Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Maddeuant a chosb

Y terfynoldeb o fewn y drafodaeth ar y gosb eithaf.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried dwy ochr y ddadl ar y gosb eithaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Fe fydd arnoch chi angen rhifyn cyfredol o bapur newydd cenedlaethol.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo TrueTube, ‘Death Penalty Debate’ a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para 1.35 munud.

Gwasanaeth

Arweinydd:Mae rhai troseddau ofnadwy yn cael eu cyflawni yn ein cymdeithas wâr honedig.

Agorwch y papur newydd a smaliwch eich bod yn pori trwy'r tudalennau.

Byddai llawer o bobl yn ystyried mai'r rhai gwaethaf yw'r llofruddiaethau, yn enwedig llofruddiaethau sy'n ymwneud â phlant ifanc neu'r henoed. Nid yw’r rhai sydd wedi cael eu llofruddio yn cael y siawns i fyw eu bywyd yn llawn.

Efallai y byddwch yn dymuno gwneud sylw ar stori gyfredol a pherthnasol sydd yn y newyddion.

Caiff cyfleoedd eu hatal. Caiff gobeithion eu chwalu. Fydd potensial byth yn cael ei gyflawni.

Mae'n demtasiwn i ddweud bod rhai o'r troseddau hyn yn anfaddeuol. Mae amgylchiadau rhai llofruddiaethau mor erchyll fel mai ein hymateb cyntaf yw na ddylai'r troseddwyr dderbyn unrhyw drugaredd o gwbl. Dyna pa bryd y bydd pobl yn  dechrau gweiddi am ail-sefydlu'r gosb eithaf. Beth yw eich barn chi?

Cymerwch saib i roi cyfle i'r myfyrwyr feddwl.

A ydych chi wedi ystyried y materion i gyd?

A ydych chi wedi edrych ar y dadleuon o'r naill ochr a'r llall?

Dyna beth fyddwn ni'n ei wneud heddiw. Mae'r clip fideo canlynol yn casglu ynghyd y ddwy ochr i'r ddadl.

Dangoswch y clip fide TrueTube, ‘Death Penalty Debate’.

Amser i feddwl

Arweinydd:Mae'n hawdd iawn cytuno â rhai o'r dadleuon dros ail-gyflwyno'r gosb eithaf. Gadewch i ni wrando unwaith yn rhagor ar rai ohonyn nhw.

Darllenydd 1: Mae'n amlwg nad yw'r system o garcharu, sy'n weithredol ar hyn o bryd, ddim yn bodloni'n ddigonol, ddyheadau teuluoedd dioddefwyr am gyfiawnder. Fel mater o ffaith, mae'n aml yn rhoi'r neges, sy'n ymddangos, er bod llofruddio’n weithred ddrwg iawn, nid yw'r gosb mor derfynol â'r llofruddiaeth ei hun. Fe fydd y llofrudd yn parhau'n fyw. Byddai adfer y gosb eithaf yn anfon neges gref i unrhyw lofrudd sy'n bwriadu troseddu gan wneud iddo ef neu hi feddwl eilwaith cyn gwneud hynny. Wedi'r cyfan, a fyddai'n werth cyflawni llofruddiaeth pe byddai hynny'n golygu y byddai’r llofrudd yn colli ei fywyd ei hun? Efallai gyda chosb fwy hallt, y canlyniad fyddai llai o lofruddiaethau oherwydd fe fyddai'r bygythiad o'r gosb eithaf yn gweithredu fel arf ataliol cryf.

Arweinydd: Ai dyna beth yw eich barn chi ar y mater? Os felly, mae'n eithaf dealladwy. Ond gadewch i ni hefyd wrando ar ochr arall y ddadl.

Darllenydd 2: Rwy'n credu bod angen i ni ystyried dwy ffactor: y cyfle i'r troseddwr newid ei ffordd, a'r perygl o wneud camgymeriadau. Un peth yw cyfiawnder, ond mae’n hawdd iawn cymysgu cyfiawnder â dial. Os ydyn ni am i rywun farw oherwydd ei drosedd, onid ydyn ni'n ddim gwahanol i'r llofruddwyr eu hunain? A yw lladd yn cael ei gyfiawnhau dim ond am ei fod yn cael ei weithredu gan y wladwriaeth? Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi dangos yn eglur bod pawb yn haeddu cael y siawns i newid ei ffordd, Fe gynigiodd ef y siawns i sawl troseddwr newid ei ffordd, yn cynnwys y dyn a oedd yn hongian ar y groes wrth ei ymyl. A oes gennym ni, fel bodau dynol, yr hawl i ddweud na all rhywun newid ei gymeriad?

Fodd bynnag, y consyrn mwyaf yw, yn anffodus, bod hyd yn oed barnwyr a rheithgorau weithiau'n gwneud camgymeriadau. Mae achlysuron pan gafodd dedfryd o euogrwydd ei diddymu'n ddiweddarach pan ddaeth tystiolaeth newydd i'r golwg. Cafodd dynion a merched eu rhyddhau o gaethiwed, eu cyhoeddi'n ddieuog a chael y cyfle i wneud dechreuad newydd mewn bywyd. Ond fel gwnaeth y clip fideo ei bwysleisio, fe allwch chi ddod allan o garchar, ond allwch chi ddim dod allan o'r bedd - ‘You can get out of prison, but you can't get out of the grave.’ Mae'r gosb eithaf yn derfynol.

Arweinydd:Y broblem yw nad oes yr un ohonom yn fodau dynol di-fai, ac oherwydd hynny rydym yn aml yn gallu gwneud camgymeriadau. Yn achos y gosb eithaf, nid oes lle i wneud camgymeriadau. Nid oes ail-gyfle ar gael.

Yn y pen draw, tybed a allwn ni fyth ddangos yn hollol eglur beth yw gwir gyfiawnder. Yn sicr, fe ddylai cyfiawnder fod yn ymwneud nid yn unig â chosb, sydd yn haeddiannol, ond hefyd y cyfle i gael gwaredigaeth - i edifarhau, i droi i gyfeiriad amgen, a newid. Dyna beth yw gyfiawnder cyflawn.

Mae'r syniad terfynol eto'n dod oddi wrth Iesu. Fe wynebodd ef sefyllfa un tro pan oedd dynes yn wynebu cael ei lladd, trwy gael ei llabyddio, oherwydd iddi odinebu. Fe roddwyd y cynnig i Iesu gymryd rhan. Gwrthod a wnaeth gan ddweud, ‘Pwy bynnag ohonoch sy’n ddibechod [mewn geiriau eraill, y person sydd heb wneud unrhyw beth o'i le], gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati'. Roedd y dyrfa a oedd wedi ymgynnull i edrych ar yr olygfa'n teimlo embaras wedyn oherwydd eu bod i gyd yn sylweddoli eu bod i gyd yn amherffaith ac yn haeddu cael eu barnu am eu camgymeriadau eu hunain. Fe gerddodd pob un ohonyn nhw ymaith, gan adael llonydd i Iesu ac i'r ddynes. Yn y fan a'r lle, fe roddodd Iesu gyfle i'r ddynes newid ei chymeriad. Efallai y dylen ni i gyd gymryd golwg arnom ein hunain cyn beirniadu’n hallt unrhyw droseddau y gall pobl eraill fod wedi eu cyflawni.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y deallusrwydd rwyt ti wedi ei rhoi i bob un ohonom, gan ein galluogi i feddwl drwy'r materion anodd mewn bywyd a marwolaeth.
Helpa ni i ystyried pob agwedd ar y pethau anodd rydyn ni’n gorfod eu hwynebu mewn bywyd.
Atgoffa ni am athrawiaethau Iesu wrth i ni eu hystyried.
Helpa ni i ddeall y cydbwysedd gofalus rhwng cyfiawnder a maddeuant.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gân ‘Dead man walkin''’, gan Bruce Springsteen, sy'n ceisio portreadu teimladau dyn sydd ar fin dioddef y gosb eithaf.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon