Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr aer yn Delhi

Annog pawb i ystyried eu cyfraniad eu hunain i lygredd byd-eang.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog pawb i ystyried eu cyfraniad eu hunain i lygredd byd-eang.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch rhai delweddau sy'n dangos llygredd aer, ynghyd â'r modd y mae pobl yn delio â'i effeithiau mewn dinasoedd fel Delhi a Beijing, a sicrhewch fod gennych fodd i arddangos y delweddau yn ystod y gwasanaeth.
  • Dewiswch gerddoriaeth sy'n adlewyrchu natur ddwys y delweddau a sicrhewch fod gennych fodd i'w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o lygredd, ac ati yn ystod y gwasanaeth.

    Mae llygredd yn cael effaith ar bobl ym mhob rhan o'r byd. Pa un ai mewn dwr budr, sbwriel neu swn, mae bob amser yn gwneud eu bywydau'n waeth. Mae llygredd aer hefyd yn gyffredin – sy'n cael ei achosi gan allyriadau o geir, gorsafoedd ynni, ac awyrennau. Dychmygwch sefyllfa o lygredd aer mor ddrwg fel ei bod yn fygythiad i fywyd. I filiynau o drigolion New Delhi, prifddinas India, dydyn nhw ddim yn gorfod dychmygu'r sefyllfa, mae'r peth yn real iawn iddyn nhw.

  2. Mae gan oddeutu hanner y 4.4 miliwn o blant ysgol yn Delhi afiechydon anadlol, sy'n cael ei achosi gan y llygredd aer difrifol sy'n bodoli yn y ddinas. Mae'r aer gwenwynig yn cael ei achosi trwy losgi sbwriel, glo a thanwydd disel, sy'n rhyddhau tocsinau i'r awyrgylch. Mae'r aer yn Delhi mor wenwynig, fel pe byddai'r un faint o lefelau o wenwyn yn cael eu canfod yn yr Unol Daleithiau America, byddai'r llywodraeth yn argymell na ddylai plant chwarae yn yr awyr agored. Fel y dywedodd un ymchwilydd ym mhapur newydd 'The New York Times', 'If you have the option to live elsewhere, you should not raise children in Delhi'.

  3. Yn ddiweddar, gwnaeth yr Arlywydd Obama ymweliad swyddogol ag India. Yn ôl gwyddonwyr, cymerodd y tridiau a dreuliodd yn Delhi chwe awr oddi ar ei fywyd.  Cynghorir diplomyddion gyda theuluoedd i ail-feddwl ymgymryd â swyddi yn Delhi oherwydd yr effeithiau y gallai’r aer gwenwynig ei gael ar eu plant.
    Mae trigolion Delhi yn gyfarwydd â'r llygredd ac yn derbyn y caledi sy'n dod i'w ganlyn. Tra bo masgiau llawfeddygol gwyn yn olygfa gyffredin yn ninas Beijing, sydd gyda llai o lygredd yno, dydyn nhw ddim mor boblogaidd yn Delhi.

  4. Yr hyn y mae'r effeithiau ar iechyd plant ac eraill yn Delhi yn ei ddangos yw bod nifer fawr o bobl yn gallu cael effaith arwyddocaol - ac yn aml effaith drwg - ar yr amgylchfyd. Ni fyddai Delhi yn lle peryglus i blant anadlu'r aer pe byddai pawb yn ymwybodol o'r effeithiau niweidiol y byddai eu gweithredoedd yn eu cael a chymryd camau i'w hosgoi.

  5. Wrth gwrs, nid problem yn unig i Delhi yw hon. Mae pob person yn y byd diwydiannol - oherwydd y ceir, awyrennau a phethau eraill yr ydym ni'n dewis eu prynu a'u gwneud - yn cael effaith ar y Ddaear. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gadw ein hamgylchfydoedd lleol yn lân ac iachus, a gofalu am y byd eang, hefyd. Os na wnawn hynny, gall y byd cyfan ymdebygu i Delhi – a bod yn lleoliad lle nad yw plant yn gallu anadlu'n ddiogel.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl ychydig am ein ffordd ni ein hunain o fyw . . . Er efallai nad ydyn ni ein hunain o bosib yn llosgi glo, mae ein galwad am dechnoleg newydd, trydan a chludiant â cheir ac awyrennau yn cyfrannu'n ddyddiol at gyfanswm y llygredd sydd yn awyrgylch y byd.

Sut y gall pob un ohonom fwyta ychydig yn llai bob dydd, gwneud dewisiadau gwyrdd, ac felly helpu i leihau'r llygredd o'n cwmpas ni ac o gwmpas poblogaeth y byd?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth fyfyriol ddewisedig.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon