Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd
Mae 18 Mai 2016 yn Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd
gan Vicky Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Defnyddio Diwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd er mwyn ystyried pwysigrwydd amgueddfeydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo Youtube o hysbyseb 2015 yr HSBC, ‘Museum of Procrastination’, a’r modd o ddangos hwn yn ystod y gwasanaeth.
- Chwaraewch hwn o’r dechrau hyd at 51 eiliad.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o gerddoriaeth thema’r ffilm Night at the Museum, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
- Lluniwch restr o amgueddfeydd yn eich ardal leol. Fe allwch chi chwilio yn ôl rhanbarth neu yn ôl y dref ar y wefan: http://www.moneysavingexpert.com/deals/free-museums-and-art-galleries
- Dewisol: trefnwch fod gennych chi fodd o gofnodi’r atebion y mae’r disgyblion yn eu rhoi i chi.
- Mae gwefan Diwrnod Rhyngwladol yr Amgueddfeydd (The International Museum Day) yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys poster y mae modd ei lwytho i lawr, sydd ar gael ar: http://network.icom.museum/international-museum-day
- Dewisol: defnyddiwch Wordle i greu delwedd o gwmwl geiriau (‘word cloud’ image) yn dangos eich hoff amgueddfeydd. Neu chwiliwch am rai hen luniau o’ch ymweliadau chi ag amgueddfeydd pan oeddech chi’n blentyn!
Gwasanaeth
- Rhannwch atgofion o'ch ymweliadau â'ch hoff amgueddfeydd. Os yn bosib, soniwch am rai storïau doniol am yr ymweliadau hyn, neu cyflwynwch y thema am amgueddfeydd trwy ddefnyddio'r 'cwmwl geiriau' yr ydych wedi ei greu.
- Gofynnwch i'r myfyrwyr enwi hoff amgueddfeydd y maen nhw wedi ymweld â nhw a nodi'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yw pwrpas amgueddfa.
Efallai yr hoffech chi gofnodi eu hatebion. - Mae Cyngor Rhyngwladol yr Amgueddfeydd (ICOM) yn diffinio amgueddfa fel: ‘A non-profit, permanent institution in the service of society and its development, open to the public, which acquires, conserves, researches, communicates and exhibits the tangible and intangible heritage of humanity and its environment for the purposes of education, study and enjoyment.'
- Ers y flwyddyn 1977, mae ICOM wedi trefnu digwyddiad blynyddol sy'n cael ei alw'n Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd. Cynhelir y Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd nesaf ar 18Mai 2016. Bob blwyddyn, dewisir thema wahanol sy'n bwysig i gymuned ryngwladol amgueddfeydd. Y flwyddyn hon, y thema fydd 'Amgueddfeydd a Thirweddau Diwylliannol’.
- Pwrpas Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd yw amlygu pwysigrwydd amgueddfeydd yn natblygiad cymdeithas ac, yn neilltuol, sut mae amgueddfeydd yn annog gwell dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau o gwmpas y byd. Mae'r trefnwyr yn credu bod yr ymwybyddiaeth hon o'r amrywiaeth sy'n bodoli yn ein byd, yn y gorffennol a'r presennol, yn fodd i hybu cyd-ddealltwriaeth, cydweithrediad a heddwch ymysg pobloedd.
- Y llynedd, cymerodd dros 35,000 o amgueddfeydd, mewn 145 o wledydd, ran yn Niwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd. Anogwch y myfyrwyr i holi am yr hyn y mae eu hamgueddfa leol yn ei wneud ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd.
Amser i feddwl
Mae adnod yn y Beibl y byddai’n bosib ei chymhwyso i thema heddiw.
‘Bydd ofalus, a gwylia’n ddyfal rhag iti anghofio’r pethau a welodd dy lygaid , a rhag iddynt gilio o’th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i’th blant ac i blant dy blant.’ (Deuteronomium 4.9)
Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld hysbyseb yn ddiweddar oedd yn cynnwys amgueddfa ddychmygol. Mae hynny'n dangos yn eglur sut y gall amgueddfeydd fod yn lleoedd sy'n gwneud i ni feddwl a myfyrio.
Dangoswch y clip fideo Youtube o hysbyseb 2015 yr HSBC, ‘Museum of Procrastination’, sydd ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=tGKNPuLB14o)
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am leoedd ysbrydoledig rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw, fel amgueddfeydd.
Diolch i ti am y modd y maen nhw'n ein helpu i gofio beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.
Diolch i ti am y modd y maen nhw'n ein helpu i fyfyrio ar ein byd, ein hanes a'n diwylliant.
Helpa ni bob amser i fod yn barod i ddysgu oddi wrth y gorau a'r gwaethaf o'r hyn a welwn, fel y gallwn osgoi camgymeriadau'r gorffennol.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
Cerddoriaeth thema’r ffilm Night at the Museum, ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=SRO_5HR5ats