Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pobl Ysbrydoledig: Nifer o bobl ifanc

Cyflawniadau plant a phobl ifanc ysbrydoledig

gan Philippa Rae

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu'r gwahaniaeth y mae plant a phobl ifanc ysbrydoledig yn ei wneud i fywydau pobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Meddyliwch am adeg pan oeddech chi wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Efallai eich bod wedi ymwneud â chodi arian, fel taith gerdded noddedig neu gyfnod o ddistawrwydd noddedig. Efallai eich bod wedi gwirfoddoli eich amser i helpu eraill trwy wasanaethu ar stondin mewn digwyddiad codi arian, neu gynorthwyo pobl oedrannus gyda'u siopa. Mae'r holl bethau hyn yn ffyrdd ardderchog o helpu pobl eraill, ac fel y dywedodd Steve Jobs, cyd-sefydlydd cwmni Apple, ‘Things don’t have to change the world to be important.’

Heddiw, rydym yn mynd i drafod rhai pobl ifanc sydd wedi cymryd eu hystyriaethau am gyfrifoldeb cymdeithasol ymhellach fyth yn eu nod o helpu eraill. Maen nhw'n byw mewn gwahanol rannau o'r byd, ac mae'r cyfraniadau a wnaethon nhw yn wahanol iawn, ond maen nhw i gyd yn rhannu'r un syniad am gyfrifoldeb a thosturi. Nod pob un ohonyn nhw yw gwneud bywydau pobl eraill yn well.

  1. Weithiau, gall dim ond rhywbeth bach ein hysbrydoli. Mae KatieStaglianoyn byw yn America. Pan oedd hi'n naw mlwydd oed, fe ddaeth â hedyn bresychen adref yn rhan o Raglen yn ei hysgol o'r enw: 'Bonnie Plants 3rd Grade Cabbage Program'. Fe ofalodd Katie am ei hedyn a'i feithrin nes iddo dyfu yn llysieuyn enfawr yn pwyso 40 pwys! Cyflwynodd Katie ei bresychen i gegin gawl, a chafodd ei defnyddio i fwydo dros 275 o bobl. O'r un fresychen fe ddatblygodd y syniad ar gyfer ‘Katie’s Krops’, sef prosiect i greu gerddi llysiau lle byddai modd cyfrannu cynnyrch ffres ac iachus i bobl mewn angen.

Heddiw, mae 'Katie’s Krops' yn cynnig grantiau i blant rhwng naw a 16 oed, sy'n eu galluogi i brynu'r deunyddiau y maen nhw eu hangen i dyfu eu cynnyrch eu hunain. Mae lleoedd tyfu'n amrywio mewn maint, o botyn sydd yn ddigon mawr i dyfu un llysieuyn i ‘gae pawb’ neu randir penodedig. Mae'r syniad yn un syml, yn hwyl ac yn llwyddiannus dros ben - yn y flwyddyn 2015, roedd 83 o erddi 'Katie's Krops' ledled America. Mae'r gerddi nid yn unig yn cynhyrchu cyflenwadau iachus ar gyfer y newynog, ond maen nhw hefyd yn rhoi grym i'r rhai sy'n tyfu'r llysiau, drwy eu darparu â sgiliau bywyd gwerthfawr a meithrin ynddyn nhw'r syniad o falchder a chyfrifoldeb.

  1. Cafodd bachgen pymtheg mlwydd oed o'r enw James Curtis effaith enfawr hefyd. Y llynedd, fe enillodd y wobr 'The Children’s Achievement Award' a oedd yn rhan o'r 'The Children and Young People Now Awards'. Mae'n llysgennad ar ran elusen o'r enw 'Auditory Verbal UK', sy'n addysgu babanod a phlant byddar i wrando a llefaru fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial mewn bywyd. Mae James yn gweithio gyda'u rhieni ac yn hyfforddi cynghorau a gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd gwladol ar ran plant byddar. Cododd fwy na'r swm o £500,000 tuag at hyfforddi mwy o therapyddion clybodol geiriol trwy annerch cannoedd o weithwyr busnes proffesiynol.  Mae hyn yn gyflawniad enfawr i unrhyw laslanc, ond hyd yn oed yn fwy o gamp o wybod fod James wedi cael ei eni'n hollol fyddar ac wedi gorfod derbyn blynyddoedd o therapi clybodol geiriol. Nid yn unig y mae'n eiriolwr ysbrydoledig ar ran plant a phobl ifanc sy'n fyddar, ond mae hefyd yn ddelfryd o gymeriad i laslanciau eraill.

  2. Mae Ryan Hreljac yn byw yng Nghanada. Pan oedd yn chwe blwydd oed, fe ddysgodd am y canlyniadau dinistriol yr oedd pobl yn eu hwynebu mewn gwledydd lle'r oedd diffyg glanweithdra a dim modd gallu cael cyflenwad o ddwr glân, ffres. Er ei fod yn ifanc iawn, roedd ganddo deimlad mor gryf fel ei fod eisiau mynd i’r afael â'r broblem. Ar y dechrau, aeth Ryan ati i wneud tasgau ychwanegol i ennill arian. Ymhellach ymlaen, fe ddechreuodd gymryd rhan mewn digwyddiadau siarad cyhoeddus gyda'r bwriad o godi'r $2,000 oedd ei angen ar gyfer ei ffynnon gyntaf yng ngogledd Uganda. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd y 'Ryan’s Well Foundation' ei sefydlu. Heddiw, mae gan dros 992 o gymunedau yn meddu ar ddwr glân o ganlyniad i'r prosiect hwn ac adeiladwyd 1,153 o doiledau mewn 16 gwlad. Mae'r Sefydliad wedi achub bywydau trwy leihau'r risg o haint ac wedi rhoi i fwy na miliwn o bobl fregus obaith am ddyfodol mwy llewyrchus. 

  3. Deg oed yw Elle Grace Morris. Cafodd ei rhieni wybod ei bod yn dioddef o'r cyflwr meddygol, ffibrosis cystig (cystic fibrosis), pan oedd hi'n 15 mis oed. Mae Elle angen trawsblaniad ysgyfaint dwbl, ond mae'r ffordd hawddgar ddewr a haelionus sydd ganddi wedi cael effaith uniongyrchol ar bawb sy'n cyfarfod â hi. Er gwaethaf ei hafiechyd, fe gafodd Elle'r syniad o recordio cân er mwyn codi arian at Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig ac Elusen Plant yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Roedd hi'n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i'r sefydliadau a oedd wedi ei helpu hi a phlant eraill, trwy godi ymwybyddiaeth am ffibrosis cystig a phwysigrwydd rhoi organau ar gyfer trawsblaniad. Gyda chymorth ei mam, fe berswadiodd nifer o enwogion i recordio cân er mwyn codi arian. Mae gan y gân, o'r enw 'Breathe - life unlimited', cymaint â 200 o bobl yn y cast yn cyd-ganu. Mae'r cast yn cynnwys rhai sy'n byw gyda'r cyflwr ffibrosis cystig, a hefyd 35 o enwogion, yn eu mysg Olly Murs a Rita Ora. Mae'r gân yn cynnwys pawb ohonyn nhw'n anadlu'n ddwfn dros gefndir o gerddoriaeth gan offerynnau cerddorol.

Amser i feddwl

Fe ddywedodd yr awdures, Sarah Addison Allen, 'You can't change where you came from, but you can change where you go from here.’

Gadewch i ni feddwl am bobl yr ydym newydd glywed eu storïau. Gyda phob un ohonyn nhw, fe ddatblygodd syniad syml yn rhywbeth arwyddocaol.

Gofynnwch i'r myfyrwyr pa beth yn eu storïau wnaeth eu hysbrydoli.

Mae Katie, James, Ryan ac Elle i gyd yn bobl ifanc dewr, gofalgar a thosturiol. Fe wnaeth pob un ohonyn nhw gael eu hysbrydoli i wneud newid cadarnhaol trwy godi ymwybyddiaeth gadarnhaol ynglyn â materion a oedd yn bwysig iddyn nhw. Roedden nhw'n dymuno gwneud y dyfodol yn well ar gyfer pobl eraill.

Gofynnwch i'r myfyrwyr ydyn nhw’n gallu meddwl am ffordd y gallen nhw wneud gwahaniaeth.

Efallai nad oes gennych syniad a fyddai’n gallu datblygu'n brosiect enfawr, ond efallai y gall bawb ohonom wneud rhywbeth am ychydig oriau bob mis a fyddai'n fodd o helpu gwella ychydig ar fywyd rhywun. Efallai y gallen ni fod yn ymwneud â gwaith gwirfoddoli neu godi arian. Neu, efallai y gallech chi feithrin dewrder i gymryd y camau cyntaf tuag at rywbeth mwy!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am bobl ifanc fel Katie, James, Ryan ac Elle, sydd wedi gweithio’n galed i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Diolch i ti am y bobl ifanc eraill, ledled y byd, y mae eu synnwyr o gyfrifoldeb yn rhoi ysbrydoliaeth ac angerdd iddyn nhw i helpu eraill.
Helpa ninnau i fod yn well pobl, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd y rhai hynny y byddwn ni’n cwrdd â nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Greatest love of all’ gan Whitney Houston

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon