Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Geiriau

Gwahanol ffyrdd o siarad

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried yn ofalus pa eiriau y byddwn ni’n eu defnyddio wrth siarad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân 'Words' gan y Bee Gees, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Ar 21 Hydref yn y flwyddyn 1915 - ganrif yn ôl, felly - cafodd yr alwad radio-teleffon drawsiwerydd gyntaf oll ei gwneud, pryd yr oedd pobl yn siarad â'i gilydd ar draws y môr mawr. Gwnaed yr alwad o Arlington yn Unol Daleithiau America, a chafodd ei derbyn ym Mharis. Roedd pobl wedi rhyfeddu bod iaith lafar yn gallu cael ei throsglwyddo ar draws ehangder mawr Cefnfor yr Iwerydd. Pa mor wahanol yw pethau erbyn heddiw!

Darllenydd 1: Byddaf yn siarad yn aml â'm cefndryd sy'n byw yn Awstralia. Mae'r sgyrsiau mor glir, fel pe na bydden nhw'n bell i ffwrdd o gwbl.

Darllenydd 2: Mae nain a taid yn byw yn Sbaen. Byddwn yn defnyddio Skype neu FaceTime er mwyn cadw mewn cyswllt. Nid yn unig rydyn ni'n gallu siarad ond hefyd fe allwn ni weld ein gilydd.

Darllenydd 3: Rydw i wrth fy modd yn edrych ar chwaraeon Americanaidd. Trwy gyfrwng teledu lloeren, rydw i'n gallu cael sylwebaeth fyw ar y cyfan o'r gemau dwi'n dymuno eu dilyn.

Arweinydd: Gymaint yw'r cynnydd mewn technoleg cyfathrebu, nid oes bellach rwystrau yn ein hatal rhag cael sgwrs gyda phobl sy'n annwyl gennym, pa bynnag le yn y byd y maen nhw'n digwydd byw. Yn wir, mae hi hyd yn oed yn bosib cael sgwrs gyda gofodwyr ar yr Orsaf Ofod Genedlaethol wrth i honno a hwythau gylchynu’r byd.

Weithiau byddaf yn synnu wrth feddwl am y nifer o eiriau sydd yn cael eu defnyddio'n ddyddiol drwy'r byd. Rhaid bod biliynau ohonyn nhw. Rydym yn sgwrsio, yn canu, yn trafod, yn addysgu, yn dadlau, yn mân siarad, yn trafod, yn gwatwar, yn canmol . . . mae ffyrdd di-ben-draw o'r modd yr ydym yn defnyddio grym ein lleisiau. Felly, efallai ei fod yn werth ystyried am foment y geiriau yr ydym yn eu defnyddio.

Fe wnaeth Iesu nifer o sylwadau pwysig am y modd yr ydym yn siarad.

Yn gyntaf, fe awgrymodd fod yr hyn a ddywedwn yn aml yn arwydd o'r math o bobl ydyn ni oddi mewn. Dywedodd bod ein ceg yn llawn o'r hyn sy'n bodoli yn ein calon.

Tybed pa fath o farn am gymeriad pobl mae pobl eraill yn ei ffurfio wrth iddyn nhw glywed y geiriau rydych chi a fi yn eu defnyddio? A ydyn nhw'n synhwyro caredigrwydd, empathi, cefnogaeth ac anogaeth, neu a ydyn nhw'n teimlo'n bryderus oherwydd y feirniadaeth, yr oerni a'r ymosodedd y maen nhw'n ei glywed?

Yn ail, fe rybuddiodd Iesu fod posib i’r hyn a ddywedwn yn y dirgel ddod yn gyhoeddus mewn ffordd ddigon diflas ambell waith. Pan fydd y geiriau wedi dod allan, rydym wedi colli rheolaeth drostyn nhw. Does gennym ni ddim rheolaeth dros ymatebion y rhai yr ydym yn siarad â nhw, a’r rhai efallai y bydden nhw'n trosglwyddo'r hyn yr ydyn ni wedi ei ddweud. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a oes rhywun arall wedi digwydd clywed yr hyn yr oedden ni wedi ei ddweud.

Yn drydydd, eglurodd Iesu'r gred Gristnogol pan fydd ein bywydau, yn y pen draw,   wedi mynd heibio, byddwn yn gorfod cymryd cyfrifoldeb dros y cyfan o'r hyn yr ydym wedi ei ddweud (a'i wneud hefyd i bob pwrpas). Rydym yn atebol am y cyfan o'r geiriau y gwnaethon ni eu llefaru, yn dda a drwg. Dydyn nhw ddim yn ôl-ddilynol. Mae pob gair wedi cael rhywfaint o effaith, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol. Mae hyn yn syniad sy’n cael ei rannu â rhai crefyddau eraill yn ogystal.

Yn olaf, i ddiweddu ar nodyn cadarnhaol, fe sicrhaodd Iesu ei ddilynwyr, pe bydden nhw'n dihysbyddu eu stôr o eiriau, pryd y bydden nhw'n methu ag ymateb i gwestiynau lletchwith, cyhuddiadau, penbleth neu unrhyw sefyllfa arall yr oedden nhw'n eu cael eu hunain ynddi, yna, byddai ei Ysbryd yn eu darparu â'r geiriau yr oedden nhw i'w llefaru. Mae Cristnogion yn parhau i gredu hyn hyd heddiw.

Amser i feddwl

Ydych chi'n gwybod beth ydych chi’n mynd i'w ddweud heddiw? Efallai bod rhywfaint o’r cynnwys wedi ei gynllunio. Efallai y bydd yn ofynnol i chi wneud:

- araith ar gyfer asesiad
- rhyw esgus am waith cartref nad ydych wedi ei wneud
- cwyn am rywbeth yr ydych wedi ei brynu
- ymddiheuriad am gamgymeriad.

Bydd y mwyafrif o'r pethau y byddwn yn eu dweud heddiw'n ddigymell. Bydd mewn ymateb i gwestiwn neu i farn a fynegwyd gan rywun. Bydd yn ganlyniad i deimlad ar hap y byddwn wedi ei gael, neu ymateb emosiynol o anwyldeb, rhwystredigaeth neu ddicter. Ni allwn gynllunio ar gyfer llefaru geiriau fel hyn. Felly, sut gallwn ni wneud y defnydd mwyaf buddiol ohonyn nhw?

Buaswn i'n awgrymu, yn gyntaf, ein bod yn gwrando'n astud cyn cynnig dweud unrhyw beth. A ydyn ni wedi llawn ddeall y cwestiwn, yr esboniad, y sylw sydd wedi cael ei wneud? Dim ond ar ôl hynny y gall ein hateb fod yn berthnasol.

Yn ail, rwy'n awgrymu ein bod yn agor y sianelau priodol yn ein hymennydd cyn agor ein ceg. Mewn geiriau eraill, ein bod yn ystyried yr hyn yr ydym ar fin ei ddweud cyn i ni yn wirioneddol ei osod mewn geiriau.

Yn drydydd, rwy'n awgrymu ein bod yn cyfyngu ar yr hyn a ddywedwn. Gadewch i ni wneud i bob gair gyfrif, gan fod yn glir a chryno fel na fydd camgymeriad. Os ydym yn methu meddwl am eiriau, cofiwch am addewid Iesu, y bydd ei Ysbryd yn darparu i ni yr hyn y gallwn ei ddweud.

Yn olaf, rwy'n awgrymu ein bod yn gwneud ymarfer o adrodd yn ôl ar ddiwedd pob dydd, gan wirio nad oes yr un gair wedi ei adael heb ei ddweud gennym, dim geiriau yr ydym yn edifar ohonyn nhw, gan wirio fod gan ein geiriau werth ac yn gallu dyrchafu bywydau'r rhai sy'n rhan o'n teuluoedd a'n cymuned.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am eiriau sy'n ein helpu i gyfleu'r hyn yr ydym yn ei deimlo a’r hyn yr ydym yn ei olygu.
Atgoffa ni’n gyson bod i eiriau'r grym i wella ac i frifo, i feithrin ac i ddifrodi.
Gad i ni stopio am funud ac ystyried yr hyn y byddwn yn ei ddweud cyn i ni siarad heddiw.  Amen.

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gân ‘Words’ gan y Bee Gees

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon