Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymodi

Pan fydd yr esgid am y droed arall

gan Helen Gwynne-Kinsey

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar achosion o gael ein trin yn annheg, ac ystyried ffyrdd o chwilio am gymod pan fydd yr esgid am y droed arall. Cymhwyso dysgeidiaeth Iesu i’r sefyllfa hon.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch sleid 1 y cyflwyniad PowerPoint i’r myfyrwyr fel y gallan nhw ei ystyried wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r gwasanaeth.

  2. Pan fyddwch yn dweud fod yr esgid ar y droed arall, mae'n golygu bod y sefyllfa wedi troi i fod yn groes i'r hyn oedd o'r blaen.  Mae hyn, fel arfer, oherwydd bod unigolyn a oedd mewn sefyllfa wan yn awr mewn sefyllfa gryfach. Rwyf am ddangos ffilm fer i chi fydd yn dangos y sefyllfa'n eglur iawn.

  3. Dangoswch y ffilm: www.youtube.com/watch?v=VK5h2d-EMWw.

  4. Yn anffodus, gall bwlio fod yn rhan o fywyd i ormod o lawer o bobl. Mae'r ffilm hon yn dangos, yn eithaf eglur, yr effaith y mae'r fath driniaeth yn gallu ei gael ar unigolyn sy'n cael ei fwlio. Fe hoffwn i bob un ohonoch fyfyrio ar yr hyn a welsoch chi, a meddwl am y modd y buasech chi wedi ymateb mewn sefyllfa debyg. A yw'r ffilm yn adlewyrchu bywyd yn gywir?

  5. Yr hyn rwy'n gobeithio eich bod wedi ei weld yn ddiddorol ynglyn â’r ffilm hon yw'r ffordd y mae'n gorffen, gyda'r esgid ar y droed arall, yn achos y bwli. Os gwnaethoch chi'n sydyn gael eich hun mewn sefyllfa rymus, ac yn gallu gweithredu yn erbyn rhywun oedd wedi gwneud drwg i chi, sut y byddech chi'n ymateb? A fyddech chi'n mwynhau'r grym y byddech newydd ei gael ac yn ei ddefnyddio i weithredu dial? Neu a fyddech chi'n gweithredu mewn ysbryd o gymod fel a ddangoswyd yn y ffilm?

  6. Byddai'r natur ddynol yn debyg o olygu y byddai llawer ohonom yn defnyddio ein safle newydd o ragoriaeth a phwer er mwyn gwneud bywyd y bwli'n un diflas, yn union fel y mae ef neu hi wedi ei wneud i ni. Fodd bynnag, nid dyma'r ffordd y byddai Iesu am i ni weithredu.

  7. Dangoswch athrawiaethau Iesu o’r cyflwyniad PowerPoint wrth i chi egluro pob un. Roedd Iesu'n athro eithaf radical, am ei fod yn aml yn dweud ac yn gwneud pethau annisgwyl. Er enghraifft, fe ddywedodd, ‘Os yw rhywun yn eich taro ar eich boch dde, trowch a chynhigiwch yr un chwith iddo.’ Yr hyn yr oedd yn ei feddwl wrth ddweud hyn oedd: peidiwch â dial. Os ydych yn gwrthod ymladd yn ôl yna rydych chi’n torri’r cylch trais, ac fe ddylai stopio.

  8. Fe ddywedodd Iesu hefyd, ‘Gwnewch i eraill fel y byddech am iddyn nhw ei wneud i chi.’ Mae hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â thrin pobl eraill â pharch. Mae'n ymwneud â meddwl cyn gweithredu, a gofyn i chi eich hun a fyddech chi’n hapus ai peidio pe byddai rhywun yn gwneud yr un peth i chi.

Amser i feddwl

Annwyl Arglwydd Dduw,
helpa ni i gefnogi ein gilydd yng nghymuned ein hysgol fel y gallwn ni feithrin perthnasoedd a fydd yn gwneud i ni ddangos parch tuag at ein gilydd.Helpa ni i fod yn gryf fel y gallwn ni fynegi ein barn pan fyddwn ni’n gweld rhywun yn dioddef, ac yn ddigon dewr i allu gweithredu i helpu’r rhywun hwnnw. Gad i ni symud ymlaen gyda’r pwyslais ar gymodi yn hytrach nag ar ddial.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon