Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Plant mewn Angen

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ein haddysgu ni ynghylch pwysigrwydd rhoi i'r rhai sy’n llai ffodus na ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod y clipiau fideo canlynol gennych chi, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.

    - Fideo 1: 'Tom and Jerry: A fundraising adventure', BBC Children in Need. Mae’n para 2.16 munud.

    - Fideo 2: 'Jamie’s Farm, a project funded by BBC Children in Need', BBC Children in Need. Mae’n para 4.42 munud.

    - Fideo 3: 'Joe's Story told by Martin Freeman', BBC Children in Need. Mae’n para 3.31 munud.

    - Fideo 4: 'BBC Children in Need - helping children smile throughout the UK', BBC Children in Need. Mae’n para 2.20 munud.
  • Fe fydd arnoch chi angen hefyd y delweddau canlynol, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint):

    - Pudsey yn 1985 (ar gael ar: http://ow.ly/QTzKR)
    - Pudsey yn 2015 (ar gael ar: http://ow.ly/QTzXm).
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân 'Wake me up' gan Gareth Malone's All Star Choir, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch Fideo 1.

    Mae’r elusen Plant mewn Angen yn elusen ardderchog sy'n helpu pob math o blant sy'n wynebu anawsterau. Mae Plant Mewn Angen yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau a chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywyd, yn cefnogi ysbytai ac elusennau eraill sy'n canolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel.

    Er mwyn helpu i godi arian, mae’r BBC yn cynnal sioe deledu sy’n cynnwys llawer o ganu a dawnsio, gwahoddedigion enwog a llawer o weithgareddau hwyliog a gwallgof.

    Ers 1980, mae’r elusen Plant mewn Angen wedi codi dros £600 miliwn ar gyfer plant yn y D.U. ac os gwnawn ni i gyd weithio gyda’n gilydd, fe fyddwn ni’n gallu codi hyd yn oed fwy o arian i helpu plant.

  2. Sut mae ein cyfraniadau wedi gwneud gwahaniaeth?

    Chwaraewch Fideo 2,3,a,4.

  3. Pwy sy’n gallu dweud wrtha i beth yw enw’r tedi enwog sy’n fasgot i’r elusen Plant mewn Angen?

    Ie, Pudsey!

    Dangoswch y ddwy ddelwedd o Pudsey.

    Cafodd Pudsey ei gynllunio gan wraig o'r enw Joanna Ball, ac fe gafodd ei enwi ar ôl y dref fechan o'r enw Pudsey yng Ngorllewin Swydd Efrog. Ymddangosodd Pudsey ar y teledu am y tro cyntaf yn 1985, ac roedd yn edrych yn wahanol iawn bryd hynny i'r ffordd y mae'n edrych yn awr. Roedd ganddo ffwr brown, tri botwm du a patsh coch dros ei lygad.

    Daeth Pudsey’n boblogaidd iawn ac fe gafodd wedd newydd sbon. Erbyn hyn mae ganddo ffwr melyn a patsh llygad â smotiau o wahanol liwiau arno.

    Dros y blynyddoedd, mae Pudsey wedi derbyn miloedd o lythyrau, lluniau a negeseuon e-bost gan blant ledled y D.U. ac mae wedi cael tynnu ei lun gyda nifer fawr o enwogion.

  4. Mae sawl gwahanol ffordd o gyfrannu tuag at yr elusen Plant mewn Angen. Fe allech chi hefyd lwytho i lawr ffurflen noddi oddi ar wefan Plant Mewn Angen, a gwneud rhywbeth byrfyfyr neu hyd yn oed drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad codi arian. Gallai hyn fod mor greadigol, gwallgof neu ddychmygus ag y dymunwch chi iddo fod. Fe allech chi gynnal:

    -ras noddedig neu elfen arall o chwaraeon
    - distawrwydd noddedig
    -gwerthu cacennau
    - dylunio, gwneud a gwerthu cardiau cyfarch
    -sioe dalent, gan godi ffi ar y perfformwyr neu werthu tocynnau i’r rhai fydd yn y gynulleidfa
    -sioe gelf, gyda phobl yn rhoi cyfraniad ariannol am gael dangos eu gwaith neu am fynd i weld y cynnyrch
    -parti, gan werthu tocynnau i’r rhai fydd yn mynd iddo, gyda raffl, casglu cyfraniadau ariannol ac ati yn y digwyddiad
    -cwis, gan godi tâl mynediad, codi tâl am bryd o fwyd a chasglu arian.

  5. Ffyrdd eraill y gallech chi helpu fyddai trwy werthu eich hen deganau a gemau, a rhoi'r arian rydych chi’n ei gael at yr elusen Plant mewn Angen. Fe allech chi hefyd godi ymwybyddiaeth o'r elusen, neu wirfoddoli ar gyfer un o'r prosiectau y mae'n eu noddi. Mae llawer o ffyrdd eraill i helpu, hefyd. Am ragor o syniadau, edrychwch ar wefan Plant mewn Angen (Children in Need). Cofiwch mai’r prif beth ynghylch codi arian yw rhoi gwybod i bobl gymaint y bydd yr arian rydych chi’n ei godi yn helpu i wella ansawdd bywyd y plant sydd mewn angen.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fod yn dawel a meddwl am yr holl blant yn y wlad hon sydd dan anfantais, yn wael ac yn anniogel. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd fel ysgol i helpu plant a phobl ifanc sydd mewn angen drwy godi arian, a chodi ymwybyddiaeth, a sicrhau ein bod yn rhoi eraill o’n blaen ni ein hunain bob amser.

Cân/cerddoriaeth

'Wake me up' gan Gareth Malone's All Star Choir

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon