Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heliwr y Natsïaid

Simon Wiesenthal, y dyn oedd ddim yn fodlon gadael i’r Natsïaid ddianc yn ddi-gosb

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried eu rôl mewn creu cymdeithas gyfiawn, yn seiliedig ar hanes bywyd Simon Wiesenthal, a fu far ar 20 Medi 2005.

Paratoad a Deunyddiau

Dewiswch ddarllenwyr.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd: Sut fyddwch chi'n teimlo pan fydd rhywun yn cael osgoi cosb?

    Darllenydd 1: Fe wnes i ysgrifennu atebion y prawf ar gledr fy llaw. Fe gefais i 95 y cant yn gywir.  Roeddwn i'n meddwl mai peth ffôl fyddai cael 100 y cant yn gywir. Byddai hynny'n yn sicr o godi amheuon.

    Darllenydd 2: Ydych chi'n hoffi'r Crys-T yma? Fe wnes i ei smyglo fo allan o'r siop ym mhoced fy nghot.

    Darllenydd 3: Does neb yn gwybod mai fi anfonodd y neges testun honno. Roedd y ffôn yn gorwedd yno a'r cyfan wnes i oedd ei hanfon hi'n sydyn. Yn sicr, fe ddifethodd ei berthynas â'i gariad.

    Arweinydd: Mae rhan ohonof yn mynd yn hynod o flin pan mae'n ymddangos fod rhywun yn gallu hepgor cosb am ddrwgweithredu, hyd yn oed pan nad oes gan y sefyllfa ddim o gwbl i'w wneud â mi. Yn syml, dwi ddim yn hoffi pobl sy’n gwneud drwg ac yn osgoi cosb. Mae'r gwasanaeth heddiw yn ymwneud â dyn oedd yn teimlo'n union yr un fath, ond ei ymateb ef oedd gwneud rhywbeth am y peth.

  2. Darllenydd 1: Cafodd Simon Wiesenthal ei fagu yn Awstria a Gwlad Pwyl yn y cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Oherwydd ei fod ef a'i wraig ill dau yn perthyn i’r genedl Iddewig, fe wnaethon nhw ddioddef canlyniadau'r Holocaust, cynllun y Natsïaid i ddifodi'r Iddewon. Llwyddodd ei wraig i osgoi cael ei hanfon i'r gwersylloedd crynhoi oherwydd bod ganddi wallt golau, gan honni ei bod yn Bwyles, ond treuliodd Simon nifer o flynyddoedd yn slafio fel caethwas. Fe oroesodd, er nad oedd ond prin yn fyw, ac yn y diwedd cafodd ddod yn ôl at ei wraig. Fodd bynnag, bu farw 89 aelod o'u teuluoedd.

    Darllenydd 2: Ar ôl y rhyfel cyflogwyd Simon gan Adran Droseddau Rhyfel Byddin yr Unol Daleithiau, a threuliodd nifer o flynyddoedd yn helpu i ddwyn llawer o'r rhain fu'n gyfrifol am yr Holocaust o flaen eu gwell i’r llysoedd. Ond, erbyn y flwyddyn 1954, roedd Rwsia a'r Unol Daleithiau fel ei gilydd wedi colli diddordeb yn y gwaith hwn ac roedd ganddyn nhw fwy o gonsyrn am yr amheuaeth a’r ofn oedd gan y naill a'r llall ynghylch ei gilydd. Roedd y Rhyfel Oer wedi cychwyn.

  3. Darllenydd 3: Nid hawdd oedd tynnu sylw Simon oddi wrth yr achos. Gwyddai bod sawl mil o ddynion a merched ar hyd ac ar led, oedd wedi cymryd rhan ymarferol i achosi dioddefaint nid yn unig i Iddewon ond hefyd i sipsiwn ac alltudion cymdeithasol eraill. Ffurfiodd y Ganolfan Ddogfennaeth Iddewig ac, yn ei amser hamdden, parhaodd â'r gwaith ymchwil a dadansoddol, gan ddilyn trywydd y rhai euog/yr euog rai ym mhob cwr o'r byd. Byddai'n trosglwyddo'r dystiolaeth yr oedd wedi ei ddarganfod i'r awdurdodau. Pan oedden nhw'n methu â gweithredu ar ei dystiolaeth, byddai'n mynd at y Wasg ac adrodd y storïau. Yn aml, byddai barn ddig y cyhoedd yn peri i'r awdurdodau newid eu meddwl.

  4. Arweinydd: Pan ofynnwyd iddo beth oedd yn ei gymell i barhau â’i grwsâd i ddwyn y bobl hyn o flaen eu gwell, atebodd Simon Wiesenthal, 'Pan fydd hanes yn edrych yn ôl rwyf am i bobl wybod nad oedd y Natsïaid yn gallu lladd miliynau o bobl heb gael eu dwyn i gyfrif.'

  5. Os yw pobl yn cael rhyddid i osgoi derbyn cosb am wneud drwgweithredoedd, mae'n cael effaith ar y gymuned y maen nhw'n byw ynddi. Yn gyntaf, mae'n achosi dicter ymhlith y rhai hynny sydd wedi cael eu twyllo o'r hyn y maen nhw'n ei haeddu. Er enghraifft, mae llawer o chwaraewyr yn ddig wrth y twyllwyr sy'n cymryd cyffuriau am eu llwyddiannau yn y gemau y maen nhw'n rhan ohonyn nhw, yn aml yn eu hatal rhag ennill y medalau a'r recordiau sy'n ddyledus iddyn nhw. Yn ail, mae'n annog eraill i wneud drygioni, yn rhannol oherwydd mae'n ymddangos yn hawdd ac yn rhannol mae'n ymddangos mai dyma'r unig ffordd i gael llwyddiant a chael gafael ar eiddo. Felly, os yw un person yn lladrata o siop, bydd eraill yn debygol o ddilyn. Yn olaf, mae'n cymylu'r ffiniau am yr hyn sy'n dderbyniol ac sy'n gallu arwain at awyrgylch o amheuaeth, hyd yn oed rhwng ffrindiau. Does neb yn sicr iawn pwy i ymddiried ynddo.

  6. Felly, beth allwn ni ei wneud ynghylch am hyn? Byddai'n anodd iawn i wneud yr hyn a wnaeth Simon Wiesenthal, trwy enwi a chodi cywilydd ar y rhai hynny y credai ef eu bod yn euog. Fe ddioddefodd fygythiadau a sarhad. Unwaith cafodd ei dy ei fomio. Fe fyddem ni ein hunain yn darged i fwlio a dial pe byddem yn gwneud cyhuddiadau ar goedd.  Byddem hefyd yn mentro cyhuddo rhai pobl sy’n hollol ddiniwed yn union oherwydd ein bod wedi cam-ddehongli achlust a glywsom.  Nid yw'n beth da ennill enw drwg o fod yn glepgi.      

Amser i feddwl

Mae yna, fodd bynnag, ffyrdd eraill o hybu gwirionedd a chyfiawnder. Yn gyntaf, gallwn fodelu ymddygiad da trwy wrthod gwahoddiadau a chyfleoedd i dwyllo. Gall hyn achosi i eraill feddwl eilwaith am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Yn ail, gallwn fynd wyneb yn wyneb â'r rhai sy'n gwneud y twyllo a'r lladrata, ac sy'n difetha perthynas.

Gallwn gyfleu nad ydym o'r farn fod gwneud hyn yn rhywbeth mawreddog, nac ychwaith yn glyfar, nac yn rhywbeth sy'n helpu eraill. Byddai'n rhaid i ni fod yn ddewr a bod yn barod i dderbyn peth gwrthwynebiaeth, ond os na fyddem yn dweud neu’n gwneud rhywbeth yna byddai'r sefyllfa yn parhau.


Yn olaf, os yw'r mater yn ddifrifol iawn, yna mae'n bosib trosglwyddo'r wybodaeth yn anhysbys.

(Rhowch fanylion o'r cyfryw weithdrefnau sy'n weithredol yn eich ysgol chi.)

Doedd gan Simon Wiesenthal ddim diddordeb mewn clebran. Roedd ef angen tystiolaeth gadarn, prawf gwirioneddol. Rhaid i ni hefyd fod yn ofalus ynghylch cyhuddiadau, a bod yn siwr ein bod yn byw bywyd o wirionedd a chyfiawnder ein hunain.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y berthynas gref sydd gennym gyda’r rhai rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw.

Helpa ni i greu cymuned lle bydd yr ymddiriedaeth honno’n ymestyn at bawb.

Gad i ni fod y modelau gorau o bobl y mae’n bosib ymddiried ynddyn nhw.
Amen.

Cerddoriaeth

Arweinydd: Gadewch i ni orffen gyda chân ynghylch materion pwysig fel gwirionedd a chyfiawnder yn y byd.

‘Dear Mr President’ gan Pink

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon