16 Richmond
Archwilio a deall safbwynt gwrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Archwilio a deall safbwynt gwrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd ac un Darllenydd.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, 'Roar' gan Katy Perry, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
Arweinydd:Yn ystod y flwyddyn 2014, roeddem yn dwyn i gof yr adeg pryd y dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu digwyddiadau yma a thraw trwy'r wlad, gwaith celf godidog yn cynnwys y myrdd pabïau coch ceramig yn Nhwr Llundain, hysbyseb Nadolig ar thema'r rhyfel hyd yn oed ar y teledu, ond mae'n hawdd i ddigwyddiadau o'r fath gilio'n hamddenol i gefndir ein hatgofion.
Rhywbeth tebyg oedd y feddylfryd a oedd ar waith gan mlynedd yn ôl. Pan dorrodd y newydd fod y rhyfel wedi dechrau, bu'r ymateb yn un o wladgarwch enfawr, gyda dynion yn gwirfoddoli mewn niferoedd mawr i wasanaethu ar y Ffrynt. Fel yr aeth amser heibio, fodd bynnag, a'r brwydrau yn Ffrainc a Gwlad Belg yn rhygnu ymlaen a dynion wedi eu hanafu’n dychwelyd gan adrodd hanesion erchyll am fywyd a marwolaeth yn y ffosydd, gwanhaodd y brwdfrydedd. O ganlyniad doedd dim modd i'r niferoedd o wirfoddolwyr gyflenwi'r angen i gymryd lle’r dynion a oedd wedi cael eu hanafu a’u lladd.
Ym mis Ionawr 1916, fe benderfynodd llywodraeth Prydain ar y pryd i basio'r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol. Dan y Ddeddf honno, a ddaeth i rym ym mis Mawrth 1916, roedd yn orfodol i bob dyn sengl rhwng 18 a 41oed riportio ar gyfer gwasanaeth gweithredol. Erbyn mis Mai 1916, roedd y gorchymyn wedi cael ei ymestyn i gynnwys dynion priod o'r un ystod oedran. Roedd hyn yn orfodol, nid oedd dewis ar gael.
Darllenydd: Beth am y dynion hynny nad oedd eisiau cefnogi'r rhyfel? Roedd ganddyn nhw bob math o resymau dros wrthwynebu. Roedd rhai ohonyn nhw’n gwrthwynebu ar sail eu daliadau crefyddol. Roedden nhw'n credu bod y Beibl yn dweud wrthym na ddylem ladd neb, ac roedd Iesu'n hollol eglur pan orchmynnodd i'w ddilynwyr garu eu gelynion. Roedd dynion eraill yn credu'n syml bod rhyfel yn rhywbeth anghywir, neu ei fod wedi dechrau ar delerau gwleidyddol eithaf simsan, fel ty o gardiau yn dymchwel.
Arweinydd: Mae hynny'n hollol wir. Felly, roedd cymal yn y Ddeddf yn eithrio 'gwrthwynebwyr cydwybodol' o wasanaeth milwrol. Fodd bynnag, fe sicrhaodd yr Arglwydd Kitchener, - y dyn a oedd yn ymddangos ar y posteri enwog, yn pwyntio a datgan, ‘Your country needs you’ - fod gwrthwynebwyr cydwybodol yn parhau i gael eu gorfodi i ymuno fel arfer, ond yn ymuno â'r Gatrawd Ddi-Ymladd, ac yn ymgymryd â dyletswyddau cefnogol. Roedd hyn yn golygu, er nad oedd y dynion hyn yn rhan o'r ymladd, roedden nhw'n parhau i ddarparu gwasanaeth yn y cefndir - fel y byddai’r dynion eraill yn gallu ymladd.
Darllenydd:A oedd hynny'n ddigon i dawelu'r gwrthwynebwyr?
Arweinydd:Na, nid y cyfan ohonyn nhw. Roedd ychydig rai a oedd yn parhau i herio'r consgripsiwn. Cafodd y grwp mwyaf enwog o'r rhain eu hadnabod fel ‘The Richmond 16’, wedi eu henwi felly oherwydd eu bod wedi cael eu carcharu yng Nghastell Richmond yn Swydd Efrog.
Darllenydd:Sut fath o ddynion oedden nhw?
Arweinydd: Un ohonyn nhw oedd canolwr blaen Clwb Pêl-droed Sunderland. Myfyrwyr Astudiaethau Beiblaidd oedd rhai. Roedd eraill yn dal swyddi cyffredin mewn busnesau a ffatrïoedd, yn bennaf yng Ngogledd Lloegr. Roedd y mwyafrif, ond nid pob un, yn gwrthwynebu ar sail grefyddol. Doedden nhw ddim yn fodlon bod yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd oedd yn cefnogi achos y rhyfel. Roedden nhw'n credu bod unrhyw ryfel yn anghywir. Yr enw a fathwyd amdanyn nhw oedd y ‘diamodwyr’ neu ‘absolutists’.
Darllenydd:Felly, beth ddigwyddodd iddyn nhw? A wnaethon nhw dreulio'r rhyfel i gyd yn y carchar?
Arweinydd: Dyn ystyfnig iawn oedd yr Arglwydd Kitchener. Nid oedd yn fodlon o gwbl pan nad oedd yn cael ei ffordd ei hun, a gorchmynnodd symud y ‘Richmond 16’ i Ffrainc, i'r Ffrynt Gorllewinol. Pe bydden nhw'n gwrthod cydymffurfio â gorchmynion yn y fan honno, ym mhresenoldeb y gelyn, fe fydden nhw'n cael eu hystyried yn encilwyr ac yn cael eu saethu. Digwyddodd dau ddigwyddiad arwyddocaol, fodd bynnag, a olygodd fod bywyd y dynion hyn wedi cael eu hachub.
Yn gyntaf, ar y daith trên o Swydd Efrog i'r arfordir, er mwyn croesi'r Sianel, llwyddodd un o'r 16 i daflu nodyn allan drwy'r ffenestr wedi ei gyfeirio at ei AS, Arnold Rowntree, diwygiwr cymdeithasol. Roedd y nodyn yn ymwneud â thynged yr 16 dyn, ac fe rybuddiodd Arnold Rowntree y prif weinidog ar y pryd, sef Herbert Asquith.
Yn ail, ar 5 Mehefin, bu farw'r Arglwydd Kitchener ar y môr.
Roedd pob un o'r Richmond 16 wedi bod gerbron cwrt-marsial am wrthod ufuddhau i orchmynion, ac wedi cael eu dedfrydu i gael eu saethu ar 14 Mehefin 1916, am fod yr Arglwydd Kitchener eisiau gwneud enghraifft ohonyn nhw. O ganlyniad i'r ddau ddigwyddiad, fodd bynnag, cafodd eu dedfryd ei newid ar unwaith, gan y prif weinidog, i ddedfryd o ddeg mlynedd o lafur caled.
Darllenydd:Felly, ai dyna fu diwedd ar bethau? Tybed a wnaethon nhw dreulio cyfnod y rhyfel fel hynny, tan 1918, ac yna mynd ymlaen â'u bywydau?
Arweinydd: Na, nid dyna sut bu pethau mewn gwirionedd. Fe wnaethon nhw dalu'n ddrud am wrthwynebu drwy gydol eu bywyd wedyn. Chawson nhw mo'u rhyddhau o’r carchar tan y flwyddyn 1919, ymhell ar ôl y Cadoediad. Fe gawson nhw'u trin fel alltudion cymdeithasol yn eu cymunedau cartref, ac fe gawson nhw drafferth fawr i setlo'n ôl yn eu hen swyddogaethau. Ni roddwyd yr hawl iddyn nhw fwrw pleidlais am bum mlynedd wedi hynny, ac fe ddioddefodd llawer ohonyn nhw niwed seicolegol.
Darllenydd: Felly, a oedd y gwrthwynebwyr cydwybodol yn ddynion dewr neu'n ddynion llwfr?
Amser i feddwl
Mae llawer o grefyddau mawr y byd yn cytuno ei bod hi'n anghywir i ladd pobl, eto mae'r mwyafrif o'r credinwyr wedi bod yn fodlon ymladd mewn rhyfeloedd. Safbwynt y lleiafrif fu heddychiaeth erioed, fel yr amlygwyd hyn yn y dadleuon a gafwyd y ddiweddar yn y Senedd am y rhyfel yn Irac, Libya a Syria. Mae'n cymryd rhywun dewr i sefyll dros egwyddor yn wyneb gwawd cyhoeddus a phreifat.
Mae yna faterion eraill hefyd, sydd, yn ein cymdeithas heddiw, yn cyflwyno penblethau cyffelyb. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel croesawu mewnfudwyr, rhoi cymorth i'r gwledydd hynny sydd fwyaf anghenus yn y byd, rhoi heibio arfau niwclear ataliol y DU, ac ati. Oddi mewn i gylch eich teulu neu'r ysgol hon, gallwch yn hawdd ganfod eich hun yn y lleiafrif mewn perthynas â rhai dadleuon.
Efallai, ar y pwynt hwn, y byddwch yn dymuno disgrifio sefyllfa berthnasol y tu mewn i'ch ysgol.
Pa mor gadarn yw eich egwyddorion? Pa fath o wrthwynebiadau ydych chi'n eu hwynebu? Pa mor bell ydych chi'n fodlon mynd i sefyll yn gadarn? Pa aberthau a risgiau ydych chi'n fodlon eu gwneud?
Mewn democratiaeth, mae'r hawl gan bob un ohonom i'n daliadau a'n safbwyntiau personol, ynghyd â'r hawl i roi llais iddyn nhw. Y cwestiwn yw, a oes gennym y dewrder i wneud hynny o ddifrif?
A oedd ‘The Richmond 16’ yn ddynion llwfr am iddyn nhw beidio â bod yn fodlon cymryd y risg o farw ar y Ffrynt, neu a oedden nhw'n ddynion dewr a oedd yn credu y dylen nhw yn hytrach ymladd dros egwyddor bwysicach? A yw'n beth haws i’w wneud, neu’n beth llwfr, i gyd-fynd â'r mwyafrif pan fydd gwahaniaeth barn lle rydych chi? Beth sydd bwysicaf - bywyd tawel neu sefyll dros yr hyn a gredwch ynddo?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr egwyddorion rwyt ti’n eu rhoi i ni i’n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sy'n dda a’r hyn sy’n ddrwg.
Atgoffa ni o hyn bob dydd wrth i ni ymdopi â’r busnes cymhleth o fyw gyda’n gilydd.
Gad i ni fod yn ddigon dewr i sefyll yn gadarn dros yr hyn rydyn ni’n credu ynddo, a gad i ni fod yn ddigon grasol i wrando ar safbwyntiau pobl eraill.
Amen.
Cerddoriaeth
‘Roar’ gan Katy Perry