Pobl ysbrydoledig: Stephen Sutton
Ei fywyd a’i gyflawniad
gan Philippa Rae
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu bywyd a chyflawniad Stephen Sutton.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch rai delweddau o Stephen Sutton, a threfnwch fod gennych chi ffordd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint). Gwelwch y llun enwog ohono’n dal ei fodiau i fyny, a lluniau eraill ar:http://tinyurl.com/z35737a
- Er mwyn cael mwy o wybodaeth am ganser a phobl ifanc, i’ch paratoi ar gyfer ateb cwestiynau, edrychwch ar wefan Teenage Cancer Trust (ar:www.teenagecancertrust.org).
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, 'I believe I can fly' gan R. Kelly neu 'Hero' gan Mariah Carey, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Pe byddech chi'n derbyn y newydd eich bod yn dioddef o waeledd difrifol, tybed sut byddech chi'n ymateb neu’n mynd i'r afael â’r ffaith?
Mae'n anodd meddwl sut y byddem yn teimlo. Mae'r mwyafrif ohonom yn gobeithio na fydd angen i ni wynebu rhywbeth fel hynny, naill ai yn ein bywyd ein hunain nac ym mywydau'r rhai a garwn. - Fodd bynnag, diagnosis fel yna a dderbyniodd un dyn ifanc - rhywun oedd ar drothwy ei fywyd fel oedolyn. 15 mlwydd oed oedd Stephen Sutton pan gafodd wybod bod ganddo ganser. Fe rannodd ei daith yn ystod ei afiechyd trwy sefydlu blog yr oedd yn gobeithio a fyddai o gymorth i bobl eraill. Efallai eich bod yn gallu dwyn i gof y llun a osododd ar y blog, y credai a fyddai'r llun olaf ohono, gyda’i fawd i fyny, a chofio fel yr ymledodd hwnnw fel tân gwyllt drwy'r byd yn y flwyddyn 2014.
Dangoswch y delweddau o Stephen Sutton.
Pan gollodd y frwydr yn erbyn ei afiechyd ar 14 Mai 2014, gadawodd ar ei ôl waddol o atgofion, ac roedd wedi llwyddo i wneud cymaint i godi ymwybyddiaeth am rai yn eu harddegau gyda chanser. - Dewrder Stephen yn delio â pheth o'r newyddion gwaethaf y gall unrhyw un orfod ei wynebu, ynghyd â'i ddiffuantrwydd, ei onestrwydd a'i benderfyniad anhunanol, a'i gwnaeth yn gymeriad mor hynod. Nid yn unig fe gyflwynodd lawer o'r amser oedd ganddo ar ôl i helpu eraill, ond fe lwyddodd i godi miliynau o bunnoedd er budd pobl ifanc eraill a oedd yn dioddef â chanser. Dechreuodd Stephen gyda nod o godi £10, 000ar gyfer Ymddiriedolaeth 'Teenage Cancer'.Pasiodd y nod hwnnw yn hawdd ac, erbyn heddiw, llwyddodd i sicrhau mwy na £5.5 miliwn o bunnoedd i’r elusen! Dyma'r swm uchaf a godwyd erioed gan unigolyn ar gyfer yr elusen.
- Efallai mai cymeriad Stephen a gyffyrddodd rhyw dant yng nghalon llawer o bobl, gan adael argraff hirhoedlog ar bawb a gyfarfu ag ef neu a glywodd am ei hanes.
- Fel person ifanc, roedd Stephen eisoes ar drywydd helpu pobl.Roedd yn ddeallus a thosturiol ac eisiau astudio i fod yn feddyg. Cafodd gyfweliadau ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Ym mis Ionawr 2013, pan dderbyniodd Stephen y newydd nad oedd modd gwella'r canser oedd ganddo, sefydlodd dudalen Facebook dan yr enw ‘Stephen’s Story’.Arni, fe greodd restr o bethau yr oedd eisiau eu cyflawni, neu eisiau cael profiad ohonyn nhw fel modd o ymdopi â'r cyflwr – ei restr bwced. Aeth ati i greu blog fel bod pobl yn gallu darllen am ei ymdrechion i gyflawni'r amcanion hyn.
Disgrifiwyd Stephen gan y rhai a oedd yn ei adnabod fel un ffraeth a direidus, a gellir gweld hynny yn yr hiwmor a amlygodd wrth iddo fynd ati i gyflawni rhai o'r dymuniadau oedd ar ei restr bwced. Ymhlith y rhain roedd y dymuniad i gyfarfod nifer o enwogion mewn gwahanol feysydd, o gerddoriaeth roc i gomedi; mynd ar wyliau i fechgyn, a hyd yn oed ddysgu gyrru tractor. - Yn ychwanegol at ei ddymuniadau personol, fe wnaeth Stephen gynnwys llawer o ddigwyddiadau codi arian ymysg y gweithgareddau ar ei restr bwced. Roedd eisiau trefnu gêm bêl-droed elusennol a dwyn perswâd ar ysgolion i gynnal diwrnod 'llawn hwyl' gyda'r disgyblion ddim yn gorfod gwisgo eu gwisg ysgol arferol!
- Llwyddodd Stephen i roi tic gyferbyn â llawer o'r syniadau oedd ar ei restr bwced, ond ei angerdd i godi arian ar gyfer y 'Teenage Cancer Trust' sydd wedi cael, ac yn parhau i gael, effaith anferthol.
- Er ei fod mor ifanc, mae gweithredoedd Stephen yn ein haddysgu am bwysigrwydd gwneud y gorau o'n bywyd er gwaethaf y sialensiau a wynebwn. Os oes rhywbeth yr ydym yn teimlo'n angerddol drosto, yna fe ddylem ddechrau gweithredu yn awr!
- Derbyniodd Stephen lawer o anrhydeddau i gydnabod ei gyflawniadau, yn cynnwys yr MBE. Heddiw, hyd yn oed ar ôl marwolaeth Stephen, mae ei bositifrwydd a'i agwedd ysbrydoledig yn parhau. Daliodd ei weithredoedd ddychymyg y cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth am ganser ar rai yn eu harddegau fel na lwyddodd unrhyw un erioed cyn hynny.Mae ei waith yn parhau i ddarparu cyllid sydd wir ei angen i gefnogi pobl ifanc â chanser, ond hefyd yn eu haddysgu am bwysigrwydd cael diagnosis yn gynnar.
Amser i feddwl
Dyma ddatganiad personol a ysgrifennwyd gan Stephen yn 2011.
‘To put it simply, I’m awesome, incredible and amazing. Quite a statement I know, but it’s an attitude I’ve been forced to take up lately, simply due to being diagnosed with cancer about a year ago.
I look for no sympathy, but I thought it appropriate to mention it early because, in a really cheesy, defining and perhaps peculiarly ironic way, in the long term at least, I see it as one of the best things that have happened in my life. The drive, the motivation and the satisfaction I now take from life is the reason I thought it appropriate to start with such a bold statement. I find it hard to express my feelings via the characters I am currently typing, but honestly, life is what you make it, and I want it to be good. The positive outlook I now take on life has ignited a passion to learn and a desire to succeed.’
Ac fe roddodd mam Stephen y deyrnged hon i’w mab.
‘Stephen, your life may have been short but it was immensely significant and you demonstrated pure selflessness and positivity throughout. The feisty, determined way you tackled each diagnosis never allowed your spirit to falter. What always came through was pure Stephen, bright as any diamond and just as tough.
Each of your astonishing achievements over the last 17 months of your life created another memory, another impression to keep forever, another moment that cancer couldn’t steal. Your blog,' Stephen’s Story', wittily detailed your day-to-day life and because of your positivity was inspirational. By being so willing to share yourself so totally and with such honesty you defined the best of being human. Myself, friends and people you never met loved you for that.
. . . It was an absolute honour to be your mum, Stephen.’
Os hoffech chi ddod i wybod mwy am Stephen, gwelwch y dudalen amdano ar wefan Teenage Cancer Trust. Ac i wybod mwy am Teenage Cancer Trust hefyd, fe allwch ymweld â’r wefan, at: www.teenagecancertrust.org
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Rydyn ni’n diolch am fywyd Stephen Sutton, dyn ifanc dewr ac ymroddgar.
Gad i ni gael ein hysbrydoli drwy ei esiampl, a boed i hynny ein helpu bob dydd i ddod yn well pobl.
Boed i’n bywydau bob dydd gael effaith gadarnhaol ar bobl eraill.
Gad i’r ysbryd cadarnhaol a ddangosodd Stephen ein hysbrydoli ninnau i fod yn gadarnhaol ynglyn â’r pethau rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn eu cylch.
Bydd gyda’r rhai sy’n mynd trwy adegau anodd.
Rho obaith iddyn nhw a chryfder.
Amen.
Cerddoriaeth
'I believe I can fly' gan R. Kelly, neu 'Hero' gan Mariah Carey