Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diffoddwch y teclyn

Ystyried a fyddai diffodd teclynnau electronig yn eich helpu i ganolbwyntio, a’ch helpu i gysgu yn y nos, ai peidio.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried a fyddai diffodd teclynnau electronig yn eich helpu i ganolbwyntio, a’ch helpu i gysgu yn y nos, ai peidio.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Faint ohonoch chi wnaeth ddeffro bore heddiw, a’r peth cyntaf wnaethoch chi oedd agor eich ffôn, neu edrych arni’n syth – efallai nad oeddech wedi ei diffodd dros nos?

    (Gofynnwch i bawb wnaeth hynny godi eu dwylo)

  2. Tybed faint ohonoch chi fydd yn gallu gwir 'ddiffodd' (switch off)? Yn gallu llwyr diffodd eich holl declynnau, eich smartphone, ipad neu dabled, setiau teledu ac yn y blaen? Yn gallu eu diffodd yn llwyr a chael eiliad pan fyddwch yn eistedd heb unrhyw ymyrraeth electronig. Yn achos rhai ohonoch, rwy’n credu y byddai diffodd y dyfeisiau hyn, ac o bosibl golli galwad, neu golli neges destun, neu golli gweld rhywbeth ar Facebook neu Twitter, yn anodd iawn. Fodd bynnag, fe allai olygu y gallech chi wirioneddol ymwneud â'r byd go iawn o'ch cwmpas chi, neu gyda'r bobl nesaf atoch chi, a siarad â nhw.

  3. Oeddech chi'n gwybod bod damcaniaeth ynglyn â’r ffônau clyfar,, sy’n honni eu bod yn achosi i bobol ifanc yn eu harddegau beidio â chael digon o gwsg? Rydw i wedi cael y profiad fy hun: dim ond un cynnig arall ar y lefel honno o Candy Crush, neu olwg sydyn arall ar Twitter, rhag ofn bod rhywun wedi crybwyll fy enw i, neu rhag ofn bod rhywbeth wedi newid ers i mi edrych arno bum munud yn ôl. Po hiraf y bydd person ifanc yn ei dreulio yn defnyddio dyfeisiau electronig, salaf fydd ansawdd ei gwsg.

  4. Yn ôl y theori, credir bod treulio mwy na dwy awr o amser sgrin ar ôl ysgol yn cael ei gysylltu’n gryf â diffyg cwsg. Mae'r astudiaeth yn dod o Norwy lle mae bron pob un o'r bobl ifanc yn eu harddegau gymerodd ran yn yr astudiaeth yn dweud eu bod yn defnyddio'r dyfeisiadau hyn yn yr amser cyn iddyn nhw fynd i'r gwely. Os byddech chi’n meddwl am yr hyn a wnaethoch chi neithiwr, cyn i chi ddiffodd y golau, neu hyd yn oed ar ôl i chi ei ddiffodd, efallai y byddech chi’n cofio’n dda eich bod ar ddyfais o ryw fath neu'i gilydd.

  5. Yn wir, yn ôl canlyniadau’r astudiaeth roedd merched, ar gyfartaledd, yn treulio 5½ awr o flaen sgriniau a bechgyn yn treulio ychydig dros 6 awr. Byddai’r merched yn fwy tebygol o dreulio eu hamser yn sgwrsio ar-lein, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, fel Snapchat, Messenger, Twitter ac ati, tra byddai bechgyn yn treulio mwy o amser yn chwarae gemau. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu 6 awr ar y tro, er ar gyfer y rhai yn eich plith sy’n hoffi chwarae gemau, rwy’n sicr ei bod yn fwy na phosibl eich bod wedi treulio awr neu ddwy ar y tro, ond wedi eu cyfrif gyda’i gilydd drwy gydol y dydd daw’r swm tebygol o oriau i swm tebyg o amser y byddwch yn ei dreulio yn yr ysgol.

  6. Felly, rhwng bod yn yr ysgol, bod ar eich teclynnau smart ac efallai gysgu rhywfaint, ydych chi erioed wedi cael rhywfaint o amser lle rydych chi’n gwirioneddol 'ddiffodd', ac yn cael amser naill ai i ddarllen neu ddianc, neu, hyd yn oed wneud dim? Rwy'n mynd i weld a allwch chi i gyd wneud dim ond eistedd a gwneud dim byd o gwbl am funud.

Amser i feddwl

Treuliwch o leiaf funud mewn distawrwydd.

A oedd gwneud beth wnaethoch chi nawr yn teimlo'n rhyfedd neu'n beth od? Tybed a oedd yn deimlad eithaf braf cael eistedd heb i unrhyw un fod eisiau unrhyw beth gennych chi, heb i’ch ffôn ganu, neu heb fod neges neu raglen ymlaen yn y cefndir? Mae llawer o bobl yn gweld bod cymryd peth amser i ‘ddiffodd’ yn fuddiol iddyn nhw. Efallai y dylech chi, cyn i chi fynd i'r gwely yn y nos, gymryd peth amser i fod yn y dawel heb lacharedd sgrin. Gallai olygu eich bod chi’n cysgu'n well, a hefyd fe allai olygu eich bod yn cael rhywfaint o amser yn ôl i chi eich hun. Efallai y byddwch hefyd yn sylweddoli, er eich bod wedi ‘diffodd’ nad ydych chi mewn gwirionedd yn colli unrhyw beth.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon