Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfrinach Hapusrwydd

Hygge: y gyfrinach o Ddenmarc ynghylch hapusrwydd?

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried y cysyniad Danaidd o hygge, a’i gysylltiad posibl â hapusrwydd a lles.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

1.Dangoswch sleid 1:Gofynnwch y cwestiwn ‘Beth yw’r gyfrinach ar gyfer hapusrwydd?’

Naill ai casglwch ystod o syniadau gan y myfyrwyr, neu awgrymwch rai syniadau eich hunan: fel arian, grym, enwogrwydd, cyrhaeddiad.

2. Un wlad sy’n gwybod rhywbeth am y gyfrinach o hapusrwydd yw Denmarc. Yn 2015, dyma’r wlad a oedd yn y safle o fod y drydedd wlad hapusaf yn ôl Adroddiad Hapusrwydd y Byd.

Gallai hyn ymddangos yn ychydig o syndod, gan fod Denmarc yn ystod misoedd y gaeaf hyd yn oed yn oerach ac yn dywyllach na'r D.U. Dim ond pedair awr o heulwen y mae’r wlad yn ei gael yn y gaeaf, ac yno mae’r tymheredd cyfartalog yn 0 ° C. Fodd bynnag, rhywbeth sy'n bwysig iawn yn Nenmarc yw’r hyn maen nhw’n ei alw’n 'hygge' (caiff yr enw ei ynganu fel 'hoo-ga').

Dangoswch sleid 2.

3. Felly, beth yw hygge? Gwyliwch y clip fideo byr i glywed pobl o Ddenmarc yn ceisio esbonio beth yw hygee.

Dangoswch y clip https://www.youtube.com/watch?v=_mk-oOXmMl0.

4. Dangoswch sleidiau 3-6: Gyda’r sleidiau hyn fe allwch ddatgelu beth yw ystyr hygee ac atgyfnerthu'r syniadau a welwyd yn y fideo:
- daw’r gair o air Norwyaidd sy’n golygu 'lles'
- gellir cyfieithu’r gair hygge i olygu ystyr tebyg i'r geiriau Cymraeg canlynol: cysur, undod, clyd, ymlacio

5. Fodd bynnag, mae hefyd wedi cael ei nodi ‘doedd y gair hygge byth i fod i gael ei gyfieithu - yr oedd i fod yn rhywbeth y gallech chi ei deimlo' (addasiad o eiriau’r awdur Tove Maren Stakkestad).

Efallai y gallwn ni ddysgu rhywbeth oddi wrth y Daniaid: wrth i ni ruthro trwy fywyd, mae'n rhy hawdd anghofio aros, ymlacio, a gwerthfawrogi pethau syml a gwerthfawrogi’r bobl sydd o'n cwmpas ni.

Amser i feddwl

Dangoswch sleid 7:Defnyddiwch y gyfres o gwestiynau er mwyn annog y myfyrwyr i feddwl beth allan nhw ei ddysgu oddi wrth y syniad o hygge:
- Beth allech chi ei neud heddiw i aros a dod o hyd i ychydig o hygge?
- Gyda phwy y gallech chi rannu hygee?
- Beth yw’r hyn y mae angen i chi stopio ei wneud ar ryw bwynt heddiw i ddod o hyd i rywfaint o hygge?

Dangoswch sleid 8.

Gweddi 
Annwyl Dduw, 
Diolch i ti am ffrindiau a theulu.  
Diolch i ti am gwmnïaeth, ac am y bobl rydyn ni’n rhannu ein bywyd â nhw.
Helpa ni i aros i feddwl, a chymryd amser, heddiw i werthfawrogi ein gilydd, a gwerthfawrogi ein hamser hamdden. 
Helpa ni i wneud amser heddiw i ymlacio ac yn syml i ‘fodoli’, yn rhydd o bryderon a phethau sy’n tynnu ein sylw.  
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon