Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y peth go iawn 'The Real McCoy'

Grym y Pentecost

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried grym y Pentecost ym mywyd y disgyblion cynnar.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paced o greision McCoy (os byddwch chi’n rhannu’r rhain, gwiriwch yn gyntaf nad oes alergedd bwyd gan y plant)
  • hefyd, delwedd Google o Chris Hoy
  • a delwedd Google o rieni Chris Hoy gyda’u baner oedd yn nodi, ‘Chris Hoy the real McHoy
  • trefnwch fod gennych chi ddau ddisgybl i ddarllen y rhannau o Luc 24.49 ac Actau 1.8.

Gwasanaeth

  1. Ysgrifennwch y geiriau ‘the real McCoy’ ar fwrdd gwyn.

    Ystyriwch ystyr y dywediad Saesneg ‘the real McCoy’. Pe byddech chi’n chwilio ar Wikipedia, fe fyddech chi’n canfod sawl posibilrwydd yn awgrymu o ble daeth y dywediad hwn. Mae’n debyg ei fod wedi tarddu o hysbyseb am wisgi Albanaidd, dywediad a newidiwyd o ‘the real McKay’ i ‘the real McCoy’. Beth bynnag, yr hyn mae’n ei olygu yw ‘y peth go iawn’.

  2. Dangoswch y paced o greision McCoy. Os teimlwch fod hynny’n briodol, fe allech chi rannu rhai o’r rhain â’r disgyblion.

    Does dim dwywaith nad yw’r rhain yn greision da iawn. O grensiad cyntaf y tafelli creision tatws blasus i’r briwsion olaf fydd yng ngwaelod y paced, rydych chi’n gwybod nad brand cyffredin rhad yw’r creision hyn rydych chi’n eu bwyta!

  3. Dangoswch y ddelwedd o Chris Hoy.

    Ydych chi’n gwybod pwy yw hwn?

    Dangoswch y ddelwedd o rieni Chris Hoy’n dal y faner roedden nhw’n ei chwifio ym mhob ras, ‘Chris Hoy the real McHoy’.

    Ystyriwch pa mor briodol yw’r faner hon gyda’r slogan glyfar.

  4. Pe byddem yn profi Chris Hoy, rwy’n credu y byddem yn dod o hyd i’r ‘peth go iawn': coesau sy’n cael eu hymestyn i'r eithaf, esgyrn a chyhyrau ar frig eu perfformiad, breichiau gyda chyhyrau tynn heb filimedr o gnawd wast arnyn nhw, ac mae ei ben-ôl wedi dysgu ymdopi ag eistedd ar sedd fach am oriau! Yr wyf yn meddwl y byddech yn cytuno bod Chris Hoy ‘y peth go iawn’, bob tamaid - yn athrylith beicio i'r carn. Nid oes un rhan ohono heb fod wedi ei ymarfer i fod yn berffaith, bron.

  5. Dewisodd Iesu, pan oedd ar y ddaear, 12 o ddisgyblion. Pobl gyffredin iawn oedden nhw. Y cynllun oedd, eu bod, wedi ei farwolaeth ef yn cael eu gadael gyda'r dasg o ledaenu ei neges am gariad Duw i’r byd i gyd. Treuliodd dair blynedd gyda nhw, ddydd a nos, yn addysgu popeth a wyddai iddyn nhw. Eto i gyd, pan fu farw fe wnaethon nhw ffoi, ei ddiarddel, a threulio'r wythnosau canlynol yn cuddio mewn ystafell i fyny'r grisiau mewn ty, rhag ofn mai nhw fyddai’r rhai nesaf i gael eu lladd. Roedd Iesu’n gwybod nad oedd yr hyn oedd ynddyn nhw yn bendant ddim yn ‘the real McCoy’!

    Efallai y bydden nhw wedi cael rhywfaint o ddewrder a dealltwriaeth, a rhywfaint o hyfforddiant wrth ddyfalbarhau i sôn am gariad, ond yr oedd y cyfan braidd yn arwynebol. Bwriad Iesu oedd iddyn nhw fod yn wirioneddol ‘y peth go iawn' o ddifri, fel yr oedd ef wedi bod.

    Felly, fe ddywedodd wrthyn nhw am aros.

    Myfyriwr i ddarllen Luc 24.49: ‘Ac yn awr yr wyf fi’n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.’

    Myfyriwr i ddarllen Actau 1.8: ‘Ond fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.’

    Fe wnaeth y disgyblion ufuddhau, ac yn ystod y Pentecost fe wnaethon nhw dderbyn yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddyn nhw, a’i nerth. Yna daeth y gwahaniaeth. Ar ôl hynny roedden nhw’n ddi-ofn, ac fe wnaethon nhw ddechrau pregethu drosodd a throsodd i unrhyw un a phawb, er eu bod wedi cael eu carcharu a’u curo yn aml iawn. ‘Mae’n rhaid i ni bregethu neges hon,' oedd eu hateb i'r awdurdodau.

    Fe wnaethon nhw ymroi eu hunain i addysgu eraill ac i weddïo. Fe wnaethon nhw roi'r gorau i'w cartrefi a dechrau byw mewn cymuned. Fe wnaethon nhw werthu eu heiddo a’u nwyddau a rhoi i'r rhai mewn angen. Fe wnaethon nhw weddïo dros bobl a’u gwella a’u rhyddhau o bob math o gaethiwed. Fe wnaethon nhw deithio ar hyd a lled y tir yn siarad â phob math o bobl. Fe wnaethon nhw wynebu erledigaeth a llongddrylliad, cael eu curo ac wynebu marwolaeth. Ac fe ychwanegodd Duw gannoedd at eu rhif bob dydd. Yn y pen draw cafodd y cyfan ond un o’r deuddeg disgybl eu merthyru oherwydd eu ffydd. Roedden nhw’n wir wedi dod yn beth fydden ni’n ei alw’n ‘the real McCoy’.

  6. Hyd yma, mae 22 miliwn o bobl wedi bod ar gwrs Alpha, cwrs sydd wedi ei ddylunio i helpu pobl i ganfod a yw’r neges hon yn dal i fod yn ‘the real McCoy’. A yw Iesu’n real, ac ai ei air yw’r gwirionedd? Bob dydd, mae cannoedd o Gristnogion mewn llefydd fel Syria, trwy weithredoedd eithafwyr, yn wynebu marwolaeth oherwydd yr hyn maen nhw’n ei gredu. Mae’r neges wedi lledaenu o Jerwsalem i Jwdea a Samaria a ledled y byd, ac mae Duw trwy ei nerth yn gallu newid pobl o’r tu mewn allan gyda’r neges o gariad a maddeuant. 

Amser i feddwl

Efallai yr hoffech chi ystyried y canlynol o ddifri. A yw’r ffordd rydych chi’n ymddangos ar y tu allan yr hyn ydych chi o ddifri ar y tu mewn? Ydych chi ‘y peth go iawn’?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Dim ond ni ein hunain sy’n gwybod pwy ydyn ni go iawn, ac ni allwn dwyllo ein hunain na dy dwyllo di. Rydyn ni’n gymysgiad o ddrwg a da.
Rydyn ni’n hoffi gweld y ‘real McCoy’ mewn pobl.
Diolch i ti am neges y Pentecost.
Rho i ni’r nerth i fod y cyfan rwyt ti wedi bwriadu i ni fod. Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon