! Dim ond £875 mae'n ei gostio i helpu un teulu adeiladu cartref newydd . . .  dim ond £145 fyddai ei angen i adeiladu cwch pysgota newydd, fydd yn helpu i fwydo 12 o bobl. Fel ysgol, efallai bod modd i ni gefnogi'r teuluoedd hyn a sicrhau bod gobaith yn disodli anobaith.

Amser i feddwl

Meddyliwch am adeg pan wnaethoch chi deimlo’n ddiymadferth a diobaith.

Wrth i ni edrych yn ôl, pa bethau da sydd wedi digwydd i ni ers yr adeg honno, neu oherwydd yr hyn ddigwyddodd i ni'r adeg honno?

Sut gallwn ni helpu i ddod â gobaith a bywyd newydd i eraill a allai fod yn mynd trwy gyfnod anodd?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Gweddïwn am amddiffyniad i bobl y Pilipinas - cenedl sy’n gorfod wynebu hyd at 20 storm drofannol bob blwyddyn.
Gofynnwn i ti helpu’r holl bobl a oroesodd Deiffwn Haiyan yn y Pilipinas.
Gweddïwn y byddi’n cynnal y bobl hyn wrth iddyn nhw ailadeiladu eu bywydau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon