Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pam dylai’r Diafol gael yr holl alawon da?

Dechreuad Byddin yr Iachawdwriaeth

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ymdeimlad y myfyrwyr o berthnasedd eu credoau eu hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un arweinydd ac un darllenydd. Nodwch fod y sgript sydd wedi ei rhoi yma ar gyfer darllenydd gwryw, ond mae’n hawdd ei haddasu ar gyfer merch.
  • Os hoffech chi, fe allech chi drefnu bod gennych chi recordiad o’r gân ‘Why should the devil have all the good music’ gan Larry Norman, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Dychmygwch am funud eich bod eisiau darganfod sut beth ydyw i gredu yn y ffydd Gristnogol. Sut fyddech chi'n mynd o'i chwmpas hi?

Yr ateb amlwg fyddai ymweld ag eglwys.

Darllenydd: Daliwch arni am funud! Rydw i wedi ymweld ag eglwys ac nid oedd y profiad yn un defnyddiol o gwbl. Roedd yn dawel iawn, fel mynd i mewn i amgueddfa. Roedd pawb arall yn ymddangos eu bod yn gwybod beth i’w wneud - ymhle i eistedd, pa bryd i sefyll i fyny, pa eiriau i'w llefaru'n uchel. Roeddwn yn teimlo'n lletchwith ac roeddwn wedi treulio cryn amser cyn cychwyn allan o’r ty, yn ceisio penderfynu beth fyddai'n fwyaf priodol i’w wisgo, p'run ai a ddylwn i wisgo tei a throwsus trwsiadus ai peidio. Dyna fu’n rhaid i mi ei wneud ar gyfer priodas neu fedydd. Yn y diwedd roeddwn i mor hunanymwybodol fel na wnes i brin wrando ar yr hyn oedd yn cael ei ddweud.

Arweinydd: O bosib, fe fydd llawer ohonoch wedi profi’r un teimlad o fod yn lletchwith. Dydy hynny ddim yn fai ar yr eglwys y gwnaethoch chi ymweld â hi. Mae'r rhai sy'n mynychu'n aml wedi creu cymuned sy'n teimlo'n gymwys iddyn nhw. Y broblem yw nad yw'n teimlo'n gartrefol i chi.

Darllenydd: Y broblem fwyaf oedd y gerddoriaeth. Ar ei waethaf roedd yn swnio fel cyngerdd clasurol gydag organ yn taranu'n uchel. Fe wnaethon nhw geisio canu rhai caneuon, ond roedd y rheini hyd yn oed yn swnio fel cerddoriaeth gyffredin sy'n cael ei chwarae ar Radio 2. Roedd fel pe byddai'r hyn rydw i’n gwrando arno ddim yn bodoli.

Arweinydd: Yr hyn sy'n ddiddorol yw nad rhywbeth newydd yw eich profiad. Tua 150 o flynyddoedd yn ôl, roedd yna bobl a oedd yn dymuno clywed y neges Gristnogol, ond a oedd yn teimlo'n ddigroeso mewn sawl un o'r eglwysi a oedd yn bodoli bryd hynny. Treuliodd Iesu lawer o'i amser yn siarad gyda'r tlodion, y newynog, yr unig, y rhai oedd yn cael eu disgrifio ganddo fel y 'defaid colledig'. Ond, yn y cyfnod Fictoraidd ym Mhrydain, doedd y bobl hyn ddim yn cael eu derbyn â breichiau agored mewn eglwysi oherwydd eu bod yn flêr, yn fudr ac yn gymdeithasol-annerbyniol. Doedden nhw ddim yn gallu teimlo'n gartrefol yno.

Gweinidog eglwysig oedd William Booth ar y pryd. Roedd o'n credu fod neges Iesu ar gyfer pawb, yn arbennig y rhai hynny oedd ag anghenion emosiynol, corfforol ac ariannol. Roedd yn teimlo'n rhwystredig wrth weld sut roedd drws yr eglwys yn dod yn gymaint o rwystr i'r rhai hynny yr oedd y neges yn fwyaf perthnasol iddyn nhw.

Felly, fe benderfynodd fynd â'r neges gydag ef allan trwy ddrws yr eglwys at y bobl ac i'r lleoedd hynny yr oedden nhw’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw. Yn ystod yr haf yn y flwyddyn 1865, fe sefydlodd, mewn pabell yn Nwyrain Llundain, yr hyn sy'n adnabyddus i ni heddiw fel Byddin yr Iachawdwriaeth (Salvation Army). Roedd y babell yn fan cyfarfod niwtral, heb yr addurniadau a dodrefn traddodiadol a geid mewn eglwys. Croesawyd pawb. Teimlai pawb yn gyfforddus.

Yn fwyaf trawiadol, creodd Booth fath newydd o gerddoriaeth eglwysig. Fe ddefnyddiodd y tonau oedd yn perthyn i ganeuon poblogaidd ar y pryd, ac fe ysgrifennodd eiriau Cristnogol ar eu cyfer.  Ei arwyddair oedd, ‘Why should the devil have all the good tunes?’ Fe ddefnyddiodd offerynnau bandiau pres gan greu swn eglwysig newydd a oedd yn eofn ac yn ddyrchafedig. Fe wnaeth i neges Iesu fod yn berthnasol ac yn hawdd cyrraedd ati.

Amser i feddwl

Beth ydych chi’n ei gredu?

Saib.

Rwyf bron yn sicr y bydd y mwyafrif ohonoch wedi ymateb i'm cwestiwn trwy feddwl nad ydych yn credu mewn unrhyw beth. Dydw i ddim yn siwr a yw hynny'n wir.

Bydd rhai ohonoch yn credu mewn ffydd grefyddol uniongred, naill ai oherwydd eich bod wedi eich magu yn y ffydd honno, neu wedi gwneud penderfyniad personol i'w dilyn. Bydd eraill yn eich plith wedi gwrthod rhannau o'r ffydd honno, ond yn parhau i ddal eich gafael mewn rhai elfennau ohoni. Mae hynny'n parhau i fod yn gred. Mae'n gymorth i chi drefnu eich bywyd a gwneud penderfyniadau.

Bydd eraill ohonoch yn datgan nad ydych yn credu mewn unrhyw ffydd grefyddol, a'ch bod yn anffyddwyr. Mae hynny hefyd yn system o gred.

Yn olaf, fe fydd rhai ohonoch chi sydd yn ansicr, efallai mewn penbleth am y cyfan o'r opsiynau sy'n bosib.

Mewn un ffordd neu'r llall, felly, mae pawb ohonom yn credu neu’n teimlo ein bod eisiau credu.

Fe hoffwn awgrymu ei bod hi'n bwysig amlygu'n agored yr hyn a gredwn yn hytrach na chadw'r cyfan i ni ein hunain a pheidio â'i rannu. Mae hynny'n bwysig oherwydd gall fod o gymorth i eraill ddeall yn gliriach yr hyn y maen nhw'n credu ynddo, ac ystyried yr hyn y maen nhw'n ei gredu sydd yn berthnasol ac yn gadarnhaol i'w bywyd. Mae'n bwysig hefyd oherwydd ei fod o gymorth i ni fod yn glir yn ein meddwl am yr hyn a gredwn ni a phaham yr ydym yn credu felly. Dydyn ni ddim yn ceisio newid cred y naill a'r llall, yn hytrach rydyn ni’n helpu ein gilydd i gadarnhau'r hyn sydd yn bwysig i ni.

Roedd William Booth yn teimlo'r angen i fynd â neges Iesu allan o'r eglwysi ac at y bobl yn gyffredinol. Roedd yn teimlo'r angen i roi'r neges honno mewn geiriau, ar gerddoriaeth, a’i gwneud yn rhan o ddiwylliant y rhai hynny oedd yn teimlo'n anghyfforddus mewn eglwysi traddodiadol. Mewn ffordd gyffelyb, yr ydych yn gwybod beth yw eich geiriau, eich cerddoriaeth a'ch diwylliant, felly chi yw'r bobl orau i gymryd at yr hyn a gredwch a'i wneud yn berthnasol yn eich byd chi.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y posibilrwydd o allu credu, ac am sylfaen y gallwn ni adeiladu ein bywyd arni.
Boed i ni fod yn barod i rannu’r hyn rydyn ni’n ei gredu, rhag ofn y bydd yn gallu helpu rhywun arall.
Boed i ni fod yn barod i brofi’r hyn rydyn ni’n ei gredu, fel y bydd ein ffydd yn tyfu’n gryfach.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Why should the devil have all the good music’ gan Larry Norman

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon