Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Urddas

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref)

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y cysyniad bod cariad yn rhoi urddas i fywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ysgrifennwch y diffiniad canlynol o'r gair 'urddas' ar fwrdd gwyn:
    ‘y stad neu’r ansawdd o fod yn deilwng o anrhydedd neu barch.’
  • Hefyd ar y bwrdd gwyn ysgrifennwch y rhestr ganlynol o grwpiau: y tlawd, yr anneniadol, yr eiddil a’r oedrannus, y rhai o wahanol ddiwylliannau a chrefyddau, a rhai sy’n dioddef o salwch meddwl.
  • Casglwch ynghyd rai delweddau o’r gymuned L’Arche, fel y rhai sydd yn yr erthygl a ymddangosodd yn The Guardian (ar gael ar: <http://tinyurl.com/poqttj9>) yn dangos cariad yn cael eu rhannu rhwng pobl abl eu cyrff a phobl ag anableddau, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Trefnwch i ddangos y fideo YouTube am sefydlydd y gymuned L'Arche, 'What does it mean to be fully human? Jean Vanier, Templeton Prize 2015'. Mae’n para am4.25 munud.
  • Trefnwch hefyd i ddangos y fideo YouTube 'The Help - You is important', darn o'r ffilm o'r un enw. Mae’n para am 0.21 munud yn unig.
  • Ysgrifennwch arwyddair cymuned L’Arche ar y bwrdd gwyn ar gyfer y cyfnod 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth:

    “Changing the world one heart at a time!”

Gwasanaeth

  1. Urddas yw’r thema ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015.

    Beth mae 'urddas' yn ei olygu?

    Dangoswch y diffiniad sydd gennych wedi ei ysgrifennu ar y bwrdd gwyn.

  2. Pe bydden ni’n edrych ar y cyfryngau, pwy mae ein cymdeithas yn ei ystyried yn deilwng o anrhydedd a pharch? Pwy ydyn ni’n eu parchu? Sut ydyn ni’n dangos parch?

    Fel arfer, mae hyn yn golygu y byddwn ni’n trin y person yn foneddigaidd, mewn ffordd ystyriol a gofalgar, mewn ffordd fydd yn cwrdd â’i anghenion. Parch yw rhywbeth rydyn ni’n ei ddangos tuag at rywun.
  3. A oes unrhyw grwpiau sydd heb fod wedi eu cynnwys yn y ffordd hon o drin pobl?

    Gwrandewch ar ymateb y disgyblion. Fe allech chi restru grwpiau a awgrymir ar y bwrdd gwyn neu, os yw amser yn caniatáu, fe allech chi ystyried eu hymateb yn helaethach drwy drafod ymhellach. Fe fyddai’n bosib i chi drafod y grwpiau sydd eisoes wedi eu rhestru yma fel man cychwyn, er enghraifft :

    Pobl dlawd - y digartref, y ffoadur, yr anllythrennog  . . .  Sut byddwn ni’n ymateb pan fyddwn ni’n gweld rhywun yn begio ar y stryd?

    Pobl anneniadol - yn ôl y cyfryngau.  Beth yw ein hagwedd tuag at gyd-ddisgyblion sy’n ordrwm iawn, sydd â chroen drwg, neu sydd â dannedd drwg?

    Y rhai bregus a’r henoed  . . .   Beth ydyn ni’n ei wybod am ddementia, ac am y rhai sy’n gofalu am y bobl hynny sydd wedi cael diagnosis eu bod yn dioddef  o ddementia?

    Pobl o wahanol wledydd a diwylliannau eraill, a rhai sy’n dilyn gwahanol grefyddau  . . . Ydyn ni ryw dro wedi dangos amarch tuag at unrhyw rai o’r grwpiau hyn o bobl, neu wedi eu diystyru ryw dro?

    Pobl sydd â salwch meddwl  . . .   beth yw ein hymateb i salwch meddwl?
  4. Urddas yw canlyniad cael ein trin â pharch. Rhywbeth mewnol ydyw, ac mae’n aml yn cael ei gysylltu â synnwyr o werth, lles, a’r synnwyr o fod yn cael ein gwerthfawrogi ac o fod â phwrpas.

    Trin rhywun ag urddas yw eu trin fel eu bod yn rhywun o werth, mewn ffordd sy’n dangos parch tuag atyn nhw fel unigolion. Mae’n gweld calon y person.
  5. Dangoswch rai delweddau o bobl yng nghymuned L’Arche.

    Pa rinweddau a pherthynas y gallwn ni eu nodi yn y delweddau hyn?
    A oes anrhydedd a pharch yn cael ei ddangos at y bobl hyn sydd ag anableddau?
    Ydyn ni’n cael yr argraff bod urddas yn cael ei ddangos tuag at y bobl hynny na fydden nhw efallai’n cael eu trin yn y ffordd hon ym mhob man, neu na chawson nhw eu trin fel hyn erioed o’r blaen?
  6. Yn y flwyddyn 2015, dyfarnwyd gwobr glodfawr - y Templeton Prize - i ddyn o’r enw Jean Vanier, sef sylfaenydd y gymuned L’Arche. Dyma ffederasiwn byd-eang o bobl, rhai ag anableddau dysgu, eraill heb anableddau, yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn byd lle mae pawb yn perthyn.

    Dangoswch y fideo YouTube am sylfaenydd y gymuned L'Arche, 'What does it mean to be fully human? Jean Vanier, Templeton Prize 2015'. Mae’n para 4.25 munud.

    Gadewch i ni ystyried rhai o’r pwyntiau sy’n cael eu nodi yn y fideo.

    - Bod yn gyfan gwbl ddynol yw canfod pwy ydw i mewn perthynas â phobl eraill.
    - Mae angen i ni gydnabod ein bod i gyd yn fregus. Gall ein calon gael ei brifo’n ddrwg, a’r canlyniad yw teimlad o ddicter a bod yn ddrylliedig.
    - Mae angen cael undod rhwng y pen a’r galon.
    - Mae pob un ohonom ni’n ymofyn cael ein caru.
    - Mae pob person yn hardd.
    - Mae angen i ni ddysgu caru ein gilydd, nid oherwydd y pethau y byddwn ni’n eu gwneud, ond oherwydd pwy ydyn ni: 'Rwy’n dy garu di fel yr wyt ti’ - (I love you as you are).
    - Mae angen i ni chwalu’r rhwystrau sydd yn ein calonnau ni ein hunain.
    - Fe ddylen ni gael ein caru am bwy ydyn ni.

    Mae Jean Vanier yn ceisio creu mannau o berthyn lle mae’r pwyntiau hyn i gyd yn cael eu rhoi ar waith. Allen ni wneud hyn yn ein cartrefi, yn ein hysgolion, yn ein cymunedau?

Amser i feddwl

Yn y ffilmThe Help, mae Aibileen Clark yn famaeth (nanny). Am ei bod hi’n wraig ddu yn America yn y 1950au, yn aml fe fyddai ei chyflogwr gwyn trahaus yn ei thrin yn amharchus iawn. Mae’r plentyn y mae hi’n gofalu amdano yn cael ei ystyried gan ei fam yn ordew ac yn afrosgo, ac nid yw’n dangos unrhyw fath o gariad mam tuag at y plentyn. Gwrandewch ar neges Aibileen.

Dangoswch y fideo YouTube, 'The Help - You is important'. Mae’n para 0.20 munud. www.youtube.com/watch?v=3H50llsHm3k

You is kind. You is smart. You is important.’ Cymerwch y geiriau hyn o wirionedd i’ch calon chi eich hunan.

Gweddi
Dangoswch arwyddair cymuned L’Arche ar y bwrdd gwyn: 'Changing the world one heart at a time!’

Annwyl Arglwydd Dduw,

Diolch i ti ein bod yn brydferth yn dy olwg.
Diolch i ti fod pob un ohonom yn cael ei garu â chariad tragwyddol.
Mae dy gariad di’n gariad diamod, heb fod yn seiliedig ar yr hyn y gallwn ei wneud neu ei gyflawni, ond yn hytrach yn seiliedig ar bwy ydyn ni.
Dysga ni i garu pobl eraill gyda’r math hwnnw o gariad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon