Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod Cenedlaethol Ymladdwyr Tân – 4 Mai

Pwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o ddiogelwch tân yn ein cymuned.

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Pwysleisio pwysigrwydd bod yn ymwybodol o ddiogelwch tân yn ein cymuned.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os hoffech chi, fe allech chi ofyn i nifer o’r myfyrwyr ddarllen rhan helaeth o gynnwys y gwasanaeth.
  • Paratowch gyflwyniad PowerPoint byr gyda delweddau cysylltiedig â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, gan gynnwys delweddau o rubanau Diwrnod Cenedlaethol yr Ymladdwyr tân (manylion yn dilyn).
  • Gwahoddwch aelod o dîm y Gwasanaeth Tân ac Achub i siarad â’r myfyrwyr. Neu, chwiliwch y rhyngrwyd am fideo sy’n ymwneud â diogelwch rhag tân.
  • Llwythwch i lawr y daflen ynghylch diogelwch tân sydd ar gael ar www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/49766/Fire_Safety_in_the_Home_-_Version_2.pdf

Gwasanaeth

  1. Cafodd Diwrnod Rhyngwladol Ymladdwyr Tân ei sefydlu yn dilyn trychineb o achos tân gwyllt aeth allan o reolaeth, a ddigwyddodd ar 2 Rhagfyr 1999. Collodd pump o ymladdwyr tân eu bywyd wrth geisio diffodd fflamau tân dychrynllyd yn nhalaith Victoria, Awstralia.

    Roedd ymladdwyr tân ledled y byd yn galaru drostyn nhw. Cyn belled ag yr oedden nhw'n meddwl, gallai unrhyw un ohonyn nhw wedi bod yn y goedwig law y diwrnod hwnnw. Cofir am yr ymladdwyr tân hyd heddiw fel arwyr a ddefnyddiodd eu hyfforddiant a'u dewrder er mwyn achub bywydau ac eiddo.

    Roedd J.J. Edmondson, is-gapten ac ymladdwr tân gwirfoddol yn Victoria, yn ffrind agos i'r pum ymladdwr tân a phenderfynodd greu symbol rhyngwladol cydnabyddedig o gefnogaeth a pharch i bob ymladdwr tân, a dyddiad pryd y gellid ei ddathlu.

  2. Dewiswyd y dyddiad 4 Mai gan mai'r dyddiad hwnnw yw gwyl Sant Florian, nawddsant ymladdwyr tân, ac fe anwyd cymynrodd.

    Sant Florian oedd un o’r cadlywyddion cynharaf ar griw o ymladdwyr tan yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Collodd yntau ei fywyd yn yr un modd wrth geisio amddiffyn ei gymuned.

    Yn ôl y chwedl, achubodd Sant Florian dref gyfan gyda dim ond un bwcedaid o ddwr.

    Yn ddiweddarach cafodd Sant Florian ei fradychu gan ei fyddin ei hun, ac ildiodd ei hun i filwyr Aquilinus o achos ei ffydd Gristnogol. Yn drasig, ar ôl hynny fe gafodd ei daflu i Afon Enns gyda charreg filltir wedi ei chlymu o amgylch ei wddf.

    Am 150 o flynyddoedd mae llawer o wledydd Ewrop wedi dathlu'r diwrnod, y 4ydd o Fai, fel Dydd Sant Florian, gan gydnabod dewrder y sant a'i ymrwymiad i ddiogelu ei bobl.

  3. Dangoswch y ddelwedd o rubanau Diwrnod Cenedlaethol yr Ymladdwyr Tân.

    Roedd J.J. Edmondson wedi creu symbol rhyngwladol: roedd y symbol hwn yn cynnwys rhubanau coch a glas, gyda'r coch yn cynrychioli tân a'r glas yn cynrychioli dwr. Fel mae'n digwydd, coch a glas yw'r lliwiau sy'n cynrychioli'r gwasanaethau argyfwng. Mae hyn yn ein helpu ni gofio ystyr yr wyl yn hawdd.

  4. Mae teimlad cysurus o wybod bod gennym frigâd dân yn ein trefi. Ond peidiwch ag anghofio ein bod ni i gyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o amddiffyn ein cymunedau. Y ffordd orau o stopio tanau yw gofalu nad ydyn nhw’n dechrau yn y lle cyntaf. Gwnewch yn siwr fod pob popty, neu ffwrn, ac offer trydanol eraill wedi cael eu diffodd, ac nad oes rhwystrau wedi eu gosod lle mae allanfeydd tân, profwch eich larwm tân yn rheolaidd i wneud yn siwr ei fod yn parhau i weithio ac, yn bwysicach na dim, addysgwch eich hun am ddiogelwch rhag tân.

  5. Dangoswch y llyfryn sy’n ymwneud â diogelwch tân.

    Un yn unig yw'r llyfryn diogelwch rhag tân hwn sydd i'w gael ar-lein; mae'n llawn o ffeithiau diddorol ynghylch diogelwch rhag tân a chynghorion a all rhyw ddydd arbed eich bywyd a bywydau pobl eraill.Chwaraewch y fideo sy’n trafod diogelwch tân, neu gwahoddoch yr aelod o’r Gwasanaeth Tân ymlaen i siarad â’r myfyrwyr os byddwch wedi trefnu hynny.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment yn bod yn ddiolchgar am y gwasanaethau brys, a’r bobl sy’n rhoi eu bywyd mewn perygl er ein mwyn ni bob dydd.
Boed i ni ddysgu oddi wrth eu hesiampl, ac arwain ein gilydd i gadw ein hunain a phobl eraill yn ddiogel.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon