Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Disgyn yn ddarnau neu ddod ynghyd

Ffordd o fyw adfywedig

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio stori’r Pasg, a’n hannog i fod ag agwedd gadarnhaol tuag at broblemau sy’n gallu codi yn ystod ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi’r ddau glip fideo TrueTube, The Crucifixion a The Resurrection, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth - ar gael ar: www.truetube.co.uk/festivals Mae’r clipiau’n para 2.14 munud yr un.
  • Fe allech chi drefnu i gael recordiad o’r gân ‘Get wise’ gan y Churchfitter, neu gerddoriaeth debyg, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Rydyn ni’n nesáu at wyl Gristnogol y Pasg.  Ar yr olwg gyntaf, fe fyddech yn meddwl mai stori am fywyd rhywun yn chwalu yw stori’r Pasg.

Dangoswch y clip fideo cyntaf,‘The Crucifixion’.

2. Ydych chi’n cael y teimlad, ambell dro, bod eich bywyd chi’n chwalu?

Fe allai hyn ddigwydd mewn sawl ffordd. Efallai ei fod yn rhywbeth sydd wedi digwydd mewn perthynas – â ffrind, efallai, neu yn achos eich rhieni. Fe allen nhw eu hunain fod wedi gwahanu neu'n mynd drwy ryw gyfnod anodd yn eu priodas. Gall hynny fod yn ganlyniad i rywbeth yr ydych chi wedi ei wneud. Rydych chi’n teimlo'n euog neu rydych yn ceisio cadw'r sefyllfa'n gyfrinachol. Efallai bod pobl eisoes wedi dod i wybod. Efallai eich bod wedi dioddef colled neu siomedigaeth. Efallai eich bod yn rhywun sy'n dioddef o anghyfiawnder. Mae cymaint o achosion pryd y byddwn ni’n gallu teimlo bod ein bywydau'n disgyn yn ddarnau.

3. Dyna sut mae stori'r Pasg yn dechrau. Mae Iesu'n dioddefwr anghyfiawnder enfawr, yn ddyn dieuog sy'n cael ei hun yn euog ar gam ac yn cael ei gondemnio i farwolaeth ddolurus. Mae ei ddilynwyr yn teimlo eu bod wedi eu siomi wrth iddo ildio'n llariaidd i'r canlyniadau. Roedd eu breuddwydion wedi cael eu chwalu gyda'i farwolaeth. Roedd popeth, i bawb, wedi disgyn yn ddarnau.

Saib.

Eto, a wnaethoch chi sylwi ar yr awgrym chwilfrydig yn y fideo, rhyw awgrym nad oedd popeth fel y dylen nhw fod?

Saib.

‘Mae Iesu'n gwylio wrth i bawb o'i gwmpas yn disgyn yn ddarnau  . . .  ond mae darnau cynllun Duw yn dod ynghyd yn dawel.’

4. Beth ydych chi'n ei gredu yw ystyr hynny - ‘Mae'r darnau cynllun Duw yn dod ynghyd yn dawel’? Dyma'r hyn y mae Cristnogion yn ei gredu a ddigwyddodd wedyn.

Dangoswch yr ail glip fideo, ‘The Resurrection’.

5. Peidiwch â gofyn i mi egluro'r manylion am yr hyn ddigwyddodd ar fore Sul y Pasg cyntaf hwnnw. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu, a fu faw ar y groes ar y dydd Gwener, wedi dod yn fyw unwaith yn rhagor ar y Sul canlynol.

Yn achos Cristnogion, mae hyn yn awgrymu fod marwolaeth, y tabw mawr, wedi cael ei goncro. Bellach, nid dyna yw'r diwedd. Mae Cristnogion hefyd yn credu bod yr atgyfodiad wedi creu ffordd i ddynion, merched a phlant i gael cyfarfod â Duw, i gael profiad o'i iachâd, ei faddeuant, a’i gariad. Mae'n union fel pe byddai jig-so cymhleth bywyd wedi chwalu’n filoedd o ddarnau, ac o ganlyniad i’r atgyfodiad, yn awr wedi disgyn yn ôl i'w lle fel un ddelwedd unigol, glir. Mae Cristnogion felly'n credu bod gobaith - cyfle i ddechreuad newydd - ym mhob sefyllfa.

Cerddoriaeth

Felly, sut mae modd i ni ddefnyddio’r neges gadarnhaol hon yn ein bywydau ni ein hunain?

Yn gyntaf, fe fyddwn i’n awgrymu na ddylen ni byth roi'r ffidil yn y to mewn anobaith. Fodd bynnag, gall bethau tywyll ymddangos, fel a ddigwyddodd ar ddydd Gwener y Groglith, yn ein cyfnodau a’n profiadau ni o ‘ddisgyn yn ddarnau’, fe allwn ni ddal ein gafael ar y gobaith bod goleuni ym mhen draw'r twnnel. Efallai nad ydym yn gallu ei weld ar y funud, efallai nad oes gennym unrhyw syniad i ba gyfeiriad y dylem fynd i'w ddarganfod, ond mae stori'r Pasg yn ein hannog i fentro gobeithio.                                                          

Yn ail, gall ein symbylu i gymryd rhywfaint o reolaeth ein hunain ar ddigwyddiadau. Pan fydd pethau'n mynd o chwith, bydd rhai ohonom yn dueddol o rewi, i gladdu ein pen yn y tywod, a smalio nad yw'n bodoli. Mae stori'r Pasg yn ein hannog, yn hytrach, i godi ar ein traed ac o leiaf, wneud  rhywbeth.

I'r merched a fu'n dilyn Iesu, roedd hyn yn golygu mynd at y bedd a bod yn ymarferol. Beth oedd hyn yn ei olygu yw eu bod yno yn gyntaf i gyfarfod â Iesu atgyfodedig. Roedd y dynion wedi ymgilio, yn ofnus, ac yn teimlo'n ddigalon. Fe gododd y merched ar eu traed a gwneud rhywbeth.

Yn drydydd, fe adawodd dilynwyr Iesu iddyn nhw'u hunain gredu'r annhebygol, yr annychmygol, yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib. Roedden nhw'n hyblyg, er ei fod wedi cymryd mwy o amser i rai ohonyn nhw. Pan ymddangosodd goleuni'r ateb, pan ddisgynnodd y darnau ynghyd i'w lle, fe wnaethon nhw ei dderbyn a'i gredu.

I Gristnogion sy'n credu, mae dimensiwn ychwanegol. Ar ôl atgyfodiad Iesu, fe wnaeth addewid i'r rhai a fyddai'n barod i'w ddilyn y bydden nhw'n derbyn cymorth a chefnogaeth yr Ysbryd Glân, fel adnodd ychwanegol. Mae hynny'n debyg i dderbyn uwchraddiad, neu fod â gwefrwr pwerus neu arch-eilyn ar ein hysgwydd, i'n helpu ni ar yr adegau hynny pan fydd ein bywydau’n ymddangos fel eu bod yn disgyn yn ddarnau. Dyna pam, I Gristnogion, mae stori'r Pasg mor bwysig.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y gobaith a’r anogaeth sy’n dod o stori’r Pasg.
Atgoffa ni o hyn pan fydd pethau yn ein bywyd ddim yn digwydd fel roeddem yn gobeithio.
Gad i ni feddwl am yr hyn a ddigwyddodd a defnyddio hynny er mwyn dod o hyd i ffordd o roi’r darnau’n ôl yn eu lle.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon