Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Wedi eu huno ag angerdd cyffredin

gan Helen Gwynne-Kinsey

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dod i well dealltwriaeth o rai agweddau ar addoliad Cristnogol drwy eu cymharu â chamau gweithredu ac emosiynau a deimlir gan chwaraewyr Undeb Rygbi a chefnogwyr yn ystod gemau prawf rhyngwladol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch fod y gwasanaeth hwn wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, ond gellir ei addasu'n hawdd i weddu i unrhyw un o'r gwledydd cartref.
  • Cynlluniwch o flaen llaw i grwp o ddisgyblion ddod â sgarffiau rygbi i’r gwasanaeth, a byddwch yn gofyn i’r disgyblion ddal y sgarffiau i fyny a’u chwifio yn ôl ac ymlaen.

Gwasanaeth

  1. Fe ddylai'r disgyblion sydd â sgarffiau eu dal i fyny uwch eu pennau a'u chwifio'n ôl ac ymlaen wrth ganu geiriau gwladgarol. Dylai hyn fod yn anogaeth i ddisgyblion eraill ymuno yn y canu hefyd. Pan fydd y myfyrwyr wedi eistedd yn eu seddau, dechreuwch y gwasanaeth.

    Fe ddylai fod yn eithaf amlwg i lawer ohonoch fod un o'r digwyddiadau chwaraeon pwysicaf a gynhelir yn flynyddol yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon ar fin (neu wedi) dechrau.  Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gyfle i brif chwaraewyr Rygbi'r Undeb o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal i chwarae yn erbyn ei gilydd er mwyn dangos pwy yw'r tîm gorau.

    Pan fydd pobl yn dod ynghyd i gefnogi eu tîm cenedlaethol maen nhw ynghlwm wrtho ag angerdd cyffredinol, gan ddangos hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Byddwch wedi sylwi fod rhai o'ch ffrindiau wedi dod â'u sgarffiau heddiw, sydd yn cael eu chwifio â balchder fel arwydd o'u ffyddlondeb i dîm Cymru.

    Yn yr un modd, pan fydd y tîm cartref yn sgorio cais neu’n cael cic gosb bydd eu cefnogwyr yn codi ar eu traed, yn codi eu dwylo i fyny, ac yn dathlu. Dyna fendigedig yw'r teimlad y mae rhywun yn ei gael o fod yng nghwmni rhai sydd â'r un meddylfryd â chi, ac sy'n gallu synhwyro llawenydd yr achlysur, a theimlo angerdd dros yr achos.

  2. Mae canu'n rhan bwysig iawn mewn gemau rygbi. Bydd lleisiau syn canu ynghyd yn creu awyrgylch arbennig iawn sy’n cael ei throsglwyddo i'r chwaraewyr. Mae hynny'n eu hatgoffa fod y dorf o'u plaid, ac yn eu hannog i chwarae eu gorau. Un o'r caneuon pwysicaf mewn gêm rygbi yw'r anthem genedlaethol. Edrychwch ar y rhan o fideo sy'n dilyn, a sylwch sut mae'r anthem yn cyffwrdd teimladau ac yn uno'r chwaraewyr ar ddechrau'r gêm.Dangoswch y fideo a'r rhan lle mae anthem genedlaethol Cymru yn cael ei chanu gan aelodau o dîm Cymru. 

  3. Os buoch chi erioed mewn gêm rygbi ryngwladol, ac wedi canu gydag eraill â'ch calon yn llawn o lawenydd, yn unedig â'r un angerdd ynghylch buddugoliaeth, yn sefyll a chodi eich dwylo i fyny, yna fe fyddwch wedi cael yr un profiad ag y mae Cristnogion yn ei gael mewn addoliad.

  4. Pan fydd Cristnogion yn dod ynghyd i addoli, mae hynny'n digwydd ag un bwriad cyffredin. Maen nhw'n unedig yn eu cariad tuag at Dduw, ac fe fyddan nhw’n mynegi'r cariad hwn trwy ganu, codi dwylo a bod yn unedig.

Amser i feddwl

Gwyliwch y clip o anthem genedlaethol Cymru unwaith eto, ac yna treuliwch foment mewn distawrwydd ar y diwedd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
gad i'r undod, y llawenydd a’r cryfder a deimlwn pan fyddwn yn unedig dros achos cyffredin fod yn rhywbeth sy'n parhau gyda ni trwy fywyd bob dydd.

Helpa ni i gefnogi ei gilydd fel cymuned ysgol, ac i ddangos ein teyrngarwch a’n hymroddiad bob amser.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon