Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cadw’r tân dan reolaeth

Sut i reoli ein hangerdd (gwasanaeth yn defnyddio 200 mlwyddiant prawf cyntaf Lamp Davy i’w defnyddio mewn pyllau glo)

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried y rôl y mae teimladau personol yn eu chwarae o fewn eu perthnasoedd a’u prosiectau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

Arweinydd: Ers canrifoedd bu cloddio am lo yn ddiwydiant mawr nid yn unig yn y D.U. ond drwy weddill y byd sy’n datblygu. Glo oedd yn gyrru'r Chwyldro Diwydiannol yn bennaf, yr egni a ddefnyddiwyd fwyfwy i yrru'r peiriannau cymhleth a ddeilliodd o danio'r tanwydd ffosil. Wedi dweud hynny, roedd y gwaith o gloddio am y glo ynddo'i hun yn waith peryglus dros ben. Y broblem oedd nad glo oedd yr unig ddeunydd fflamadwy oedd i'w ganfod i lawr yn y pwll glo.

Darllenydd: Wedi ei gywasgu oddi mewn i'r haenau glo roedd cymysgedd o nwyon sy'n cael eu galw'n 'llosgnwy’ (firedamp). Fel yr oedd y glo yn cael ei gloddio, mae'r llosgnwy hwn yn cael ei ryddhau. Y cynhwysyn mwyaf yn y llosgnwy oedd methan, nwy fflamadwy dros ben. 
Roedd golau ar gyfer y mwynwyr yn cael ei ddarparu gan lampau olew, a phob un â fflam agored. Pan oedd y nwy methan yn cyrraedd at y fflam ar y lamp roedd ffrwydrad. Weithiau roedd y ffrwydrad mor ffyrnig fel bo siafft y gloddfa/pwll yn cael ei chwalu a llawer o fywydau yn cael eu colli.

Arweinydd:Rhoddwyd y dasg o ddyfeisio lamp fyddai'n ddigon saff i'w defnyddio mewn amgylchiadau lle'r oedd y llosgnwy yn bresennol. Yn dilyn arbrofion helaeth, cafodd prototeip o lamp Davy ei phrofi gyntaf oll 200 o flynyddoedd yn ôl, ar 9 Ionawr 1816, ym Mhwll Glo Hebburn yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Roedd yn cynnwys lamp olew gonfensiynol wedi ei gorchuddio â thiwb o we wifrog (wire gauze).

Dangoswch ddelwedd o Lamp Davy, os oes un ar gael.

Gweithiodd lamp Davy yn ddiogel oherwydd bod y we wifrog yn amsugno'r gwres o'r fflam ac yn atal y nwy methan rhag dod i gyswllt â'r fflam mewn digon o swm i achosi ffrwydrad. Yn hytrach roedd y nwy yn tanio'n araf, ac fel mater o ffaith roedd yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd ychwanegol ar gyfer y lamp. Oherwydd bod y we wifrog yn llawn o dyllau, roedd y golau a gynhyrchwyd yn rhoi digon o oleuni i'r glowyr weithio ynddo.

Darllenydd: Roedd y canlyniad yn fuddiol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, roedd y glowyr yn saffach yn eu gwaith. Roedden nhw'n gallu gweld i wneud eu gwaith a lleihaodd y nifer o farwolaethau yn enfawr. Yn ail, roedd gan y perchnogion fantais yn awr o wybod y gallai'r pyllau glo fod yn ddyfnach. Gellid cloddio yn awr am haenau newydd o lo, gan gynyddu maint y cynhyrchu a'r elw.

Amser i feddwl

Arweinydd:Beth yw maint eich lefelau egni? Dwyf fi ddim yn unig yn golygu pa mor hir y gallwch chi barhau gyda rhyw brosiect. Yr hyn rwy’n ei olygu yw beth sy'n eich tanio, neu beth sy'n eich gyrru tuag at lwyddiant, beth sy'n eich cymell? Pa bryd bynnag y byddwn yn dewis ymrwymo ein hunain i dasg neilltuol, mae rhywbeth yn rhoi'r awydd i ni ymwneud â’r dasg honno.

Darllenydd:Yn achos rhai pobl, mae hynny oherwydd eu bod yn meddu ar awydd mawr i ennill. Fe fyddan nhw'n mynd ati i hyfforddi, dioddef y boen, anwybyddu'r anawsterau, ac yn parhau nes y byddan nhw’n llwyddo yn y pen draw.

Arweinydd: Mae eraill yn credu'n angerddol bod rhaid gwneud yn iawn unrhyw beth sydd ddim yn iawn. Fe wnân nhw ymgyrchu, dadlau, gorymdeithio . . . beth bynnag mae'n ei olygu i ddwyn perswâd ar lywodraeth, neu gyngor, neu newid y farn gyhoeddus.

Darllenydd:Cymhelliant arall yw cariad. Er mwyn creu argraff ar rywun, i ennill eu cariad yn ôl, bydd rhai pobl, yn llythrennol, yn cerdded 500 milltir, neu rywbeth tebyg.

Arweinydd: Efallai y bydd gan unigolyn yr angen seicolegol i ymgymryd â sialensiau newydd: bydd ras 10k yn arwain at farathon, sy'n arwain at driathlon, ac ymlaen ac ymlaen.

Darllenydd: Yn olaf, mae'r rheini sydd â'u credoau crefyddol neu wleidyddol yn eu hysbrydoli i weithio er creu byd gwell. Mae'n debyg i'r glo a daniodd fwyleri peiriannau'r Chwyldro Diwydiannol i weithio. Dyma ein hangerdd.

Arweinydd: Fodd bynnag, gall angerdd fynd dros ben llestri. Gall ffrwydro weithiau, fel y methan a gafodd ei ryddhau, ac achosi niwed i ni ein hunain ac i eraill. Mae'n bosib  i ni orhyfforddi, ildio i gam-ddefnyddio cyffuriau, neu hyd yn oed gasáu ein gwrthwynebwyr er mwyn ennill.

Darllenydd:Gall protest heddychol droi'n gas wrth i rwystredigaeth arwain at drais.

Arweinydd: Yn drist, fe all cariad fod yn ddall yn aml, gan ein harwain at sefyllfaoedd hynod o chwithig.

Darllenydd:Fel mae un sialens yn arwain at un arall, mae'r cwestiwn yn aros bob amser ynghylch ble a pha bryd y bydd popeth yn mynd i ddod i ben.Allwn ni ddim mynd ymlaen am byth.

Arweinydd:Ac mae hyn yn ein gadael ni â'r penboethiaid crefyddol a gwleidyddol. Mae'r llyfrau hanes yn llawn o enghreifftiau o'r rhai a aberthodd enwogrwydd, perthnasoedd, a hyd yn oed fywyd ei hun dros achosion a brofwyd yn y pen draw i fod yn ddiffygiol.

Felly a ddylen ni i gyd ‘bwyllo’ ychydig? Na, dim o angenrheidrwydd. Fe hoffwn i weld myfyrwyr a staff yn yr ysgol hon sy’n teimlo’n ysbrydoledig am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Fe hoffwn i weld enillwyr, pobl sy'n caru, rhai sy'n ymladd yn erbyn anghyfiawnder, pobl sy’n barod i wynebu sialensiau, ac sy’n meddu ar gredoau dwfn. Fe hoffwn i'r ysgol hon fod yn un sy'n cael ei gyrru gan egni. Ond fe fyddwn yn awgrymu ein bod yn gwybod pa bryd ac ymhle i ddal ein hunain yn ôl. 
Efallai y dylem chwarae'r rôl hon ar gyfer ein gilydd, gan fentora a monitro fel nad ydym yn croesi'r ffin. Fe fyddem ychydig yn debyg i'r we wifrog sy'n amgylchynu'r fflam, sydd nid yn unig yn atal y ffrwydrad, ond sy'n caniatáu'r tân i losgi ychydig yn fwy disglair ac am ychydig yn hwy.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am yr hyn sy’n ei hysbrydoli ni i fod eisiau ymwneud â phethau.
Gad i ni adnabod beth sy’n ein hysgogi, a boed i ni adael i ni ein hunain gael ein llenwi ag egni trwy hynny.
Boed i ni gyda’n gilydd symud ymlaen mewn ffyrdd sy’n adeiladol a defnyddiol, heb ffrwydro nac achosi difrod.
Amen.

Cerddoriaeth

Light my fire’ gan The Doors

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon