Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Disgwyliwch yr annisgwyl

Y Pentecost a’r Ysbryd Glân

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried natur a gwaith yr Ysbryd glân o fewn Cristnogaeth ac o fewn dynoliaeth gyfan drwyddi draw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch rai i ddarllen.
  • Cawn hanes dyfodiad yr Ysbryd Glân yn Actau 2. 1–13.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd: A ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa lle'r ydych yn gwneud dim ond pendroni, gan feddwl beth i'w wneud â chi'ch hun? Allwch chi ddim penderfynu gwneud unrhyw beth, mewn gwirionedd. Does ddim yn eich cynhyrfu'n ddigonol i wneud yr ymdrech i ddechrau gwneud unrhyw beth. Efallai ei bod hi'r cyfnod hwnnw tuag at ddiwedd gwyliau ysgol. Efallai mai dydd Sadwrn neu ddydd Sul yw hi. Rydych yn troi'r teledu ymlaen neu’n tanio'r cyfrifiadur ond nid oes unrhyw beth yn dal eich sylw. Rydych chi mewn perygl o ddiflasu.

    Dyna sut roedd hi ar ddilynwyr Iesu yn syth ar ôl iddo ymadael â nhw am y tro olaf.

    Darllenydd 1: Roedden nhw wedi aros gyda'i gilydd fel grwp, gan gyfarfod â’i gilydd yn aml.

    Darllenydd 2: Roedden nhw wedi gwneud llawer o weddïo.

    Darllenydd 1: Roedden nhw wedi sylweddoli bod marwolaeth Jwdas wedi eu gadael yn fyr o un aelod o'r tîm.

    Darllenydd 2: Felly roedden nhw wedi bwrw coelbren a dewis Mathias i ddod yn aelod atyn nhw, a dod â'r rhif yn ôl i ddeuddeg unwaith eto.

    Darllenydd 1: Ac fe ddaethon nhw ynghyd fel grwp.

    Darllenydd 2: Ac fe wnaethon nhw weddïo tipyn mwy....

    Arweinydd: ... nes i rywbeth annisgwyl ddigwydd ryw ddiwrnod.

    Yn gyntaf roedd swn mawr, fel corwynt, ond roedd hynny y tu mewn i'r ystafell lle'r oedden nhw wedi dod ynghyd. Yna, roedd yr hyn oedd yn ymddangos yn debyg i fflamau o dân, yn symud o gwmpas yr ystafell ac yn ymddangos fel pe bydden nhw'n dawnsio uwchben pob unigolyn oedd yno. Yn olaf, fe ddechreuodd pawb siarad yn uchel, ond nid mewn Aramaeg, eu mamiaith. Roedden nhw'n llefaru mewn Groeg, Lladin, Arabeg ac ieithoedd eraill o'r Dwyrain Canol ag Asia. Roedden nhw'n llefaru geiriau o foliant i Dduw mewn tafodieithoedd yr oedd pob person yn Jerwsalem ar y diwrnod hwnnw'n eu deall. Ac nid oedd yr un ohonyn nhw erioed wedi cael eu haddysgu yn yr ieithoedd hyn.

    Mae Cristnogion yn deall mai'r Ysbryd Glân oedd hwn yn dod atyn nhw mewn ffordd arbennig ac i mewn i fywyd pob aelod o'r eglwys gyntaf. Caiff hyn ei ddathlu ar galendr yr Eglwys fel Gwyl y Pentecost neu’r Sulgwyn ar Sul tua diwedd mis Mai.

  2. Arweinydd: Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn ymddangos i ni mewn tair ffordd: fel Duw'r Tad a Chreawdwr, fel Iesu, sydd yn Dduw ar ffurf ddynol ac, yn olaf, yr Ysbryd Glân, sef nerth Duw sy'n weithredol ym mywyd pob bod dynol. Beth ddaeth â syndod i'r Eglwys Fore oedd y ffaith bod yr Ysbryd Glân yn hollol annisgwyl a neb wedi rhagweld y byddai hynny’n digwydd: swn byddarol, tân nad oedd yn llosgi, a'r teimlad angerddol eu bod yn gorfod llefaru'n hy mewn geiriau na chafodd erioed eu dysgu iddyn nhw. Fe gawson nhw'u gorlethu gan y profiad. Roedd y cyfan y tu hwnt i'w holl ddisgwyliadau. Nid oedd yn cyd-fynd ag unrhyw beth tebyg y daethon nhw ar ei draws o'r blaen. A'r profiad hwn oedd y grym a fu’n gyfrifol am eu gyrru ymlaen i greu mudiad crefyddol a ledaenodd i bob cwr o'r Ymerodraeth Rufeinig ac sy'n bodoli ledled y byd hyd heddiw.

  3. Fyddwch chi, ambell dro, yn cael moment o ysbrydoliaeth? Efallai mai syniad am stori neu ddarn o waith celf yw’r ysbrydoliaeth. Efallai mai datrysiad i broblem sydd wedi bod yn peri dryswch i chi ers tro ydyw. Gall fod yn syniad gwyllt ac od am brosiect neu weledigaeth o'r hyn all ddigwydd yn y byd delfrydol. Roedd yr Iddewon ynghyd â'r Cristnogion yn credu mai presenoldeb yr Ysbryd Glân sy'n ein gwneud yn ddynol. Mae'r Ysbryd yn bresennol yn stori'r Creu, yn nerthu popeth sy’n dod i fodolaeth. Mae'r Iddewon ynghyd â'r Cristnogion yn credu mai'r Ysbryd yw'r gyriant sy'n ein hannog ni i archwilio a dysgu am bob agwedd ar fywyd: chwaraeon, celfyddyd, gwyddoniaeth, addysg, perthnasoedd, neu beth bynnag yr ydym yn rhan ohono. Yr Ysbryd yw ffynhonnell ein hysbrydoliaeth.

Amser i feddwl

Beth, felly, all hyn ei olygu i ni? Yn gyntaf, mae'n ein hannog ni i ddisgwyl yr annisgwyl, i fyw ein bywyd fel pe byddai'r foment nesaf o arwyddocâd enfawr. Dydy diflastod ddim yn perthyn iddo. Wyddom ni ddim pryd y bydd corwynt yn cyrraedd, ac ni allwn ragweld o ba gyfeiriad y gall ddod. 

Yn ail, mae'n ein hannog ni i sylwi ar y syniadau anghonfensiynol hynny sy'n dod i'n meddyliau. Gall fflam fechan greu tân anferthol. Pam y dylem ni wneud yr un peth bob amser? Pam na allwn ni anghydffurfio weithiau?

Ond yn olaf, fe all yr Ysbryd Glân wneud i ni sefyll allan mewn torf, a dylem fod yn barod i wynebu rhywfaint o wrthwynebiad, peth gwawdio gan y rhai hynny sy'n dueddol o fod yn llai anturus neu sydd ychydig yn fwy confensiynol. Fe ddigwyddodd hynny'n sicr yn achos dilynwyr Iesu pan ddaeth yr Ysbryd Glân atyn nhw. Fe gawson nhw eu cyhuddo hyd yn oed o fod wedi meddwi a hithau ddim ond yn ddeg o'r gloch y bore!

Beth yw eich disgwyliadau ar gyfer heddiw? A yw'n debygol o fod yn amser cyffredin, undonog, di-sialens yn yr ysgol, gartref neu gyda'ch ffrindiau? Yn hytrach, mewn ffordd, rwy'n gobeithio y bydd corwynt yn taro, y bydd fflam yn cael ei chynnau, y byddwch mor gyffrous fel na fedrwch atal eich hun rhag sôn am y peth.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr Ysbryd Glân, y sbarc o fywyd a chreadigrwydd ynom.
Boed i ni ymateb pan fydd y syniadau’n ein taro, a phan fydd y cyfle’n cyrraedd.
Boed i’n cymuned fod yn fyw ac yn ysbrydoledig oherwydd ein bod ni wedi ymateb ac wedi mynd ati i wneud rhywbeth.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon