Hunanaberth
Gofyn y cwestiwn, 'Sut y gallwch chi garu rhywun gymaint fel y byddech yn rhoi eich bywyd drosto ef neu hi?'
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Gofyn y cwestiwn, 'Sut y gallwch chi garu rhywun gymaint fel y byddech yn rhoi eich bywyd drosto ef neu hi?'
Paratoad a Deunyddiau
Efallai yr hoffech chi gael clipiau fideo’n barod o'r ffilmiau ac ati y mae cyfeiriad atyn nhw yng Ngham 3 y gwasanaeth, a threfnwch fodd o ddangos y rhain, ond mae hyn yn ddewisol.
Gwasanaeth
- 'Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.' Dyma ddyfyniad enwog sy’n cael ei ddefnyddio’n aml. Oes rhywun yn gwybod pwy ddywedodd hyn? Peidiwch â dweud dim ar y funud. Os ydych chi’n gwybod, cadwch y wybodaeth i chi eich hunan am y tro.
Pa un ai a ydych chi’n gwybod pwy ddywedodd hynny ai peidio, dyma sy'n mynd i fod yn sail i’n gwasanaeth heddiw. Rydyn ni’n mynd i siarad am weithredoedd o hunanaberth - adegau pan fydd rhywun yn dewis rhoi’r gorau i rywbeth, neu’n gwneud rhywbeth i rywun arall heb feddwl amdanyn nhw eu hunain. - Gall y syniad o hunanaberth esgor ar rai syniadau diddorol - aberthu eich dyheadau chi am ddyheadau pobl eraill. Tybed a ydych chi erioed wedi gwneud rhywbeth fel yna, rhywbeth nad oeddech chi’n dymuno'i wneud o gwbl ond eich bod yn gwybod fod y person arall yn dyheu amdano'n fwy. Enghraifft efallai eich bod chi wedi mynd i rywle ar gyfer pen-blwydd brawd neu chwaer i chi, ac nad oeddech yn wir wedi ei fwynhau, ond fe wnaethoch chi fynd oherwydd eich bod yn gwybod fod hynny'n bwysig iddo ef neu hi.
- Mae llenyddiaeth yn frith o achosion am bobl a roddodd eu bywydau er mwyn achub unigolyn neu unigolion. Rwy'n gobeithio na fyddaf yn difetha'r stori yn unrhyw un o'r llyfrau, ffilmiau canlynol ac ati gyda'r enghreifftiau canlynol, ond un yw'r Chwilyswr (Inquisitor), Boromir, yn y gyfres 'Mortal Instruments' sy'n rhan o 'Lord of the Rings.' Mae Aslan yn aberthu ei fywyd dros Edmund yn 'The Lion, the Witch and the Wardrobe.' Bradwr yw Edmund ac Aslan yn ddieuog o unrhyw ddrwgweithred, er hynny mae'n cymryd lle Edmund fel aberth er mwyn tawelu'r ddewiniaeth dywyll – ‘to appease the dark magic’. Rwy'n siwr y gall pob un ohonoch ddwyn i gof lyfrau yr ydych wedi eu darllen neu ffilmiau yr ydych wedi eu gweld lle mae pobl wedi aberthu eu hunain o flaen unigolyn neu unigolion eraill. Yn 'Frozen', mae Anna yn dewis achub ei chwaer yn hytrach nag ystyried ei bywyd a'i hapusrwydd ei hun a, thrwy hynny, yn profi mai gwir gariad yn unig all feirioli calon sydd wedi ei rhewi.
Chwaraewch y clipiau fideo, os byddwch yn dymuno eu defnyddio. - Tybed a wnaethoch chi, ryw dro, aberthu unrhyw beth er mwyn eraill a hynny er lles pawb? Os gwnaethoch chi rywbeth, fel y gwnes i sôn amdano yn gynharach, er mwyn brawd neu chwaer neu ffrind, a hynny oherwydd eich bod yn gwybod y byddai hynny'n eu gwneud nhw’n hapus, yn hytrach nac er mwyn eich budd eich hun, fe fyddwch yn ymwybodol o beth yw hyn. Pan fyddwch chi’n edrych ar blant bach yn chwarae, mae adegau pryd y bydd un eisiau'r peth sydd gan y llall. Mae'r frwydr fewnol sydd yn digwydd i'r plentyn bach, yn penderfynu pa un ai i wneud y peth iawn a rhannu'r tegan gyda'r plentyn arall neu ei gadw iddo'i hun, yn amlwg ym mynegiant eu hwynebau.
- Dydy hyn ddim yn golygu fod yn rhaid i chi bob amser wneud yr aberthau a pheidio â byth roi'r lle cyntaf i chi eich hun. Pe digwydd hynny'n rhy aml, os ydych chi'n gorfod cydsynio â cheisiadau a dymuniadau pobl eraill bob amser, y diwedd fydd na fyddwch yn gwneud dim i blesio chi eich hun, ac sydd ddim yn deg ychwaith. Mae'r cyfan yn ymwneud â gwybod pryd i wneud aberthau, a pha bryd i fod yn gadarn a pheidio ag ildio'ch safle.
- Wrth droi'n ôl at y dyfyniad a roddais i chi ar ddechrau'r gwasanaeth, a oes unrhyw un ohonoch yn gwybod pwy biau'r geiriau hynny?
Mae'r geiriau’n cael eu priodoli i Iesu, a'i fod wedi eu hadrodd ychydig amser cyn iddo gael ei ddwyn gerbron y Rhufeiniaid a'i ddedfrydu i farwolaeth trwy gael ei groeshoelio. Gall Iesu yn wir fod yr enghraifft eithaf o hunanaberth, oherwydd ei fod, fel y mae Cristnogion yn credu, wedi marw er mwyn dangos i ni faint y mae Duw yn caru'r ddynoliaeth. Pa un ai a ydych chi'n credu yn Iesu ai peidio, mae ei eiriau - 'Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. ' (Ioan 15.13) - wedi cael eu defnyddio hefyd mewn cyd-destunau eraill. - Yn y lluoedd arfog, mae medal o'r enw Croes Victoria, sef y fedal neu’r gydnabyddiaeth filwrol uchaf, a roddir am weithredoedd o ddewrder eithafol. Yn aml caiff ei rhoi ar ôl i’r arwr farw (bydd y rhai sy'n cael eu hanrhydeddu eisoes wedi marw). Yn aml caiff ei rhoi i bobl sydd wedi aberthu eu bwyd fel bod pobl eraill yn cael byw. Yr ydym ni, fel bodau dynol, yn cydnabod anhunanoldeb y gweithredoedd hyn ac yn rhoi medalau yn gydnabyddiaeth, neu fel arwydd o werthfawrogiad i bobl gyffredin sydd wedi gweithredu mewn ffordd arbennig, am eu bod wedi rhoi eraill o flaen eu hunain i'r graddau lle maen nhw wedi talu'r gost eithaf, ac wedi colli eu bywyd eu hunain wrth wneud hynny.
Amser i feddwl
Felly, ydych chi wedi gwneud aberth dros eraill, ac a ydych chi'n gweld pobl eraill yn gwneud aberth ar eich cyfer chi?
Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am hynny heddiw.
Gobeithio y byddwch chi’n gallu gweld hunanaberth ar waith, ac y byddwch chi’n ddiolchgar am weithredoedd o'r fath, waeth pa mor fach y gallan nhw fod.
Gadewch i ni ddiweddu’r gwasanaeth gyda’r addasiad hwn o weddi.
Gweddi
Dysga ni, Arglwydd da, i dy wasanaethau di fel rwyt ti’n ei haeddu;
i roi ac i beidio â chyfrif y gost;
i ymladd, ac nid i gymryd sylw o’n clwyfau;
i lafurio a pheidio â cheisio cael gorffwys;
i weithio ac i beidio â gofyn am unrhyw wobr,
ar wahân i fod yn gwybod ein bod yn gwneud dy ewyllys di.
Amen.