Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gorwelion newydd

Myfyrio ar chwilfrydedd y ddynoliaeth, a oedd yn gyfrifol am anfon y llong ofod 'New Horizons' cyn belled â Phluto.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar chwilfrydedd y ddynoliaeth, a oedd yn gyfrifol am anfon y llong ofod 'New Horizons' cyn belled â Phluto.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd y stori hon yn datblygu dros amser felly gwiriwch y gwefannau newyddion (fel yr adran Wyddoniaeth a'r amgylchfyd ar wefan newyddion y BBC, ar: http://tinyurl.com/q2cvd4a) er mwyn cael gafael ar y wybodaeth a'r delweddau diweddaraf.
  • Rhag-baratowch un o'ch cydweithwyr i dorri ar eich traws wrth i chi gyflwyno'r  'Gwasanaeth', Camau 2 a 4, yn y ffordd a ddisgrifir.
  • Sicrhewch fod gennych ddarn o gerddoriaeth o naws y dyfodol neu sydd yn nodweddu teithio'r gofod a'r modd o'i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Disgrifiwch y chwilydd gofodol (space probe) y 'New Horizons', gan ychwanegu rhai ffeithiau sylfaenol o'ch ymchwil, fel y pwyntiau canlynol.

    - Pan adawodd y chwilydd y Ddaear, tua naw mlynedd yn ôl, ystyriwyd mai Pluto oedd y blaned bellaf yng nghysawd yr haul.
    - Wythnosau yn dilyn ei lansiad, fodd bynnag, daeth gwyddonwyr i'r penderfyniad nad oedd Pluto yn blaned o'r iawn ryw, a bellach caiff ei dosbarthu fel planed gorrach neu is-blaned, oherwydd ei maint bach a'r ffaith ei bod yn ymdebygu i sawl gwrthrych arall o'i chwmpas, sydd ym mhellafoedd cysawd yr haul, a adnabyddir fel y 'Kuiper Belt'.
    - Wrth gwrs, wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Pluto wrth iddi barhau i gylchynu 3.6 biliwn milltir oddi wrth yr haul. Nid yw'r Ddaear ond 83 miliwn milltir oddi wrth yr haul, sydd yn debyg iawn i gerdded rownd i siop y gornel o'i gymharu â thro cerdded o amgylch y byd a fyddai'n cynrychioli taith i Bluto.
  2. Rhowch yr argraff eich bod ar fin parhau â'r gwasanaeth pan fydd aelod o'r staff, yn ôl eich trefniant, yn sydyn yn dweud yn glir, ‘Oes’.

    Peidiwch ag ymddangos yn syn gyda'r sylw hwn - ond yn syml eglurwch eich bod, wyth awr yn ôl, wedi gofyn i Ms/Mr  . . .  a oedd hi/ef eisiau paned o goffi (gwnewch jôc am y modd y byddai athrawon gweithgar yn ymateb pe byddech yn gwneud y cais yng nghanol y nos!), ond fe fydd hi/ef yn null 'New Horizons', sydd yn golygu y bydd hi'n cymryd pedair awr neu fwy i'r neges i gyrraedd yno, a'r un modd ar gyfer ateb Ms/Mr  . . . i'ch cyrraedd chi oherwydd bod y chwilydd mor bell i ffwrdd. Rydych yn gobeithio ei bod hi/ef yn hoffi coffi oer!

    Tra rydyn ni'n sôn am hyn, mae arwyneb Pluto yn oer iawn – tua minws 233 gradd Celsius mewn rhai lleoliadau.
  3. Mae'r chwilydd 'New Horizons' wedi darganfod llawer. Cyn iddo gyrraedd Pluto, roedd pobl o'r farn y byddai’r lle wedi ei orchuddio â chraterau, fel ein lleuad ni. Yn wir, mae craterau yno, ond mae'r mwyafrif wedi eu llyfnhau, ac y mae lleoliadau eraill sy'n awgrymu y gall fod gwres cymedrol yn tarddu o'i chrombil. Felly, mae Pluto yn ymddangos fel byd actif neu o leiaf wedi bod yn actif yn y gorffennol diweddar. Mae arni hefyd fynyddoedd enfawr, o bosib o rew dyfrllyd, a rhanbarth dieithr yr olwg sydd wedi cael ei enwi'n anffurfiol yn 'Sputnik Planum neu Plain' - arwyneb gwastad sydd yn fras, wedi ei dorri'n polygonau.
  4. Felly, fel arfer gyda darganfyddiadau gwyddonol, mae rhai atebion ar gael, ond hefyd llawer o gwestiynau newydd. Yn yr achos hwn, mae hefyd lawer o bethau sy'n peri syndod. Mae'n ymddangos yn bosib fod cefnfor tywyll o ddwr hylifol yn ddwfn islaw'r arwyneb sydd wedi rhewi.

    Mae eich cydweithiwr yn dweud yn sydyn, '. . . os gwelwch yn dda.' Fe fyddwch yn egluro nid yn unig y mae'n cymryd pedair awr neu fwy i'r chwilydd 'New Horizons' anfon ei negeseuon a'r lluniau, ond hefyd nid yw’n gallu eu hanfon yn sydyn atom ni. Dim ond yn araf iawn y caiff negeseuon eu trosglwyddo, am mai dim ond ychydig o egni sydd ganddo i'w hanfon ar draws y fath bellter sydd rhwng Pluto a'r Ddaear. Felly bydd yn cymryd dros flwyddyn i'r holl ddata a gesglir yn ei wib-ehediad heibio Pluto a'i lleuadau i gyrraedd y Ddaear, bob yn dipyn bach yn araf.

Amser i feddwl

Mae'r chwilydd 'New Horizons' wedi goroesi taith hir, beryglus a rhewllyd, trwy gario gobeithion a chwilfrydedd y ddynoliaeth ymhell allan i'r gofod, yr holl ffordd i Pluto, sydd ar ffin bellaf cysawd yr haul.

Mae'n gyflawniad gwyddonol enfawr, ond beth sy'n cymell ein hymchwil am wybodaeth, paham ein bod angen gwybod beth sydd y tu hwnt i'r bryn gerllaw, neu y tu draw i'r blaned nesaf?

Mae hyn yn rhan efallai o'r cwestiwn chwilfrydig pennaf oll: beth yw'r bod dynol?

Mae'n ymddangos bod maethu chwilfrydedd er mwyn darganfod mwy am ein byd, ein bydysawd ac amdanom ni ein hunain, yn ein helpu i ateb y cwestiwn hwnnw.

Cerddoriaeth

Y darn rydych chi wedi ei ddewis o gerddoriaeth sydd â naws y dyfodol neu'r gofod.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon