Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wnaiff geiriau byth fy mrifo

Sylweddoli y gall ein geiriau frifo teimladau, hyd yn oed pan fyddwn ni ddim yn bwriadu i hynny ddigwydd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Sylweddoli y gall ein geiriau frifo teimladau, hyd yn oed pan fyddwn ni ddim yn bwriadu i hynny ddigwydd.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi defnyddiau.

Gwasanaeth

1. Ydych chi wedi clywed y dywediad Saesneg canlynol? ‘Sticks and stones may break my bones, but words will never hurt me.’ Oes rhywun wedi dweud hynny wrthoch chi ryw dro?

Hen rigwm Saesneg ydyw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bwriad y rhigwm oedd perswadio plentyn yr oedd rhywun yn galw enwau arno i geisio anwybyddu beth oedd yn digwydd, peidio â chymryd sylw o’r hyn oedd yn cael ei ddweud, a cherdded i ffwrdd yn dawel oddi wrth y sefyllfa yn hytrach nag ymateb mewn unrhyw ffordd arall.

Fe wnaeth i mi feddwl, fodd bynnag, tybed a yw ail hanner y rhigwm yn wir. Mae’n dweud, ’but words will never hurt me’. Rwy’n tueddu i anghytuno â’r dywediad. Beth amdanoch chi?

2. Meddyliwch am y peth gorau y mae rhywun wedi ei ddweud wrthych chi erioed. Ydych chi’n gallu cofio’n hawdd?

Nawr, meddyliwch am y peth gwaethaf  y mae rhywun wedi ei ddweud wrthych chi erioed. Ydych chi’n gallu cofio?

Pa un oedd yr hawddaf i’w gofio? Fyddwn i ddim yn synnu pe byddech chi’n dweud mai’r pethau gwaethaf oedd yn dod i’ch meddwl ar unwaith – roedd y geiriau wedi brifo – roedd y geiriau cas wedi brifo’ch teimladau.

Efallai bod y geiriau wedi datblygu’n rhywbeth ynoch chi nad oeddech chi’n ei hoffi amdanoch eich hun. Ac roedd cael rhywun yn eu dweud efallai wedi cadarnhau’r pethau gwaethaf roeddech chi’n eu meddwl amdanoch chi eich hunan.

3. Mae ein geiriau’n gallu bod yn bethau mor gryf. Mae’n bosib iddyn nhw aros am flynyddoedd yng nghof rhywun, a hynny’n golygu y gallai’r person hwnnw fod yn teimlo’n ddrwg amdano’i hun neu fod â’i hunan-barch wedi ei niweidio’n fawr.

Mae dweud rhai geiriau’n gallu bod fel gollwng gwydr ar lawr caled. Unwaith y mae wedi ei ollwng (ac yn aml iawn mae’n amhosib ei stopio wedyn) does dim posib arbed y llanast. Y peth gorau allwch chi ei wneud yw casglu neu frwsio’r darnau – mae’n amhosib rhoi’r gwydr yn ôl at ei gilydd- amhosib ei drwsio.

4.Tybed ydych chi wedi ystyried, ryw dro, sut gall eich geiriau frifo neu niweidio rhywun, hyd yn oed os nad ydych wedi bwriadu i hynny ddigwydd? Yn aml, fe all rhywbeth rydyn ni’n ei feddwl sy’n ychydig o hwyl fod yn brifo teimladau rhywun arall yn fawr iawn. Fe allai’r ffordd rydyn ni’n ymateb i rywun arall pan fyddwn ni wedi blino, eisiau bwyd, neu’n teimlo’n ddig am rywbeth, gael mwy o effaith ar y person hwnnw nag a fyddem yn ei ddychmygu.

Rhowch eich hunan yn lle rhai cymeriadau llenyddol enwog am eiliad. Ydych chi’n cofio’r rhan yn Harry Potter and the Chamber of Secrets, lle mae Malfoy yn galw Hermione yn ‘mudblood’?

Cafodd geiriau Malfoy eu dewis yn bwrpasol i achosi cymaint o niwed â phosib i’r un yr oedden nhw wedi eu hanelu ato. Rydyn ni’n gwybod bod yr hyn a ddywedwyd yn ddrwg ac yn hollol annerbyniol oherwydd ymateb pobl eraill i hyn, yn enwedig Ron.

Os byddwch chi’n dweud rhywbeth wrth rywun wyneb yn wyneb, ambell dro mae’n ddigon hawdd dyfalu sut mae’r person hwnnw’n teimlo ynghylch yr hyn sy’n cael ei ddweud. Ond beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n dweud rhywbeth a’r person arall ddim yn ymateb o gwbl? Efallai ei fod ef neu hi’n bod yn ddewr, neu efallai eich bod chi ddim ond yn meddwl eich bod yn cael ychydig o sbort. Ond nid yw’r un rydych chi’n dweud hynny wrtho yn sylweddoli nad oeddech chi’n golygu’r hyn roeddech chi’n ei ddweud, ac mae’n cymryd y geiriau i galon ac yn dechrau poeni amdanyn nhw.

5. Mae’r un peth yn wir am negeseuon testun, Snapchat, negeseuon e-bost, Facebook a Twitter, ond yn yr achosion hyn dydych chi ddim o angenrheidrwydd yn gallu gweld yr un sydd ar y pen arall. Dydych chi ddim yn gwybod a yw eich neges wedi digio rhywun ai peidio, neu a yw’r sylw rydych chi wedi ei wneud am ffotograff, efallai, wedi brifo teimladau rhywun oherwydd dydych chi ddim yn gallu gweld ymateb y person arall. Mae mor hawdd ysgrifennu rhywbeth a’i anfon, yn rhannol am nad ydych chi wyneb yn wyneb â’r un yr ydych chi’n anfon ato ef neu ati hi.

6. Felly, dyma gyngor bach i chi (ac mae hyn yr un mor wir yn achos oedolion hefyd) cyn i chi ddweud beth sy’n mynd trwy eich meddwl, neu cyn i chi anfon neges destun neu e-bost, neu wneud unrhyw sylw, meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud, a gofynnwch ddau gwestiwn i chi eich hun.

– A yw’r peth rydych chi’n ei ddweud yn garedig?

– Fyddech chi’n hoffi derbyn y geiriau hynny?

Rhowch eich hunan ar y pen arall. A wnaiff y sylw fwy o ddrwg nag o les? Hefyd, a yw’r sylw’n angenrheidiol?

Os yw’r ateb i’r ddau gwestiwn yn gadarnhaol, yna ewch amdani – mae sylwadau a geiriau cadarnhaol hefyd yn rymus iawn, ond mewn ffordd dda. Os mai ‘Na’ yw’r ateb i’r ddau gwestiwn, yna mae angen i chi feddwl o ddifrif cyn dweud neu anfon y geiriau.

Amser i feddwl

Felly, rydyn ni nawr yn fwy ymwybodol bod angen i ni gymryd amser a chymryd cam yn ôl. Mae mor hawdd dweud rhywbeth ar amrantiad, neu heb feddwl, a fydd yn cymryd llawer o amser i’r person arall ddod ato’i hun eto ar ôl cael ei frifo.

Oedwch am eiliad ac ystyriwch y ddau gwestiwn eto: A yw’r peth rydych chi’n ei ddweud yn garedig?’ a ‘Fyddech chi’n hoffi derbyn y geiriau hynny?’ – ac efallai y byddwch yn arbed pobl eraill ac yn arbed eich hunan rhag teimlo’n ddrwg iawn.

Efallai mai dyma sut y dylai’r dywediad fod, ‘Sticks and stones may break my bones, but words will often hurt me’.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon