Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byw gyda ffydd

Bod â’r hyder i gyrraedd nodau personol

gan Helen Gwynne-Kinsey

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl am rym ffydd.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo YouTube Audio Adrenaline - Believer a’r modd o ddangos hwn yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.youtube.com/watch?v=lLDmrVPQd98). Mae’n para 4.09 munud. 

Gwasanaeth

1. Heddiw, rydw i am roi'r cyfle i chi fyfyrio ar y cysyniad o ‘ffydd’.

Rydw i am ddechrau trwy ofyn cwestiwn. Faint ohonoch all ddweud o ddifrif fod gennych chi ffydd ynoch chi eich hun? Gyda hyn, rwy'n golygu pan fyddwch yn dod wyneb yn wyneb â her, bod gennych chi yr hyder i wybod y byddwch chi’n cyflawni’r sialens yn llwyddiannus.

2. Yn drist, fe fyddwn ni ambell dro yn methu cyfleoedd euraid oherwydd diffyg hyder. Gallwn efallai deimlo ychydig yn ofnus o'r hyn y byddwn yn ei wynebu, ac yn hytrach fe fyddai'n well gennym beidio ag ymgeisio o gwbl na diweddu'n fethiant, ond nid dyna'r ffordd i fyw.

3. Mae'r Beibl yn crynhoi'r hyn yw ffydd yn y ffordd hon yn y Llythyr at yr Hebreaid 11.1:

Yn awr, y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt, ac yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld.

4. Fe hoffwn yn awr ddangos i chi enghraifft o'r math hwn o ffydd yn cael ei weithredu. Syrffiwr o Frasil yw Derek Rabelo. Y ffaith anghredadwy am Derek yw ei fod wedi ei eni'n hollol ddall. Er hynny roedd ei deulu'n credu bob amser y gallai gyflawni unrhyw beth y byddai'n ei ddymuno er gwaethaf y diffyg gyda'i olwg.

Roedd tad Derek yn syrffiwr brwdfrydig a da iawn, ac roedd aelodau eraill o'r teulu yn hoffi syrffio, fel pan ddywedodd Derek ei fod yntau eisiau syrffio hefyd, rhoddwyd astell-fwrdd iddo ac aeth am y dwr!  Mae Derek yn awr yn treulio ei ddyddiau yn syrffio o gwmpas y byd ac yn rhannu ei stori ryfeddol ag eraill. Mae'n dweud, 'Fe ddylai bob un ohonom gredu ynom ni ein hunain a dilyn ein breuddwydion.' (‘We should all believe in ourselves and chase our dreams.’)

Dangoswch y fideo YouTube: Audio Adrenaline – Believer (ar:www.youtube.com/watch?v=lLDmrVPQd98).

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni newydd ei weld.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon