Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pobl Ysbrydoledig: Yr Athro Stephen Hawking

Ei fywyd a’i lwyddiannau

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd a llwyddiannau'r Athro Stephen Hawking.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o’r Athro Stephen Hawking, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint). Mae’n bosib dod o hyd i rai enghreifftiau ar wefan Stephen Hawking (ar:www.hawking.org.uk).

  • Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am fywyd Stephen Hawking, fel y byddwch yn gallu ateb cwestiynau, gwelwch amlinelliad o brif ddigwyddiadau ar wefan iWonder y BBC (ar:www.bbc.co.uk/timelines/zwjmtfr).

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘I believe I can fly’ gan R. Kelly neu ‘Hero’ gan Mariah Carey, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. A allwch chi feddwl am ryw adeg pan wnaethoch chi deimlo'n anobeithiol wrth ddelio â sefyllfa anodd? A ddywedodd rhywun wrthych ryw dro, ‘Peidiwch â rhoi'r gorau iddi’?

    Weithiau pan ydym yn wynebu amgylchiadau anodd cawn ein temtio i roi'r ffidil yn y to – rhoi’r gorau iddi. 

  2. Mae'r Athro Stephen Hawking - un o'r gwyddonwyr mwyaf yn y byd sy'n fyw heddiw - yn enghraifft ffantastig o unigolyn sydd ddim wedi rhoi'r ffidil yn y to erioed Yn hytrach, fe ddangosodd ddewrder anhygoel yn wyneb trallod mawr.

  3. Cafodd Stephen Hawking ei eni ym mis Ionawr, 1942. Pan oedd yn blentyn, a hyd yn oed nes ei fod yn ei lencyndod, roedd Stephen yn cael ei ystyried yn unigolyn diog, yn un a oedd yn hwyr yn datblygu wrth geisio ymdopi â dysgu darllen ac ysgrifennu. Fodd bynnag, daeth yn eglur yn fuan, ei fod yn fachgen deallus dros ben, ac yn y pen draw fe gafodd le i astudio ffiseg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio, symudodd Stephen i Gaergrawnt er mwyn parhau â'i waith ymchwil i gosmoleg. 

  4. Yn fuan ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 21 oed, â'i obeithion a'i freuddwydion i gyd o'i flaen, cafodd Stephen y newydd drwg bod y cyflwr  sglerosis 'amyotrophic lateral sclerosis' (ALS) arno, sydd yn ffurf ar yr afiechyd niwron echddygol 'motor neurone disease' (MND). Dros amser, mae'r cyflwr hwn yn cael effeithiau gwanychol ar ran fwyaf o holl organau’r corff, gan achosi parlys yn y pen draw. 

    Yn naturiol, i Stephen roedd y newydd hwn yn newydd ysgytwol ac, ar y dechrau, roedd yn ddig ac yn ddigalon iawn. Byddai wedi bod yn hawdd iawn iddo fod wedi rhoi'r ffidil yn y to yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, fe roddodd sawl peth a ddigwyddodd yn ei fywyd ar y pryd symbyliad iddo. Fe wnaeth gyfarfod â’r ferch a ddaeth yn wraig gyntaf iddo. Hefyd, roedd ganddo hoffter angerddol am wyddoniaeth a gwybodaeth, ac yn fwy na hynny fe sylweddolodd bod rhai pobl mewn cyflwr iechyd gwaeth nag ef ei hun (gwelodd ddyn ifanc yn marw o'r lewcemia pan oedd yn yr ysbyty). Oherwydd hyn i gyd, fe gafodd y dewrder i geisio gwneud y gorau o'i fywyd. 

  5. Aeth Stephen ati i gwblhau ei radd ddoethuriaeth PhD mewn ffiseg ddamcaniaethol ac ymhellach ymlaen fe ddaeth yn Athro yng Nghaergrawnt ac yn awdur. Caiff ei adnabod bellach drwy'r byd am ei waith a'i ddarganfyddiadau gwyddonol. 

  6. Dros y blynyddoedd, mae cyflwr corfforol Stephen wedi dirywio, er ei fod wedi byw llawer o flynyddoedd yn hwy na'r hyn yr oedd ei feddygon yn ei ragdybio. Pan oedd yn ei bedwardegau, bu raid iddo gael tynnu ei laryncs neu ei flwch llais yn dilyn cyfnod yn dioddef o niwmonia. Fe achosodd hyn iddo golli'r gallu i siarad heb gymorth blwch llais synthetig. Heddiw, mae Stephen wedi ei barlysu'n gyfan gwbl ac eithrio'r cyhyr yn un foch ar ei wyneb. Mae'n gorfod cael gofal bedair awr ar hugain y dydd, eto mae'n parhau i gyfrannu tuag at feysydd cosmoleg a disgyrchiant cwantwm, gan arddangos cryfder a dewrder enfawr. 

  7. Fel llawer o bobl eraill ag anableddau, nid yw Stephen erioed wedi dymuno i'w anabledd ddiffinio pwy yw mewn gwirionedd. Gwyddonydd ac awdur gwyddonol poblogaidd cydnabyddedig yn rhyngwladol yw Stephen, sydd yn fwyaf enwog am ei waith ar dyllau duon, cosmoleg a disgyrchiant cwantwm. Cyhoeddodd ddau hunangofiant, ysgrifennodd lawer o lyfrau, yn cynnwys storïau i blant. Derbyniodd 12 o raddau prifysgol er anrhydedd a'r CBE. Mae ganddo dri o blant a thri o wyrion ac mae'n parhau i deithio'n eang a rhoi darlithoedd yn gyhoeddus. Mae'n gobeithio hefyd, ryw ddydd, y bydd yn gallu teithio i'r gofod!

  8. Mae'r Athro Stephen Hawking yn ddelfryd ymddwyn eithriadol, yn nhermau ei gyflawniadau amlwg yn ogystal â'r modd y mae yn dangos dewrder anhygoel ac angerdd tuag at fywyd. 

    Gall dysgu am stori ei fywyd ein hysgogi ni i fod y gorau y gallwn ni ei fod, a'n hannog i beidio byth â rhoi'r ffidil yn y to ynglyn â’r pethau hynny yr ydym yn ymdrechu ac yn gobeithio amdanyn nhw. Os nad ydych eisoes wedi ei gweld, mae ffilm a wobrwywyd ag Oscar am fywyd Stephen Hawking, o'r enw The Theory of Everything.

Amser i feddwl

Ers ei ugeiniau cynnar, fe wynebodd yr Athro Stephen Hawking lawer o sialensiau a allai fod wedi ei wneud yn ddigalon. Er gwaethaf y rhain, fe wrthododd adael iddyn nhw ei atal rhag byw ei fywyd i'r eithaf. Mae Stephen yn enghraifft wych, sy'n wynebu anawsterau bywyd yn ddewr heb roi'r ffidil yn y to, waeth beth yw'r amgylchiadau.

Gadewch i ni oedi am foment i feddwl am y dyfyniad canlynol gan Stephen Hawking:

'Remember to look up at the stars and not down at your feet. Try to make sense of what you see and wonder about what makes the universe exist. Be curious. And however difficult life may seem, there is always something you can do and succeed at. It matters that you don’t just give up.'

Sut mae cymhwyso'r dyfyniad hwn i’n bywyd ni a'r amgylchiadau y cawn ein hunain ynddyn nhw?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i werthfawrogi’r holl bethau sydd gennym, a’r holl bethau rydyn ni’n gallu eu gwneud.
Diolchwn i ti am bobl fel yr Athro Stephen Hawking, sy’n dangos cymaint o ddewrder ac sy’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.
Helpa ni beidio byth â rhoi’r gorau i bethau, ond bob amser i ddyfalbarhau gyda’n huchelgais a’n gobeithion.
Amen.

Cerddoriaeth

I believe I can fly’ gan R. Kelly neu ‘Hero’ gan Mariah Carey

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon