Deall pobl eraill
Mae’r bwysig gwerthfawrogi oedran a phrofiad
gan Helen Gwynne-Kinsey
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gwerthfawrogi oedran a phrofiad.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi o flaen llaw.
Gwasanaeth
- A ydych chi erioed wedi clywed am y ‘bwlch rhwng cenedlaethau’ - y ‘generation gap’?
Mae'n derm sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer i gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng pobl o’r genhedlaeth iau a rhai yn y gymdeithas sy'n hyn. Pan fyddwn yn yr ysgol, yn treulio'r mwyafrif o'n hamser gyda phobl sydd o'r un oed â ni, gall fod yn hawdd iawn i ni weithiau anwybyddu'r bobl yn y gymdeithas sy'n hyn na ni. - Mae Cristnogaeth yn ein haddysgu bod y berthynas sydd gennym â'n gilydd yn bwysig dros ben. Yn Efengyl Mathew, fe ddywed Iesu pa bryd bynnag y bydd ei ddisgyblion yn gwneud rhywbeth da i eraill, mae'n union fel pe bydden nhw'n gwneud hynny iddo ef.Mae Cristnogion yn credu felly ei bod hi'n bwysig iawn dod o hyd i ffyrdd o adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, yn arbennig rhwng grwpiau o wahanol genedlaethau mewn cymdeithas.
- Un prosiect diweddar sydd wedi ceisio adeiladu pontydd rhwng cenedlaethau yw'r un sy'n cael ei alw 'The 1932 Intergenertional Project'. Sefydlwyd y prosiect hwn gan y Dr Louisa Evans, meddyg teulu sy'n gweithio mewn canolfan feddygol bentref yng Nghymru.
Daw'r enw - The 1932 Project - o adnod yn y Beibl, Lefiticus 19.32. Fe ddywed yr adnod, ‘Yr wyt i godi i’r oedrannus a pharchu’r hen’. - Yn anffodus, yn ein diwylliant modern, bydd pobl hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu gan eraill yn y gymdeithas, fel pe na fyddai ganddyn nhw bellach gyfraniad defnyddiol i'w gynnig i'r byd. Mae’r Beibl, fodd bynnag, yn gweld pethau mewn ffordd wahanol a phwysleisia’r ffaith bod y broses o ddysgu rhwng yr ifanc a'r hen yn gweithio'r naill ffordd â'r llall - gall siarad â'i gilydd ar draws y cenedlaethau ddod â budd mawr i'r naill grwp fel y llall.
- Pan ymwelodd Dr Evans â'i chleifion yn y cartref gofal lleol, fe sylweddolodd eu bod i gyd wedi byw bywyd diddorol ac amrywiol, eto byddai eu storïau a'u profiadau yn mynd yn golledig yn fuan. Felly, fe wahoddodd grwp o fyfyrwyr chweched dosbarth o ysgol leol i gasglu ffeil ynghyd, yn ystod pedair neu fwy o sesiynau cywain gwybodaeth, ar aelod o'u teulu neu gymydog oedd dros 75 mlwydd oed. Fe wnaeth pob un ddarlunio coeden ach o dair cenhedlaeth ar hanes cymdeithasol pob person, yn cynnwys eu haddysg, eu gwaith a’u cred ysbrydol.
Roedd y wybodaeth a gasglwyd yn amrywiol a diddorol, ond gwir werth y dasg oedd yn y ffaith bod y gwahanol genedlaethau wedi sgwrsio â'i gilydd, gan ddysgu'r naill oddi wrth y llall a chynyddu mewn parch tuag at ei gilydd.
Amser i feddwl
Meddyliwch am werth cymryd amser i sgwrsio gydag aelodau o'r genhedlaeth hyn.
Meddyliwch am y pethau y maen nhw wedi cael profiad ohonyn nhw mewn bywyd a sut y gall eu profiadau ein helpu ni i gael dealltwriaeth well o'r cerrig milltir y byddwn ni'n eu hwynebu yn ein bywyd.
A ydych chi'n adnabod pobl hyn sy'n unig? A ydych chi wedi cymryd amser ryw dro i sgwrsio gyda nhw? Efallai y bydden ni'n cael ein synnu â hanes eu bywyd pe bydden ni'n cymryd yr amser i wrando.
A allech chi fod yn ddelfryd ymddwyn dda ar gyfer eich cenhedlaeth a helpu i adeiladu perthnasoedd da â chenedlaethau eraill?
Gweddi
Annwyl Arglwydd,
Diolch i ti am bobl hyn sy'n rhan o'n bywyd ni.
Helpa ni i gydnabod eu doethineb a bod yn awyddus i ddysgu o'u profiadau.
Helpa ni i chwarae ein rhan i ddod â gwahanol genedlaethau at ei gilydd.
Amen.