Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Hanner gwag neu hanner llawn?

Byw yng ngoleuni’r atgyfodiad

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog cymryd agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen potel o ddwr, neu ddiod feddal, hanner gwag/hanner llawn.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân‘The only way is up’ gan Yazz, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd:Daliwch y botel sy’n dal y dwr neu’r ddiod feddal i fyny er mwyn i bawb ei gweld.

Beth sydd gen i yma?

Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion, gan ofalu eich bod wedi clywed rhywun yn dweud ‘hanner gwag’ a rhai eraill yn dweud ‘hanner llawn’.

Felly, a yw'r botel hon yn hanner gwag neu a yw hi'n hanner llawn? Mae'n dibynnu ar y ffordd y byddwch yn edrych arni. Bydd rhai pobl yn canolbwyntio ar y ffaith bod peth o'r ddiod eisoes wedi mynd, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar y ffaith bod o leiaf hanner y ddiod ar ôl o hyd.

Mae hon yn ddelwedd dda o'r modd y mae gwahanol bobl yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn eu bywyd. Mae rhai yn canolbwyntio ar yr holl bethau sy'n mynd o chwith, gan ddeffro bob bore gyda theimlad o ofn, tra bod eraill yn canolbwyntio ar y pethau sy'n mynd yn iawn. Fe allan nhw hyd yn oed arddangos eu hymateb gwrthgyferbyniol i'r union sefyllfaoedd.  Er mwyn dangos hyn, fe allech chi ofyn un cwestiwn bach syml i bawb yr ydych yn ei gyfarfod, ‘Sut ydych chi heddiw?’

Rhywbeth tebyg i hyn ddigwyddodd i'r cymeriadau a oedd ynghlwm wrth stori'r Pasg, ac eithrio mai'r Iesu yn unig allai weld y wedd bositif i'r digwyddiadau fel yr oedden nhw'n datblygu.

Darllenydd 1: (Yn ddramatig.) O na! Beth wnawn ni? Maen nhw wedi restio Iesu. Dyma'r diwedd. Roedd yr holl bobl nerthol hynny ar ei ôl ac yn awr mae o wedi ei ddal ganddyn nhw.

Darllenydd 2: (Yn dawel.)Mae'r cyfan yn digwydd yn unol â'r cynllun.

Darllenydd 1: (Yn ddramatig.)O! Maen nhw'n ei guro! Maen nhw eisiau torri ei ysbryd cyn iddo gael ei ddwyn o flaen y llys. Maen nhw'n mynnu ei fod yn cyffesu.

Darllenydd 2: (Yn dawel.) Dyma'r hyn yr wyf wedi bod yn ei addysgu i chi dros y misoedd diwethaf hyn. Mae'n rhaid i mi ddioddef. Mae hyn yn parhau yn rhan o'r cynllun.

Darllenydd 1: (Yn ddramatig.)O! Nawr, maen nhw'n ei ddedfrydu i farwolaeth, marwolaeth ddychrynllyd - croeshoeliad.

Darllenydd 2: (Yn dawel.)Wedi dweud hynny, doedden nhw dim yn gallu fy nghael yn euog o ddim byd. Rwy'n ddyn hollol ddiniwed.

Darllenydd 1:(Yn ddramatig.)Mae o wedi marw. Dyma'r diwedd yn wir. Ar y dydd Gwener hwn, fe ddymchwelodd ein byd cyfan. Does gennym ni unlle i fynd iddo, a dim byd bellach i fyw er ei fwyn.

Darllenydd 2: (Yn dawel.)Cofiwch yr hyn a ddywedais wrthych chi - y byddaf yn dod yn fyw eto ymhen tridiau. Arhoswch tan y Sul.

Arweinydd:Mae Cristnogion yn credu bod Iesu, ar Sul y Pasg cyntaf, wedi atgyfodi, wedi dod yn ôl yn fyw, gan herio disgwyliadau ei ffrindiau yn ogystal â'i elynion. Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn dangos y ffaith fod daioni'n drech na drygioni, bod bywyd yn gryfach na marwolaeth, bod goleuni yn llewyrchu trwy'r tywyllwch, bod y botel sy'n hanner llawn yn rhagori ar botel sy'n hanner gwag.

Amser i feddwl

Mae yna gwestiwn allweddol sydd angen ei ateb. Ai dim ond dweud mai arch-optimist oedd Iesu ydw i, ac mai mater o'i feddylfryd neu’r ffordd yr oedd yn meddwl yn unig ydoedd?

Fel mater o ffaith, roedd agwedd Iesu tuag at yr hyn a oedd yn digwydd yn tarddu o'r gred gadarn bod ei ddioddefaint a'i farwolaeth yn rhan angenrheidiol o gynllun mwy. Y cynllun mwy oedd y cynllun hwnnw yr oedd Duw y Tad yn y broses o’i ddangos, sef mai ef, ac ef yn unig, a oedd yn rheoli'r bydysawd. Mewn geiriau eraill, byddai daioni yn y pen draw yn ennill goruchafiaeth lwyr dros ddrygioni.

Ni ellir gwadu ein bod yn byw mewn byd lle mae da yn bodoli yn ogystal â drwg. Yn y newyddion, byddwn yn gweld a chlywed storïau am bobl sy'n ddewr iawn ac yn anhunanol yn gwneud daioni i eraill.

Efallai y byddwch yn dymuno rhoi enghreifftiau o storïau cyfoes sydd yn y newyddion.

Wedi dweud hynny, mae yna gymaint o storïau hefyd am bobl sydd, am nifer o wahanol gymhellion, yn cyflawni gweithredoedd yn erbyn pobl eraill na ellir ond eu disgrifio fel rhai drygionus.

Unwaith eto, efallai y byddwch yn dymuno rhoi enghreifftiau o storïau cyfoes sydd yn y newyddion.

Ar adegau, fe fyddai'n hawdd dod i gasgliad bod drygioni yn cael y llaw uchaf, fydd pethau ddim ond yn gwaethygu ac fe fyddwn i gyd wedi ein tynghedu. Dyna fyw yn ôl dull y botel sy'n hanner gwag.  Ar ei waethaf, mae'n arwain rhai pobl i roi diwedd ar eu bywyd. Ar ei orau, y canlyniad yw agwedd besimistaidd tuag at heddiw, yfory a'r dyfodol. Efallai mai fel hyn yr ydych chi'n teimlo am gyflwr eich bywyd ar hyn o bryd.

Oherwydd stori'r Pasg, fodd bynnag, mae Cristnogion yn credu bod pethau, o reidrwydd, yn wahanol iawn. Maen nhw'n ystyried atgyfodiad Iesu fel cadarnhad fod daioni, yn y pen draw, yn cael y gorau dros ddrygioni ac, yn y diwedd, y bydd pethau'n dod yn iawn.  

Mae'r gred yn y cynllun hirdymor hwn yn taflu golau newydd ar y digwyddiadau a wynebwn yn ein bywyd. Mae stori'r Pasg hefyd yn dangos y bydd adegau anodd ar hyd taith bywyd yn ogystal ag adegau da. Mae Cristnogion yn credu, wrth droi at yr atgyfodiad, y gallan nhw weld fod y botel o leiaf bob amser, yn hanner llawn. Maen nhw hefyd yn credu, er bod rhai pobl wedi eu bendithio â mwy o synnwyr optimistaidd nag eraill, mae'n bwysig credu yn nerth Duw neu yn nerth daioni.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am stori’r Pasg, gyda’i digwyddiadau drwg a’i digwyddiadau da.
Atgoffa ni ei bod yn stori sy’n diweddu gyda buddugoliaeth daioni dros ddrygioni.
Boed i hyn roi synnwyr cadarnhaol i ni y gallwn ni ddelio â phob anhawster y mae bywyd yn ei daflu atom.
Amen.

Cerddoriaeth

The only way is up’ gan Yazz

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon