Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y dieithryn anadnabyddus

Bywyd a achubwyd yn Hillsborough

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried sut mae geiriau a gweithredoedd caredig yn gallu cael effaith arwyddocaol.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

Arweinydd  Dyn cyffredin yw Phil Greene sydd â llawer o bethau i fod yn ddiolchgar ohonyn nhw.

Darllenydd 1  Mae'n ddiolchgar ei fod wedi teithio i leoliadau heulog fel America Ladin a Mauritius.

Darllenydd 2  Mae hyd yn oed wedi cymryd y cyfle i fyw dramor.

Darllenydd 1  Mae hynny'n golygu ei fod hefyd yn ddiolchgar am 'Skype', fel ei fod yn gallu sgwrsio â'i ferch a chwe brawd a chwaer sydd wedi'u gwasgaru ledled y byd.

Darllenydd 2  Mae'n ddiolchgar am ddyddiau heulog, poeth . . .

Darllenydd 1 . . .  A boreau pan nad yw'n gorfod codi o'i wely'n gynnar.

Darllenydd 1  Mae Phil yn ddiolchgar ei fod yn gallu gwrando ar ei hoff ganeuon . . .

Darllenydd 2 . . .  Ond, yn bennaf oll, mae'n ddiolchgar am y geiriau a ddywedodd rhyw ddyn anadnabyddus wrtho dros 25 mlynedd yn ôl.

Arweinydd  Mae Phil yn un o'r Cochion, un o Gochion Lerpwl.

Efallai y byddwch eisiau ychwanegu sylw arall os ydych yn ymwybodol bod eich myfyrwyr yn gefnogwyr selog o dîm neilltuol yn yr Uwch Gynghrair.

Ar 15 Ebrill 1989, teithiodd Phil draw i Sheffield, lle'r oedd Lerpwl i fod i chwarae yn erbyn Nottingham Forest yn y rownd gynderfynol o Gwpan yr FA. Bob tro y byddai'n mynd i edrych ar gêm, byddai Phil yn anelu bob amser at y terasau y tu ôl i un o'r goliau. Dyna ble'r oedd y gwir gefnogwyr yn mynd - y rhai hynny oedd yn siantio a chanu, ac a oedd yn honni eu bod nhw'n gallu sugno'r bêl i'r rhwyd gyda'u cydymdrechion.

Fel yr oedd ef a'i ffrind Mark ar fin mynd i lawr y twnnel a oedd yn arwain at derasau Leppings Lane, fe gawson nhw eu stopio gan ddyn a'u rhybuddiodd bod rhywbeth o'i le y tu ôl i'r gôl fan honno. Doedden nhw erioed wedi cyfarfod â'r dyn hwnnw yn eu bywydau. Roedd yn hollol anadnabyddus iddyn nhw. Doedd ganddo ddim rheswm i siarad gyda nhw, ond fe wnaeth. Pe bydden nhw wedi mentro ychydig droedfeddi ymhellach, fe fydden nhw wedi cael eu dal yn y lli o gefnogwyr a hudwyd yn ddiymadferth i'r fagl farwol honno a fyddai'n gyfrifol am farwolaeth 96 o gefnogwyr Lerpwl ac anafu dros 750 o rai eraill.

Oedi am foment wnaeth Phil a Mark, yna fe wnaethon nhw droi yn ôl o'r twnnel ac, yn lle hynny, cael hyd i le ar deras oedd ar yr ochr, lle nad oedd cymaint â hynny o gefnogwyr wedi casglu mor glos at ei gilydd.

Faint o bobl hollol anadnabyddus ydych chi'n gyfarfod ar ddiwrnod arferol? Fe allan nhw fod yn bobl yr ydych yn cerdded heibio iddyn nhw ar y stryd neu’n rhannu sedd â nhw ar y  bws. Efallai y byddwch yn sefyll gyferbyn â nhw mewn ciw neu’n aros wrth eu hymyl ar groesfan wrth aros i'r goleuadau newid eu lliw. Does yna ddim rheswm i chi gael unrhyw gysylltiad na rhyngweithiad â nhw. Dydych chi ddim yn eu hadnabod, na nhw'n eich adnabod chi, yr unig beth yr ydych yn ei wneud yw rhannu'r un gofod am ychydig eiliadau.

Mae'n ddiddorol edrych ar bobl yn y fath sefyllfaoedd. Mae llawer yn gwneud ymdrech i osgoi unrhyw gyswllt gyda'r rhai sydd o'u cwmpas. Maen nhw'n edrych i unrhyw gyfeiriad er mwyn osgoi edrych ar y naill a'r llall, yn aml gan syllu â chryn ddiddordeb ar yr hysbysebion neu rybuddion ar y waliau sydd o'u cwmpas. Does neb yn cyffwrdd â neb arall. Bob amser bydd peth shifflo'n digwydd er mwyn creu lle rhwng cyrff. Mae'r un fath â phe byddai pawb yn ei fyd bach ei hun.

Beth tybed, fyddai'r canlyniad pe byddem yn ymddwyn dipyn bach yn wahanol? Beth pe byddem yn ystyried yr eiliadau hynny fel adegau pan fyddai'r amser y byddem yn rhannu'r un gofod yn amser i archwilio a chreu? Beth pe byddai'n gyfle i afael ynddo?

Darllenydd 1  Gall gwên a 'Bore da' hwyliog wneud byd o wahaniaeth i rywun sy'n teimlo braidd yn isel ei ysbryd. Mae'n arwydd bod rhywun wedi sylwi arnyn nhw, a’u bod yn cyfrif.

Darllenydd 2  Gall sgwrs syml wneud byd o wahaniaeth i rywun sy'n unig ac sydd heb siarad â neb arall y diwrnod hwnnw.

Darllenydd 1  Gall cynnig help wneud byd o wahaniaeth i rywun sydd yn drymlwythog dan bwysau'r byd, yn oedrannus, neu sydd â rhywfaint o anabledd.

Darllenydd 2  Gall dal drws yn agored i rywun, neu yngan y geiriau, 'Ewch chi’n  gyntaf' wneud byd o wahaniaeth i rywun sy'n ceisio ymdopi â newyddion drwg neu sy'n ymboeni am ryw agwedd ar eu bywyd.

Amser i feddwl

Mae'n beth hawdd iawn yngan y geiriau bach hyn, ac mae’r gweithredoedd yn ddigon di-nod. Fe allen nhw gael eu hanwybyddu. Fe allen nhw hyd yn oed godi gwrychyn rhai pobl. Fe allen nhw gael eu gwrthod.

Does gennym ni ddim ffordd o wybod beth all y canlyniadau fod . . .  ac efallai mai dyna'r pwynt. Yn union fel nad oedd gan y dyn anadnabyddus yn Hillsborough unrhyw syniad y byddai ei eiriau o bosib yn achub Phil a'i ffrind o gael eu niweidio, neu hyd yn oed eu lladd, felly hefyd ni allwn ninnau ragweld yr effaith y gall ein cyswllt ei gael ar rywun. Efallai mai chi neu fi fydd yr un sy'n lleddfu'r tristwch, yn lleihau'r baich, neu sy'n dangos bod daioni yn y byd.

Felly, yn hytrach nag aros yn ein swigod ynysig, gadewch i ni dorri ffordd i ni ein hunain allan o'r swigod hynny, rhannu ychydig o optimistiaeth a gobaith. Gall ein geiriau a'n gweithredoedd syml fod yr union bethau a all ddod â newid er gwell i ddiwrnod rhywun.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am eiriau caredig a gweithredoedd pobl eraill sydd wedi ein helpu i symud ymlaen.
Atgoffa ni bob amser o gyfleoedd sydd gennym ninnau i wneud yr un fath.
Gwna i ni ddweud pethau caredig yn ddigymell.
Boed i fywydau cael eu newid ychydig bach o’n hachos ni.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Bus stop’ gan yr Hollies

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon