Pentecost
Crist ynom ni
gan Hannah Knight
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio dathlu’r Pentecost fel dyfodiad yr Ysbryd Glân at ddilynwyr Iesu.
Paratoad a Deunyddiau
- Os hoffech chi drefnu hynny, fe allai myfyrwyr ddarllen y rhan fwyaf o gynnwys y gwasanaeth hwn.
- Paratowch gyflwyniad PowerPoint byr gyda delweddau yn gysylltiedig â’r Pentecost, neu'r Shavuot.
Gwasanaeth
- Mae’r Pentecost yn deillio o wyl Iddewig sy'n digwydd ar yr hanner canfed dydd ar ôl y Pasg. Mae'n dathlu'r digwyddiad pwysicaf yn hanes Israel, sef Moses yn derbyn y Tora (y pum llyfr cyntaf yn y Beibl Hebraeg). Byddai'r Iddewon yn cynnal gwyl gan ddefnyddio grawn o'r cynhaeaf gwenith. Mae gan y Pentecost lawer o enwau gwahanol yn cynnwys Shavuot, gwyl y cynhaeaf a gwyl yr wythnosau.
Trwy gydol hanes Iddewig, roedd disgwyl i'r Iddewon astudio'r Tora ar noson gyntaf y Shavuot. Byddai plant yn cael eu hannog i ddysgu ar eu cof yr Ysgrythur ac o wneud hynny, yn cael eu gwobrwyo â phleserau.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, anghofiwyd am lawer o draddodiadau Iddewig a chollwyd eu harwyddocâd. Daeth yr wyl gyhoeddus bellach yn fwy o wyl fwyd na gwyl grefyddol. Bydd Iddewon traddodiadol yn parhau i oleuo canhwyllau ac adrodd bendithion, bwyta cynnyrch llaeth, astudio'r Tora a mynychu gwasanaethau'r Shavuot. - Mae'r Pentecost Cristnogol yn cynrychioli dyfodiad yr Ysbryd Glân ar yr un ar ddeg apostol. Mae Cristnogion yn credu bod apostolion Iesu wedi cael eu dwyn ynghyd i ddathlu gwyl y Shavuot pan glywyd yn sydyn, swn gwynt yn rhuthro; fe lanwodd yr ystafell, ac fe ymddangosodd tafodau o dân uwchben pob un o'r apostolion. Dechreuodd yr apostolion lefaru wrth ei gilydd mewn ieithoedd gwahanol trwy ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân. Roedd yr wyl Iddewig, y Pentecost, yn wyl bererindod fawr. Felly, fe fyddai pobl o wahanol rannau o'r Ymerodraeth Rufeinig wedi dod ynghyd yn Jerwsalem. Pan welodd y bobl hynny yr apostolion yn llefaru yn eu hieithoedd nhw, roedden nhw wedi rhyfeddu ac roedden nhw’n dechrau meddwl, efallai, bod yr apostolion wedi meddwi.
- Mae stori yn y Beibl yn dweud wrthym fod Pedr wedi codi ar ei draed a phregethu o flaen y dorf. Soniodd am ddyfodiad yr Ysbryd Glân, ac am Iesu Grist, am sut y bu farw a'i atgyfodiad. Gofynnodd rhai yn y dorf beth allen nhw ei wneud, ac atebodd Pedr, ‘Edifarhewch a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist.’
Ar y diwrnod hwnnw, bedyddiwyd dros dair mil o bobl ac fe wnaethon nhw barhau i wrando ar ddysgeidiaeth yr apostolion a chyflawni gwyrthiau yn ei enw da. - Gall Cristnogion, ynghyd â'r rhai sydd ddim yn Gristnogion, wneud defnydd o'r moesoldeb sydd yn rhan o'r stori hon o'r Beibl. Gall yr Ysbryd Glân gael ei ddefnyddio o hyd gan ei fod yn cynrychioli maddeuant a chariad at eraill.
Amser i feddwl
Felly, sut mae'r Ysbryd Glân yn ein helpu yn ein bywyd beunyddiol? Mae Cristnogion yn credu ei fod yn ein cysuro, yn ein haddysgu i wahaniaethu rhwng y da a'r drwg, a'n cynorthwyo i aeddfedu yn ein perthynas â Duw a phobl eraill. Mae o'n ein helpu hefyd i fod yn ddelfryd ymddwyn i bobl eraill.
Pan fyddwch yn ymadael o'r gwasanaeth hwn, efallai y gallwch feddwl am y ffordd y gallwch chi fod yn berson mwy maddeugar gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Wyddoch chi ddim, efallai y derbyniwch yr un peth yn ôl.
Gweddi
Helpa ni i fod yn fwy maddeugar,
yn fwy hael,
ac yn fwy caredig,
heddiw.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.