Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pobl Ysbrydoledig: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson

Bywyd a llwyddiannau’r Paralympiad

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu llwyddiannau’r Paralympiad, y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o’r Farwnes Tanni Grey-Thompson a threfnwch fod gennych chi’r modd o’u harddangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint). Mae’n bosib gweld rhai enghreifftiau ar: http://tinyurl.com/nsc8hclhttp://tinyurl.com/pophg77
  • Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y Farwnes Tani Grey-Thompson, edrychwch ar:

    Seize the Day: My autobiographygan Tanni Grey-Thompson (Coronet, 2002)
    Aim Highgan Tanni Grey-Thompson (Whole Story Audiobooks, 2012)
    - Tanni’s website, ar:www.tanni.co.uk
    - WheelPower, British Wheelchair Sport's website, ar:www.wheelpower.org.uk
    - British Paralympic Association's website, ar:www.paralympics.org.uk

  • Efallai yr hoffech chi drefnu bod gennych chi recordiad o’r gân 'Firework' gan Katy Perry, neu'Eye on it' gan TobyMac, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Baralympiad enwog a charismataidd sy'n pledio'n gryf iawn dros hawliau'r anabl. 

    Dangoswch lun o'r Farwnes Tanni Grey-Thompson. 

  2. Cafodd Tanni ei geni gyda chyflwr meddygol 'spina bifida',a oedd yn golygu y byddai hi'n annhebygol o allu cerdded neu redeg, byth.

    Yn gwrthod rhoi i mewn i'r rhwystrau â’i hwynebai, ac wedi rhoi cynnig ar sawl math o chwaraeon, penderfynodd hyfforddi ei hun fel un fyddai'n rasio mewn cadair olwyn. Yn y flwyddyn 1984, enillodd fedal efydd yn y Gemau Cadair Olwyn Cenedlaethol i Ieuenctid, a symud ymlaen wedyn i gystadlu ar y lefel uchaf - y Gemau Paralympaidd. 

  3. Yn union fel y Gemau Olympaidd, bydd y Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd ac yn cwmpasu nifer amrywiol o chwaraeon. Fel un sy’n rasio cadair olwyn - ymhlith y gorau yn y byd - mae Tanni wedi cymryd rhan mewn 4 o’r Gemau Olympaidd, gan ennill cyfanswm o 16 o fedalau, ac o'r rheini, roedd 11 ohonyn nhw’n  fedalau aur. Mae hi hefyd wedi ennill Ras Farathon Llundain i Ferched mewn Cadair Olwyn 6 o weithiau, 13 o fedalau Pencampwriaeth y Byd, ac wedi dal 30 o recordiau byd yn ei maes trwy gydol ei gyrfa mewn chwaraeon. 

  4. Mae Tanni yn cael ei hystyried yn arloeswraig, ac yr oedd ymhlith yr athletwyr anabl cyntaf i gysylltu ei hun â dilynwyr chwaraeon prif-lif. Nid yn unig ei llwyddiant fel chwaraewraig sydd wedi dod â hi i amlygrwydd a chodi statws chwaraeon i'r anabl, ond hefyd ei chymeriad cryf ac union. Mae hi bob amser wedi osgoi'r geiriau 'piti' neu 'ddewr', gan herio'r safbwynt ei bod hi wedi gorfod goresgyn anawsterau o'i gymharu ag eraill. Mae hi bob amser wedi teimlo'n lwcus o fod wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth ei theulu a'r cyfleoedd y mae hi wedi eu cael. 

  5. Mae bod yn athletwr gyda'r gorau mewn unrhyw chwarae yn gofyn am ymrwymiad enfawr a gwaith caled. Yn aml, gall canolbwyntio ar gyflawni nodau uchel olygu gorfod aberthu. Roedd camp Tanni o rasio mewn cadair olwyn yn golygu hyfforddi ym mhob math o dywydd ac, fel unrhyw athletwr arall, yn golygu goresgyn unrhyw siomedigaethau pan oedd pethau'n mynd o chwith.

    Fel llawer o bobl lwyddiannus iawn, athroniaeth Tanni yw un o gryfder - i ddal ati i ymdrechu. Cymerodd yr anogaeth hon o ddywediad o eiddo'i thaid: ‘Anelwch yn uchel hyd yn oed os byddwch yn taro cabetsien!’ (‘Aim high even if you hit a cabbage!’) Mae hyn yn golygu os nad ydych yn gallu cyrraedd eich nodau mewn bywyd, rydych yn ennill llawer trwy ymdrechu. Y ffordd fwyaf tebygol y byddwch yn cyflawni eich nodau yw trwy waith hynod o galed a heb fod ofn methu.

    Y ddealltwriaeth hon sydd wedi galluogi Tanni i adlamu ar ôl rhai o'r cyfnodau caletaf yn ei bywyd. Er enghraifft, flwyddyn ar ôl llawdriniaeth ar ei hasgwrn cefn, enillodd bedair medal aur yng Ngemau Paralympaidd Barcelona yn y flwyddyn 1992. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn y flwyddyn 1996, fe gollodd mewn modd dramatig, y ras 800-metr yng Ngemau Paralympaidd Atlanta. Er gwaethaf y ffaith i bobl golli ffydd ynddi, trodd Tanni bethau rownd ac yn y diwedd fe enillodd y ras 100-metr, gan arddangos cryfder ymenyddol enfawr ar ei rhan. 

  6. Bu Tanni yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl, yn cynnwys yr abl yn ogystal â'r anabl, mewn chwaraeon ac mewn meysydd eraill. Mae pobl wedi cael eu hysbrydoli gan ei hymrwymiad, sydd wedi dod â hi at binacl o gyflawniad ym myd chwaraeon yn ei dewis faes, a'i gwneud yn llysgennad rhyngwladol o blaid para-chwaraeon. Mae pobl hefyd wedi cael eu hysbrydoli gan ei hagwedd tuag at y rhwystrau y mae hi wedi eu goresgyn â'r fath agwedd bositif ac ysbrydoledig.

  7. Ymddeolodd Tanni o'r byd rasio yn y flwyddyn 2007, a bellach mae hi'n rhoi ei hamser i helpu pobl eraill mewn chwaraeon, ynghyd â bod yn pledio'n gryf dros achos hawliau'r anabl. Derbyniodd yr anrhydedd fwyaf, trwy gael ei dyrchafu’n farwnes y bobl yn Nhy’r Arglwyddi, a chafodd ei chyflawniadau eu cydnabod mewn sawl ffordd arall hefyd, fel derbyn nifer o raddau prifysgol er anrhydedd. 

  8. Pan gafodd Tanni ei geni yn y flwyddyn 1969, nid oedd pobl mor oleuedig ynghylch anableddau, fel heddiw, ac roedd agweddau pobl yn bur wahanol bryd hynny. Mae Tanni wedi mynegi bob amser pa mor lwcus yr oedd hi o gael ei geni i deulu â rhieni a oedd yn rhoi cymaint o anogaeth iddi ac yn ei chymell. Nid yw'n gweld ei hun fel un a gafodd unrhyw un o anfanteision bywyd, er y bu digon o adegau pryd y bu raid iddi ymladd yn ôl ar y maes chwarae ac oddi arno.

    Nid yw athroniaeth Tanni yn datgan fod cerdded yn dda a dim cerdded yn ddrwg. Iddi hi, roedd bod mewn cadair olwyn yn rhoi mwy o symudedd iddi, nid llai. Ni fu hyn byth yn fodd i'w hatal rhag gwneud unrhyw beth yr oedd yn dymuno'i wneud. Mae hi'n teimlo'n flin os yw pobl yn edrych ar yr hyn na all ei wneud yn hytrach na'r hyn y mae’n gallu  ei wneud. Mae Tanni yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl.

Amser i feddwl

Cafodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson ei geni ag anabledd symudedd, ond yn ei gweithredoedd a'i hagwedd mae hi wedi dangos bob amser nad oedd hynny’n mynd i'w hatal rhag gosod nodau iddi ei hun a chyflawni'r hyn yr oedd hi ei angen ei wneud.

Dangosodd Tanni ei hun fel un sy'n benderfynol dros ben ac yn ymrwymedig iawn i gyflawni ei nodau. Treuliodd lawer awr hir yn hyfforddi ym mhob tywydd ac mewn amgylcheddau digon digysur, fel meysydd parcio ceir aml-lawr, er mwyn perffeithio'i galluoedd rasio. Nid oedd pethau’n mynd yn dda bob amser ac roedd ei llwybr tuag at bodiwm yr enillwyr rhyngwladol wedi ei balmantu ag atalfeydd, ond ymlaen yr aeth hi.

Gallwn ddysgu oddi wrth gyflawniadau Tanni a'i hathroniaeth sy'n datgan fod siomedigaethau yn rhan o daith bywyd, ac yn bethau sy’n dod i ran pawb ohonom. Nid yn unig yr oedd Tanni wedi paratoi ei hun yn gorfforol ar gyfer ei rasio ond hefyd roedd ei hathroniaeth ymenyddol yn gryf a chadarnhaol. Ei harwyddair oedd peidio byth â chredu nad oedd modd iddi wneud neu ymgeisio gwneud rhywbeth. Mae hi bob amser yn cyfleu ysbryd cadarnhaol mawr ac mae hi wedi dysgu delio ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd. Fe wynebodd Tanni sialensiau enfawr ac fe enillodd.

A oes gennym ni agwedd sy'n debyg? 
A ydyn ni'n ei chael hi'n hawdd rhoi'r ffidil yn y to pan ddeuwn at y glwyd gyntaf, neu a ydyn ni’n dal ati?

Gweddi
Annwyl Arglwydd,
Diolch i ti am stori ysbrydoledig y Farwnes Tanni Grey-Thompson.  
Helpa ni i wynebu'r sialensiau yn ein bywyd ni ein hunain â dewrder a phenderfyniad. 
Amen.

'Firework' gan Katy Perry
'Eye on it' gan TobyMac

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon