Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cwpan Rygbi'r Byd 2015

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd sydd ar fin cael ei chynnal.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Codwch eich llaw os ydych chi'n gwybod pa ddigwyddiad chwaraeon mawr sy'n digwydd rhwng 18 Medi a 31 Hydref?

    Da iawn chi. Cystadleuaeth am Gwpan Rygbi'r Byd sy'n digwydd rhwng 18 Medi a 31 Hydref, sef un o’r cystadlaethau chwaraeon hynny y mae pobl yn edrych ymlaen atyn nhw fwyaf yn y byd, ar ôl Cwpan Pêl-droed FIFA'r Byd a'r Gemau Olympaidd.

    Pwy ohonoch chi all ddweud pwy enillodd Gwpan Rygbi'r Byd y tro diwethaf yn y flwyddyn 2011? (Seland Newydd)

    Pa wlad sy'n gwesteia Cwpan Rygbi'r Byd eleni? (Lloegr)

    Mae'r gystadleuaeth am Gwpan Rygbi'r Byd yn digwydd bob pedair blynedd ac yn cynnwys 20 o dimau o bob rhan o'r byd.

    Fe ddigwyddodd y gystadleuaeth am Gwpan y Byd gyntaf oll yn y flwyddyn 1987 ac 16 tîm yn unig oedd wedi eu cynnwys. Felly mae hi wedi cynyddu'n fawr iawn dros y blynyddoedd. 

    Bydd y sawl sy’n ennill Cwpan y Byd yn cael ei gyflwyno â Chwpan Webb Ellis, sydd wedi ei henwi ar ôl y sefydlwr chwaraeon, William Webb Ellis.

  2. Cafodd William Webb Ellis ei eni yn y flwyddyn 1806 yn Salford, Manceinion. Yn dilyn marwolaeth ei dad, symudodd William gyda'i deulu i dref Rugby yn Swydd Warwick a mynychodd Ysgol Rugby.

    Roedd William yn 'sgolor da, oedd â diddordeb mawr mewn pêl-droed; er ei fod yn aml yn torri rheolau'r gêm trwy godi'r bêl â'i ddwylo yn hytrach na defnyddio ei draed.

    Ymhellach ymlaen fe ddaeth yn glerigwr uchel ei barch a oedd â gofal plwyf yn Swydd Essex. Ar ôl i William farw yn y flwyddyn 1872, fe ysgrifennodd hen ffrind ysgol iddo, Matthew Bloxam, at gylchgrawn Ysgol Rugby a datgan bod y newid o gêm gicio i gêm lawio wedi dechrau gyda'i ffrind William, ac yn dilyn hynny, cyhoeddwyd mai William Ellis oedd sylfaenydd y gêm rygbi.

    Dyma ffotograff o'r plac efydd sy’n cael ei gyflwyno er cof am William Webb Ellis.

    (Dangoswch y ffotograff)

  3. Codwch eich llaw os fuoch chi erioed yn chwarae rygbi?

    Er mwyn y rhai sydd ddim yn gyfarwydd â'r rheolau, mae amcan y gêm yn syml.  Rhaid i chi ddefnyddio’r bêl er mwyn sgorio mwy o bwyntiau na'r tîm arall yn y gêm. Gallwch redeg gyda'r bêl, ei chicio a'i phasio ond nid oes hawl gennych i'w phasio ymlaen. Yn wahanol i bêl-droed, mae rygbi yn gêm gyffwrdd, felly gallwch daclo'r gwrthwynebydd er mwyn cael gafael ar y bêl. I gadw pethau mewn trefn, mae dyfarnwr a dau lumanwr yn bresennol yn ystod gêm er mwyn sicrhau bod y rheolau'n cael eu dilyn.                                                                                                                                                                                    

    Rydych yn sgorio pwyntiau fel a ganlyn:

    Cais - ceir pum pwynt am roi'r bêl i lawr â llaw yn ardal llinell gôl eich gwrthwynebydd.

    Trosiad - ychwanegir dau bwynt am gicio'r bêl yn llwyddiannus rhwng y pyst ar ôl sgorio cais.

    Cic at gôl - rhoddir tri phwynt am gic cosb neu gôl adlam rhwng y pyst.

    Os yw'r ddau dîm yn sgorio'r un nifer o bwyntiau, neu ddim pwyntiau o gwbl ar ddiwedd yr amser, yna bydd y gêm yn gyfartal. Mewn llawer achos, caiff amser ychwanegol ei chwarae er mwyn penderfynu pwy sy'n ennill.

  4. (Dangoswch y tablau sydd i’w gweld  ar  www.rugbyworldcup.com/pools)

    Caiff y gystadleuaeth am Gwpan y Byd ei rhannu'n bedwar grwp o bum tîm. Bydd 12 o dimau yn ennill eu lle yn awtomatig, yn seiliedig ar ganlyniadau’r ornest Cwpan y Byd flaenorol.

    Gosodir y pedwar tîm o'r brif reng mewn grwpiau ar wahân; eleni maen nhw'n cynnwys: Seland Newydd, Ffrainc, Awstralia a Chymru oherwydd mai dyna'r pedair gwlad oedd yn gyntaf, ail, trydydd a phedwerydd y tro diwethaf. Bydd yr wyth safle sy'n weddill yn cael ei benderfynu trwy gystadlaethau rhanbarthol amrywiol. Bydd dau dîm o'r America (Gogledd a De), dau o Ewrop, dau o Asia/Ynysoedd y Cefnfor Tawel ac un o Affrica.

    Bydd pob gwlad yn chwarae pedair gêm grwp, gan chwarae yn erbyn eu cyd-dimau yn y grwp un waith. Bydd yr enillydd a'r sawl sydd yn yr ail safle ym mhob grwp yn camu i'r rhan derfynol. Mae'r rhan derfynol yn cynnwys y gemau chwarteri a'r gemau cynderfynol, ac yna wrth gwrs y ffeinal - y gêm derfynol. Bydd enillydd pob grwp yn chwarae yn erbyn y sawl sydd yn yr ail safle o grwp gwahanol yn y chwarteri.

  5. Mae Cwpan Rygbi'r Byd nid yn unig yn adeg i fod yn wladgarol dros ein gwlad ond hefyd yn adeg i werthfawrogi pwysigrwydd gwaith tîm. Nid yw gêm yn llwyddiannus os nad yw pob aelod unigol yn cyfrannu mewn rhyw fodd neu'i gilydd, ac mae hynny'n fantra da i'w ddilyn pryd bynnag yr ydych yn rhan o dîm - byddwch yn chwaraewr tîm, nid yn unig yn ddilynwr tîm!

    (Dewisol:Chwaraewch y clip fideo o gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r 2011)

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn diolch am ein rhyddid, am ein haddysg a'r holl gyfleoedd sydd ar gael i ni. Meddyliwch am yr holl gyfleoedd rydych chi’n gwneud yn fawr ohonyn nhw ar hyn o bryd, meddwl i bwy y dylech chi ddiolch am y cyfleoedd hyn, a meddwl pa gyfleoedd gwaith tîm eraill y gallech chi gymryd rhan ynddyn nhw yn y dyfodol - boed hynny drwy wirfoddoli ar ran elusen neu drwy ymuno â chlwb chwaraeon.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

'Swing low, sweet chariot' (cerddoriaeth thema ar gyfer Cwpan y Byd, yn seiliedig ar gerddoriaeth Paul Simon, ‘Rhythm of the Saints’)

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon