Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fy ymennydd rhyfeddol

Ystyried sut mae’r ymennydd yn gweithio heb i ni orfod hyd yn oed meddwl am hynny.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae’r ymennydd yn gweithio heb i ni orfod hyd yn oed meddwl am hynny.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

1. Fe hoffwn i chi feddwl am yr holl bethau rydych chi eisoes wedi eu gwneud heddiw cyn dod i’r ysgol y bore ‘ma. Fe wnaethoch chi godi, gwisgo amdanoch, bwyta eich brecwast, teithio i’r ysgol, ac mae’n debyg eich bod wedi cael sawl sgwrs, trafodaethau byr, ac wedi meddwl am sawl peth drwy gydol yr holl broses.

Tybed wnaethoch chi ystyried y ffaith bod eich ymennydd, trwy hyn i gyd, yn gwneud miloedd o bethau gwahanol heb i chi fod yn ymwybodol o hynny – nid yw’n anghofio eich helpu i anadlu, mae’n gofalu bod eich calon yn curo, ac yn anfon gwaed o gwmpas eich corff yn barhaus. Hefyd, hyd yn oed os ydych chi ddim wedi reidio beic ers tro, pan fyddwch chi angen gwneud hynny fe fyddwch chi’n dal i gofio beth mae’n rhaid i chi ei wneud. Ac, ar fyr rybudd (weithiau ychydig mwy!) mae eich ymennydd yn gallu cofio swm enfawr o wybodaeth pan fydd efallai dim ond llygedyn bach o syniad yn dod i’ch meddwl.

2. Pan ddaw neges i’r ymennydd o unrhyw ran o’r corff, mae’r ymennydd yn dweud wrth y corff sut i ymateb. Er enghraifft, os byddwch chi’n cyffwrdd yn ddamweiniol mewn popty poeth, mae nerfau’r croen yn saethu neges o boen i’r ymennydd. Mae’r ymennydd wedyn yn anfon neges yn ôl gan gyfarwyddo cyhyrau’r llaw i symud oddi wrth y gwres yn sydyn. Wrth lwc, mae’r ras gyfnewid niwrolegol honno’n cymryd llawer llai o amser i ddigwydd nag a gymerodd hi i mi egluro’r broses, diolch am hynny.

3. Gan ystyried popeth mae’n ei wneud, mae’r ymennydd dynol yn gywasgedig iawn, yn pwyso dim ond 1.3 kilogram (3 pwys) ac yn ffitio’n daclus y tu mewn i’r benglog. Mae’r holl blygiadau a rhigolau sydd ynddo’n rhoi arwynebedd ychwanegol, sy’n angenrheidiol er mwyn storio holl wybodaeth bwysig y corff.

4. Nid yw’r ymennydd dynol wedi bod fel hyn o’r dechrau. Trwy broses o esblygiad a datblygiad, mae ein hymennydd wedi tyfu i fod yn fwy o ran maint nag ymennydd unrhyw rywogaeth arall ar y blaned. Yn wir, fe ysgrifennodd Aristotlys yn 335 CC, ‘O’r holl greaduriaid, dyn sydd â’r ymennydd mwyaf o’i gymharu â maint ei gorff.’ Yn ddiddorol, yr anifail nesaf i fod â’r ymennydd mwyaf o’i gymharu â’i faint yw’r dolffin, ac rydym yn ymwybodol iawn o ba mor ddeallus yw’r dolffin. Ond nid dyna’r stori gyfan, fodd bynnag.

5 Yr hyn sydd wedi digwydd yw ein bod wedi esblygu, trwy wahanol ffyrdd a thros filiynau o flynyddoedd o ddatblygiad, i fod yn berchen ar yr ymennydd datblygedig iawn hwn sydd gennym. Yr enw ar hyn yw ‘cynnydd ymenyddol’ (‘encephalization’). Dyna i chi air mawr!

6. Mae’n debyg hefyd ei bod yn bosib fod bodau dynol wedi dysgu siarad oherwydd ein bod wedi gallu dyfeisio offer. Fe ganfyddwyd fod yr un rhan o’r ymennydd yn goleuo wrth i ni wneud offer ag sy’n goleuo wrth i ni siarad. A yw’n bosib ein bod, wrth greu offer, wedi gallu dysgu sut i siarad hefyd?

7. Yn ddiddorol, mae ymennydd tsimpansî yn cael ei ffurfio tra mae yn y groth, cyn iddo gael ei eni. Ond mae ein hymennydd dynol ni’n datblygu mwy ar ôl i ni gael ein geni. Dyna mae’n debyg sy’n cyfrif pam ein bod mor anghenus ac mor ddibynnol yn newydd-anedig. Pe bydden ni ddim yn cael ein geni nes bydden ni’n abl i sefyll neu gerdded, er enghraifft, fydden ni’n syml yn rhy fawr i gael ein geni, ac fe fyddai’r rhywogaeth wedi darfod â bod ers talwm.

8. Gyda’r holl wybodaeth anhygoel hon yn troelli yn ein meddwl, does dim rhyfedd ein bod angen penglog i amddiffyn ein hymennydd. Fel gydag unrhyw beth cymhleth, mae risg llawer mwy o broblemau difrifol os oes rhywbeth yn mynd o’i le nag sydd gyda rhywbeth mwy syml. Gall anafiadau i’r pen, tiwmor ar yr ymennydd, strôc a chamddefnyddio sylweddau, niweidio meinwe bregus yr ymennydd, ac mae hefyd yn dueddol o ddioddef clefydau dirywiol hirdymor fel Clefyd Parkinson's neu Alzheimer's. Er gwaethaf yr holl anawsterau posib hyn, fodd bynnag, mae ein hymennydd yn dal i allu cyflawni gwaith rhyfeddol ac yn gallu parhau i weithio hyd yn oed dan yr amgylchiadau mwyaf anodd.

Amser i feddwl

Y tro nesaf y byddwch yn teimlo ychydig yn isel ynglyn â’ch galluoedd, neu os na allwch chi reoli rhywbeth fel byddech chi’n dymuno, gwnewch yn siwr eich bod yn atgoffa eich hun bod gennych chi, mewn gwirionedd, ymennydd hollol anhygoel. Mae'n eich cadw chi’n fyw, yn eich atal rhag llosgi eich llaw, a dyna’r rheswm pam fod gennych chi sgiliau a’r gallu i gofio.

Daliwch ati i ychwanegu at stôr eich ymennydd o sgiliau ac atgofion, daliwch ati i’w wobrwyo ac fe ddylai, os bydd popeth yn iawn, yn eich cadw i fynd holl ddyddiau eich bywyd.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon