Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Coffadwriaeth Hiroshima a Nagasaki

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cofio am y weithred o ollwng y bomiau atomig ar Japan 70 mlynedd yn ôl, a myfyrio ar hyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gellir cyflwyno’r gwasanaeth hwn naill ai fel gwasanaeth dosbarth gydag amrywiaeth o leisiau neu gan un person. Os ydych yn mynd i gael darllenwyr, mae'n gweithio'n dda os ydyn nhw’n cael eu lleoli mewn gwahanol fannau o gwmpas y lle. Os byddwch yn penderfynu cael un llais - fe allwch chi eich hun ddarllen y ffeithiau yn y 'Gwasanaeth', Cam 2, neu gael un darllenydd i wneud hynny - ar gyfer creu’r effaith fwyaf, gallech gynnwys saib byr ar ôl pob llais. Neu, fel arall, efallai y gallech chi ystyried chwarae cerddoriaeth briodol yn dawel am funud neu ddwy rhwng pob ffaith i greu’r saib hon, fel cerddoriaeth 'Nimrod', allan o’r Enigma Variations gan Elgar.
  • Trefnwch fod gennych chi’r clip fideo 'Japan remembers Nagasaki bomb, 70 years on', BBC News (i’w gael ar: www.bbc.co.uk/news/world-asia-33839055) a’r modd o chwarae’r clip yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para 2.03 munud.
  • Mae'n syniad da ymchwilio i'r pwnc er mwyn gallu bod yn barod i ateb cwestiynau (er mwyn cael ffynhonnell y ffeithiau allweddol a gynhwysir yn y gwasanaeth, gweler 'Fact File: Hiroshima and Nagasaki', fe welwch y cynnwys sydd wedi ei archifo ar gyfer adran Hanes gwefan y BBC ar: tinyurl.com/7no6nel).

Gwasanaeth

  1. Roedd mis Awst 2015 yn nodi bod saith deg mlynedd wedi mynd heibio ers i ddwy fom atomig gael eu gollwng ar ddinasoedd Hiroshima a Nagasaki yn Japan.

    Dyma'r unig dro i arfau o'r fath gael eu defnyddio mewn rhyfel.

    Gwrandewch yn awr ar rai ffeithiau am y digwyddiad hwn.

  2. Mae'r ffeithiau canlynol i'w darllen i'r gynulleidfa gennych chi, neu gan un neu fwy o ddarllenwyr, yn ôl yr hyn a benderfynwyd gennych wrth baratoi, gydag ysbaid dawel rhwng pob eitem neu gerddoriaeth yn cael ei chwarae yn ystod y saib.

    Collwyd miliynau o fywydau oherwydd gwrthdaro byd-eang yr Ail Ryfel Byd.

    Roedd America a Japan wedi bod yn rhyfela yn erbyn ei gilydd ers mis Rhagfyr 1941.

    Yn y flwyddyn 1942, dechreuodd gwyddonwyr Americanaidd weithio ar arf newydd nerthol ac arswydus iawn y rhoddwyd yr enw cyfrin arno: 'Prosiect Manhattan’.

    Ar fore'r 6ed o Awst 1945, fe ollyngodd awyren fomio B-29 o America, oedd wedi ei henwi yn 'Enola Gay', y bom atomig gyntaf i'w defnyddio mewn rhyfel ar ddinas Japaneaidd, Hiroshima.

    Enw'r bom oedd ‘Little Boy’.

    Cafodd rhwng 60,000 ac 80,000 o bobl eu lladd ar unwaith.

    Roedd y gwres a oedd yn tarddu o'r bom mor danbaid roedd rhai pobl yn llythrennol wedi diflannu yn y ffrwydrad.

    Bu llawer mwy o bobl farw o effeithiau hirdymor salwch ymbelydrol wedyn.

    Cyfrifwyd bod cyfanswm y rhai a laddwyd yn 135,000.

    Ar fore'r 9fed o Awst 1945, gollyngodd yr Americaniaid ail fom atomig fwy ar ddinas Nagasaki.

    Galwyd y bom honno'n, ‘Fat Man’.

    Cyfrifwyd bod cyfanswm y rhai a laddwyd yn y ddinas honno o leiaf yn 50,000.

    Y targed gwreiddiol oedd Kokura, ond roedd cwmwl yn ei guddio ac o'r herwydd cafodd ei arbed,

    Rai dyddiau yn ddiweddarach, ildiodd Japan.

    Mae rhai yn credu bod y defnydd o'r arfau hyn wedi byrhau cyfnod y rhyfel yn sylweddol, ac yn arbed bywydau yn y pen draw.

    Mae eraill yn credu na ddylai'r math newydd hwn o ryfela erioed fod wedi cael ei ddefnyddio.

    Mae rhai wedi datgan bod Japan yn elyn creulon a didostur, gan ddyfynnu fel tystiolaeth y driniaeth ddychrynllyd gafodd carcharorion rhyfel.

  3. Efallai na chawn wybod yn llawn na phwyso a mesur y gwirionedd a'r ffaeleddau oedd yn rhan o ddigwyddiadau'r gorffennol, ond gallwn adael iddyn nhw gael effaith ar yr hyn a gredwn, ein hagweddau a'n gweithredoedd yn awr ac yn y dyfodol.

    Allwn ni ddim dychmygu sut beth fyddai byw trwy'r profiad hwn, neu i fyw ar ôl hynny wedyn, efallai'n wael eich iechyd ac wedi eich anafu; wedi colli anwyliaid o bosib. Mae un peth yn sicr, i'r rhai oedd yn rhan o'r digwyddiad ac i'r byd yn gyffredinol, ni fu pethau byth yr un fath ar ôl hynny.

  4. Dyma stori un a oroesodd y gyflafan.

    Tanaka

    Ar y bore pan ddigwyddodd y bomio, roedd Tanaka, merch chwe blwydd oed, ei dillad yn lân a'i gwallt wedi ei frwsio, yn sefyll gyda ffrindiau yn y stryd cyn cychwyn am yr ysgol. Eiliadau ar ôl i'r awyrennau bomio uwch ben fynd heibio, cafodd ei thaflu i'r llawr gan nerth y bom a ffrwydrodd yn yr awyr uwchben y ddinas.

    Deffrodd gyda'i hwyneb a'i breichiau wedi eu llosgi a'i gwallt wedi ei ddeifio. Fe ymlwybrodd yn ôl at ei chartref oedd wedi hanner ei ddinistrio. Pan ddaeth ei mam allan o'r ty, wnaeth hi ddim hyd yn oed adnabod ei merch ei hun, y ferch yr oedd wedi ei hanfon i'r ysgol chwarter awr ynghynt. Yn fuan dechreuodd perthnasau, a oedd wedi llosgi’n ddifrifol, gyrraedd.  Cerddodd Tanaka i mewn i'w chartref ac edrychodd i fyny trwy dwll enfawr yn y to.

    'Efallai mai dim ond plentyn sy'n gallu teimlo fel hyn, ond, er fy mod mewn poen, pan edrychais i fyny at yr awyr, meddyliais, "O, mae'n awyr las hardd heddiw."' Yna cwympodd i'r llawr.

    Am wythnosau bu Tanaka rhwng byw a marw, roedd yn ymwybodol ac yn anymwybodol bob yn ail, yn drifftio i mewn ac allan o ymwybyddiaeth.

    Pan ddeffrodd, y peth cyntaf y sylwodd arno oedd yr arogl.  Llosgai tanau amlosgi drwy’r dydd a'r nos gerllaw ei thy, yn llai na milltir a hanner o'r hypo-ganolbwynt (canolbwynt y ffrwydrad).

    Erbyn hyn mae Tanaka yn ei saithdegau, ond wnaeth hi ddim gadael Hiroshima. Priododd yno, magodd ferch a mab a chanfod llawenydd wrth fod yn arlunydd yn gwneud gwaith gydag enamel. Saif ei chartref ychydig gannoedd o lathenni o safle ei hen dy.

  5. Gwrandewch ar y dyfyniadau canlynol.

    Ar ôl i Hiroshima gael ei fomio, gwelais lun o un ochr i dy gyda chysgodion o'r bobl a fu'n byw yno wedi eu llosgi i mewn i'r wal gan ddwyster y bom. Roedd y bobl wedi mynd, ond roedd eu cysgodion yn aros.
    (Ray Bradbury, awdur)

    Rydw i wedi dod yn farwolaeth, dinistrydd bydoedd.
    (addasiad o eiriau J. Robert Oppenheimer, gwyddonydd a fu'n gweithio ar Brosiect Manhattan, yn cam-ddyfynnu ysgrythur Hindwaidd yn ddirmygus yma)

  6. Efallai mai'r hyn sy'n fwyaf trawiadol yw bod Japan wedi adfer ei hun, ac wedi mynd ymlaen i fod yn genedl lwyddiannus, yn arweinydd y byd mewn datblygiadau newydd. Mae Japan hefyd yn eiriolwr ymrwymedig dros heddwch byd-eang a difodiant holl arfau niwclear.

Amser i feddwl

Fe hoffwn i chi yn awr wylio’r clip fideo hwn rwy’n mynd i’w ddangos i chi am y seremoni goffa a gynhaliwyd yn Nagasaki yn Awst 2015, ar achlysur coffau saith deg mlynedd ers y digwyddiad o ollwng bom atomig ar y ddinas. Gadewch i ni wneud hyn yn dawel, a myfyrio wedyn am ychydig ynghylch yr hyn rydyn ni wedi ei weld.

Chwaraewch y fideo ''Japan remembers Nagasaki bomb, 70 years on', BBC News (i’w chael ar: www.bbc.co.uk/news/world-asia-33839055).

Yn awr gadewch i ni gofio hefyd am y bobl yr oedd byddin Japan yn elyn iddyn nhw ac, yn arbennig, y rhai a oedd wedi eu carcharu gan y Japaneaid ac a ddioddefodd amodau a thriniaethau dychrynllyd.

Yn awr, treuliwch foment yn meddwl am sut y gallai pob un ohonom ni heddiw ddewis gweithio dros heddwch.

Cân/cerddoriaeth

Nimrod’ o’r Enigma Variations gan Elgar

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon