Rhywbeth i’w gynnig
Mae gan bawb rywbeth i’w gynnig
gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Dangos fod gennym bob amser rywbeth i’w gynnig mewn bywyd, waeth pa mor fach yw’r peth hwnnw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd angen i chi ymgyfarwyddo â’r stori Feiblaidd sydd i’w chael yn 2 Brenhinoedd 4.1–7. Efallai yr hoffech chi ddarllen y stori hon o’r Beibl, neu fe allech chi ddefnyddio’r aralleiriad sy’n cael ei roi yma i chi.
Gwasanaeth
- Pe byddai’r clyweliadau ar gyfer y rhaglen deleduX Factoryn cael eu cynnal yn (enw eich tref)ar gyfer eich grwp oedran chi, faint ohonoch chi fyddai’n ymgeisio?
Pe byddaiBritain’s Got Talentyn dod i(enw eich tref), pwy fyddai’n mynd draw i’r clyweliadau?
Pe byddai David Beckham eisiau sefydlu academi pêl-droed yma yn (enw eich tref), pwy ohonoch chi fyddai’n awyddus i gael mynd am dreial? - Mae rhai ohonoch yn dda iawn am ganu, neu’n meddu ar dalent neilltuol, neu’n ddawnus ym myd y bêl-droed. Ond nid pawb, yn anffodus. Fe fydd rhai ohonoch, efallai, yn eistedd yno’n teimlo nad ydych chi’n dda am wneud unrhyw beth penodol. Does dim arbennig y gallwch chi ei wneud. Does gennych chi ddim i’w gynnig, rydych chi’n meddwl.
- Roedd y wraig yn ein stori heddiw yn meddwl nad oedd ganddi hi unrhyw ddawn ychwaith. Mae’r stori i’w chael yn 2 Brenhinoedd 4.1-7.
Pan fu fawr ei gwr, gadawyd y wraig â dyledion mawr. Doedd ganddi ddim arian i fyw arno, heb sôn am unrhyw arian sbâr i dalu dyledion ei gwr. Roedd y dynion a oedd yn mynnu’r arian ganddi yn bygwth mynd â’i dau fab oddi wrthi fel caethweision os na wnâi hi dalu dyled ei gwr. Roedd hi’n teimlo ar ben ei thennyn, yn hollol anobeithiol!
Doedd dim budd-daliadau i’w cael gan lywodraeth y wlad, na gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i droi ato y dyddiau hynny. Mewn anobaith llwyr, fe aeth y wraig i geisio help gan ddyn duwiol o’r enw Eliseus. Yn ddiddorol, nid dim ond rhoi iddi’r hyn yr oedd hi ei angen a wnaeth Eliseus, a datrys y broblem iddi. Yn hytrach, fe wnaeth iddi edrych ar yr hyn oedd ganddi, a meddwl sut y byddai’n gallu defnyddio hynny.
‘Dywedwch wrthyf,’ gofynnodd iddi, ‘beth sydd gennych chi yn y ty?’
Atebodd y wraig, ‘Does gen i ddim byd yn y ty ar wahân i jar ac ychydig o olew ynddo.’
Efallai eich bod yn meddwl, ‘Pa werth fyddai dim ond un jar o olew?’ Wel, mewn sawl ffordd, rydych chi’n iawn i feddwl hynny! Wedi’r cyfan, fyddai’r wraig ddim yn gallu coginio unrhyw beth heb gael cynhwysion eraill i’w coginio yn yr olew. Beth yn y byd allai hi ei wneud â’r olew? Yn wir, fyddai hi byth yn gallu cael digon o arian i dalu’r ddyled, ac achub ei meibion rhag gorfod bod yn gaethweision, gydag un jar o olew! Ond fe ddywedodd Eliseus wrthi am gasglu jariau olew gwag gan ei chymdogion ac arllwys olew o’i jar hi i mewn i’r jariau gwag.
Rhaid bod ei chymdogion yn credu ei bod yn dechrau gwallgofi, ond roedd y wraig yn ddewr iawn yn dyfalbarhau â’r cynllun. Fe benderfynodd wneud yn union fel roedd Eliseus wedi dweud wrthi. Ac yn wyrthiol iawn, fe lanwodd hi bob un o’r jariau gwag ag olew. A’r canlyniad oedd iddi gael digon o arian am yr olew i dalu holl ddyledion ei gwr, a digon o arian dros ben i fyw arnyn nhw am weddill ei bywyd. Fe arbedwyd ei meibion a hithau!
Ar y dechrau dim ond ychydig o olew oedd gan y wraig – dim bron. Ond pan ddechreuodd hi ei ddefnyddio fe ddaeth yn rhywbeth llawer iawn mwy, ac ar y diwedd fe ddaeth yn rhywbeth a fu’n fodd o ddatrys ei holl broblemau. - Ambell waith, fe allwn ninnau deimlo’n debyg i sut roedd y wraig hon yn teimlo. Fe fyddwn ni’n teimlo nad oes gennym unrhyw beth i’w roi. Ond mae gan bawb ryw ddawn, waeth pa mor fychan. Mae’n golygu dewrder mawr i ddefnyddio’r ychydig sydd gennym ni, oherwydd ein bod ofn i rywun chwerthin am ein pen. Ond wrth i ni ddechrau defnyddio a datblygu ein doniau bychain, mae’n bosib iddyn nhw dyfu’n rhywbeth rhyfeddol, - yn union fel y jar olew.
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio ychydig o amser yn meddwl am y galluoedd a’r nodweddion cadarnhaol sy’n perthyn i ni.
Saib i’r gynulleidfa feddwl.
Nawr, gadewch i ni feddwl am sut y gallwn ni ddefnyddio’r cyfan sydd gennym ni er daioni.
Saib eto i feddwl.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y doniau rwyt ti wedi eu rhoi i mi.
Helpa fi i weld gwerth ym mhob peth y byddaf yn ei wneud.
Helpa fi i ddefnyddio popeth sydd gen i.
Helpa fi i annog pobl eraill i ddefnyddio eu doniau’n gadarnhaol, er daioni.
Diolch y gallwn ni, gyda dy help di, droi dim yn rhywbeth.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.