Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn ddewr

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn ddewr.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn ddewr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelwedd o Persi yr injan fach o’r gyfres Tomos a’i Ffrindiau, a threfnwch fodd o ddangos y ddelwedd – os byddwch chi’n meddwl y byddai eich cynulleidfa’n gwerthfawrogi hynny (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o gerddoriaeth thema’r gyfres Tomos a’i Ffrindiau, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Nid yw bod yn ddewr yr un fath â pheidio teimlo'n ofnus. Mae bod yn ddewr yn ymwneud â'r hyn rydych chi’n ei wneud hyd yn oed, pan fyddwch chi yn teimlo'n ofnus.

Dyna beth ddywedodd Gator wrth injan fach werdd o’r enw Persi. Enw prif ffilm y gyfres Thomas the Tank Engine ywTale of the Braveac, er fy mod i’n siwr eich bod chi i gyd yn rhy hen i fod yn ymddiddori yn hanes Tomos a’i ffrindiau, rwy’n meddwl bod llawer o wirionedd yn yr hyn ddywedodd Gator yn y ffilm honno.

2. Nid yw bod yn ddewr yr un fath â pheidio teimlo'n ofnus - (Being brave is not the same as not feeling scared).

Rydyn ni i gyd yn gwybod sut beth yw bod ofn rhywbeth - y tywyllwch, nadroedd, unrhyw beth, beth bynnag sy’n eich dychryn chi. Gall pobl fod yn ofnus o bob math o bethau.

Meddyliwch nawr am rywbeth yr ydych chi’n ofnus ohono. Gallai fod yr arholiadau sydd o’ch blaen, efallai y gallech chi fod yn ofni beth allai ddigwydd os bydd rhywun agos atoch chi yn yr ysbyty, neu eich bod yn ofni niweidio eich hun wrth wneud triciau ar eich beic neu wrth sgrialu. Neu, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ofni eich rhieni ar adegau. Rwy'n siwr ein bod i gyd, ar ryw adeg, wedi dweud rhywbeth fel, ‘Fe fyddai mam/ dad yn fy lladd i pe bai’n gwybod!' Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddai eich rhiant yn eich niweidio mewn unrhyw ffordd, ond mae'r ofn yno oherwydd eich bod yn gwybod eich bod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Mae'n debyg eich bod wedi gwneud rhywbeth yr ydych yn gwybod na fydden nhw’n ei hoffi, ac rydych yn mynd i fod mewn trwbl os byddan nhw’n dod i wybod.

3. Caiff Persi ei bryfocio yn y storïau oherwydd ei fod yn injan fach ofnus. Mae’n gweld angenfilod mewn teisi gwair a drysau, mae hyd yn oed yn gweld anghenfil ar ffurf injan arall, mae bob amser yn nerfus ac yn ofnus. Ond, pan mae’r gwaethaf yn digwydd, er ei fod yn teimlo’n ofnus, mae’n sylweddoli fod yn rhaid iddo fod yn ddewr er mwyn gallu achub un o’i ffrindiau sydd wedi mynd i drafferthion oherwydd tirlithriad. Mae Persi’n ofnus, mae’n pryderu am angenfilod, ond pan fydd rhaid iddo fod o ddifrif, mae ei ddewrder yn trechu ei ofn.

4. Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un o'r bobl sydd wedi derbyn Croes Victoria – y Victoria Cross - am ddewrder, sef dewrder a ddangosir gan filwyr mewn brwydr, yn gwadu eu bod wedi dychryn neu’n teimlo’n ddigon ofnus ar yr adeg y gwnaethon nhw ymgymryd â'u gweithredoedd o ddewrder aruthrol. Yn yr un modd, fe allwch chi ofni rhywbeth, ond yn mynd ati i wneud rhywbeth, beth bynnag. Os oes gennych chi atal dweud, neu os ydych chi’n nerfus iawn wrth siarad yn gyhoeddus, efallai y byddwch yn ofni gwneud hynny, ac eto, mewn bywyd, efallai y bydd gofyn i chi wneud hynny ar nifer o achlysuron neu oherwydd sawl rheswm.

5. Fe ddywedodd Nelson Mandela:

I learned that courage was not the absence of fear, but the triumph over it. The brave man is not he who does not feel afraid, but he who conquers that fear.

Felly, gadewch i ni ystyried yr hyn ddywedodd Nelson Mandela a’r hyn ddywedodd Gator, sef – ‘Being brave is about what you do even when you do feel scared. Nid rhywun sydd ddim yn teimlo’n ofnus yw rhywun dewr, ond rhywun sy’n gallu concro’r ofn hwnnw. Er gwaethaf y posibilrwydd o ofn neu bryder enbyd am sefyllfa, neu ofn methu mewn clyweliad, er enghraifft, y ffordd rydych chi’n gwthio ymlaen ac yn delio â’r sefyllfa honno er gwaethaf hyn sy'n eich gwneud chi’n ddewr. Os yw person gydag atal dweud ac ofn siarad yn gyhoeddus yn sefyll i fyny ac yn rhoi araith, hyd yn oed os yw ef neu hi yn mynd yn methu mynd yn ei flaen mor rhwydd ag y dymunai unwaith neu ddwy, ond er hynny mae’n gwthio ymlaen drwy'r anhawster hwnnw ac yn ymroi ati, dyna beth yw bod yn ddewr.

Amser i feddwl

Tybed beth allech chi ei wneud heddiw fyddai’n eich gwneud chi’n ddewr.

Dydw i ddim yn awgrymu eich bod chi, os ydych ofn pryfaid cop, o reidrwydd yn mynd i chwilio am tarantula mawr blewog er mwyn i chi allu ei ddal, ond efallai y gallech chi gael y pry copyn bach arall hwnnw allan o'r bath eich hun yn hytrach na rhedeg i ofyn i rywun arall am help.

Mae llawer o bobl ofn siarad â rhywun diarth. Efallai y gallech chi siarad â rhywun sy’n newydd i chi? Ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud hynny?

Allech chi berfformio ar ben eich hun mewn clyweliad ar gyfer rhan mewn sioe gerdd neu ddrama yn yr ysgol?

Gan feddwl am weithredoedd llai o ddewrder, allech chi roi eich llaw i fyny i ateb cwestiwn am bwnc rydych ei gael yn anodd? Does dim rhaid i chi gael yr ateb yn gywir, dim ond bod yn ddewr a rhoi eich llaw i fyny er gwaethaf yr ofn y gallai’r ateb sydd gennych fod yn anghywir. Efallai y bydd yr ateb, mewn gwirionedd, yn iawn!

Efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd gofyn am help. Efallai mai heddiw fydd y diwrnod pan fyddwch chi’n ddigon dewr i gyfaddef yn onest i’ch athro neu athrawes, a gofyn am help. Rwy’n gwybod y byddai athro neu athrawes bob amser yn debyg o fod yn fodlon rhoi amser i’ch helpu.

Os ydych chi’n cael anhawster gyda rhywbeth sydd braidd yn bersonol, a chithau ofn dweud wrth unrhyw un, efallai y gallech chi fod yn ddewr a dod o hyd i rywun y gallech chi ymddiried ynddo.

Mae byw mewn ofn yn aml yn waeth na bod yn ddewr a mentro. Ni allai Persi yr injan fach wneud ei waith, sef tynnu'r trên post neu’r tryciau o'r dociau, gan ei fod mor ofnus o'r hyn a allai ddigwydd. Sylweddolodd fod Gator yn iawn, ac er mwyn bod yn ddewr fe fyddai'n rhaid iddo wynebu ei ofnau. Mae'n iawn i fod yn ofnus, ond, trwy fod yn ddewr, fe fyddwch yn sylweddoli y gallwch chi wneud mwy o bethau nag rydych chi erioed meddwl a fyddai’n bosib.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth thema’r gyfres deledu Tomos â’i ffrindiau neu Thomas the Tank Engine & Friends

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon